Dw i'n siwr bod pawb ar y maes yn ddarllenwyr selog blogiau Cymraeg, felly bydd hyn yn hen newyddion, ond mae <a href="http://mordicai.blogspot.com/">"blog" Mordicai</a> tipyn bach yn wahanol, ac yn werth eich sylw. Am un peth, nid dyn arferol yw Mordica, ond yn <b>Arglwydd y Tywyllwch Dudew Diwaelod</b>, a does dim lot o reiny yn blogio bob dydd. Nid yn y Gymraeg, ta beth. Am beth arall, nid blog yw e, yn yr ystyr arferol, ond hunangofiant mewn penodau bach dyddiol (hyd yn hyn).
Dw i bron ddim eisiau sgwennu amdano, achos mod i'n dechrau diflasu clywed fy llais fy hun drial hybu pethau fel hyn, a dw i'n siwr nid fi yw'r unig un.
Ond mae hyn <b>yn</b> wych.