Rhestr y Rhithfro

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dyddgu » Maw 31 Awst 2004 8:53 am

Hm. Bach o bori yn y COA, ac mae'n disgwyl fod rhywbeth tebyg i RSS ar gael - http://www.livejournal.com/community/dy ... g/data/rss

Ond mae'n dangos yr holl côd i gyd. Hmmmmm...! Bach mwy o investigation ei angen yma, rwy'n meddwl... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Dyddgu
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 28 Gor 2004 2:49 pm
Lleoliad: Rhydychen

Re: Rhestr y Rhithfro

Postiogan Rhys » Maw 05 Hyd 2004 5:19 pm

nicdafis a ddywedodd:
Mae sawl enghraifft o gymunedau o flogwyr - <a href="http://www.britblog.com/">Britblog</a> er engraifft, ond dw i'n cymryd na fyddai llawer ohonon ni eisiau ymuno â honno. Ydy hyn yn fodel i ni'r blogwyr Cymraeg. Wnaeth rhywun awgrymu yn diweddar (dw i'n anghofio pwy, sori) y dylen ni drial bod yn fwy cynhwysfawr a chreu cymuned o flogwyr <b>Cymreig</b> a nid jyst <b>Cymraeg</b>, hynny yw rhywbeth dwyieithog. Dw i ddim yn siwr am hynny. Beth mae pobl eraill yn meddwl?


Dwi'n dallt yn iawn be sy gen ti am Britblog (mae'r gair Brit yn achosi i mi boeri fel arfer a dyw jac yr undeb ddim yn gwneud lot o les i'm stumog) ond mae'n gyfle i ledaenu'r neges fel petai. Dwi wedi gosod fy mlog i arno achos dwi ddim yn meddwl bod dysgwyr/potential dysgwyr yn teimlo cweit mor gryf am y peth (nid am eu bod yn daeogion, jyst ddim yn meddwl cymaint am y peth wrach).
Yn amlwg ychydig iawn o bobl o'r wefan fyddai'n gallu darllen yn Gymraeg ac felly chi ddim yn mynd i weld twf aruthrol men ymwelwyr, ond byddai'n codi ymwybyddiaeth am yr iaith ar draws Prydain (ymysg yr ifanc yn bennaf), ac yn bwysiacach fydd ymysg Cymru Cymraeg.
Mae na flog gan foi o Borthmadog sydd a enw Cymraeg ac mae hanes o'n mynd i'r steddfod, ond Sunseg diw flog o. Efallai petai'n gweld cynifer o blogiau Cymraeg byddai'n newid un fo i'r Gymraeg. Ar hyn o bryd mond 16 blog o Gymru sydd arno, felly petai pawb ar y rhithfro'n cofrestru 'on mass' byddai dros 50% blogiau Cymrun'n rhai Cymraeg :!:
Mond syniad
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron