Mordicai

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mordicai

Postiogan nicdafis » Sul 22 Awst 2004 8:34 pm

Dw i'n siwr bod pawb ar y maes yn ddarllenwyr selog blogiau Cymraeg, felly bydd hyn yn hen newyddion, ond mae <a href="http://mordicai.blogspot.com/">"blog" Mordicai</a> tipyn bach yn wahanol, ac yn werth eich sylw. Am un peth, nid dyn arferol yw Mordica, ond yn <b>Arglwydd y Tywyllwch Dudew Diwaelod</b>, a does dim lot o reiny yn blogio bob dydd. Nid yn y Gymraeg, ta beth. Am beth arall, nid blog yw e, yn yr ystyr arferol, ond hunangofiant mewn penodau bach dyddiol (hyd yn hyn).

Dw i bron ddim eisiau sgwennu amdano, achos mod i'n dechrau diflasu clywed fy llais fy hun drial hybu pethau fel hyn, a dw i'n siwr nid fi yw'r unig un.

Ond mae hyn <b>yn</b> wych.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Llun 23 Awst 2004 3:05 pm

Nicdafis a ddywedodd:Dw i bron ddim eisiau sgwennu amdano, achos mod i'n dechrau diflasu clywed fy llais fy hun drial hybu pethau fel hyn, a dw i'n siwr nid fi yw'r unig un.

Anodd iawn yw denu diddordeb i wefan, yn enwedig pam fod dy gynulleidfa yn weddol fach. Dwi'n teimlo'n reit aml mai dim ond pobl eraill sy'n bloggio yn y gymraeg sy'n darllen blogs cymraeg. Mae eithaf lot o waith wedi mynd mewn i flog Mordicai, y lluniau a'r ysgrifennu. Ond fel y rhan fwyaf o brosiectau ar y we yn gymraeg, mae'n debyg y bydd o'n cael ei anwybyddu. Nid paned o de pawb mohono, wedi dweud hynny. Debyg bod rhai ddim cweit yn cael y joc.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Llun 23 Awst 2004 3:25 pm

Dw i'n credu dy fod di'n iawn am prinder cynulleidfa am flogiau Cymraeg, gwaetha modd, Macsen; byddai unrhywun sy'n dibynnu ar ymateb gan y Cymry canoloesol wedi rhoi'r ffidl yn y to ers tro byd. Mewn pum mlynedd bydd y bastads i gyd yn esgus bod nhw'n darllen blog Mordicai o'r wythnos gyntaf.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 23 Awst 2004 5:00 pm

Mae o'n blydi ffantastic - peth gora i fi ddarllan ar y we ers oes pys.

Darllennwch bid siwr, cyn i'w grafangau duon estyn am eich calon bydredig.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Chwadan » Llun 23 Awst 2004 6:31 pm

Doniol iawn! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Al Jeek » Llun 23 Awst 2004 6:39 pm

Welish i Mordicai (h.y. y dyn nath ddwyn y nadolig) yn y parc diwrnod o'r blaen. Er fy mod i nawr yn fachgen mawr, mi oedd dal yn rhaid i mi gerdded ar ochr arall y llwybr yn sydyn wrth ei basio. :wps:

:winc:

Blog ardderchog!
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Llun 23 Awst 2004 10:36 pm

Al Jeek a ddywedodd:Welish i Mordicai (h.y. y dyn nath ddwyn y nadolig) yn y parc diwrnod o'r blaen.


Wnest ti rhoi dy fawd i dy drwyn a wiglo dy fysedd? Neu galw am Sion Corn i dy achub? :winc:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Macsen » Maw 05 Hyd 2004 6:53 pm

Dw i wedi gorffen gwneud newidiadau i template blog Mordicai, gan gynnwys creu y faner 'na a'r effaith blur fel yr hen gemau Zelda. Bechinfeddwl? :)

Gweler
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dr Gwion Larsen » Maw 05 Hyd 2004 7:06 pm

Da iawn, ddim yn edrych yn sgwennwr o dan 19 fo bynnag achos geshi rywyn yn ymuno a dyfodol.com o dan yr enw mordicai eironig de :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Macsen » Maw 05 Hyd 2004 7:16 pm

Mae Mordicai yn 6
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai