Tudalen 1 o 11

Cymreigio blog @ blogspot.com

PostioPostiwyd: Maw 24 Awst 2004 4:42 pm
gan nicdafis
Mae sawl un wedi gofyn, ac mae'n ddigon hawdd, ond gan fod pawb yn defnyddio patrymluniau gwahanol, bydd rhaid i chi ddefnyddio tipyn bach o synnwyr cyffredin i addasu'r isod i dy flog di. Dw i'n mynd i addasu y patrymlun "Minima" Bydd rhai o'r camau isod yn or-amlwg i rai.

Cam Un - golygu'r patrymlun (posted by, comments, archives ayb)

Hawddi pawddi.

Mewngofnodi i Blogger a rho glech ar enw dy flog i gyrraedd y dudalen golygu.

Rho glec ar y tab Template.

[Dewisol: dw i'n tueddu copïo a gludo'r testun o'r bocs 'na i mewn i olygydd testun BBEdit dw i'n ei ddefnyddio, ond i chi bobl Windows, mae Notepad yn iawn. Nid Word. Paid defnyddio Word. Mae'n ddrwg i ti.]

Ti ddim moyn ymyrryd â dim byd rhwng y tagiau <head> a </head>, oni bai dy fod di'n gwybod tipyn bach am CSS. Os dwyt ti ddim yn gwybod beth yw CSS, ti ddim moyn meso â fe.

Yn y prif rhan o'r côd, rhwng y tagiau <body> a </body>, cei di newid sawl peth.

Ffeindio rhywbeth sy'n edrych fel hyn, a newid y stwff dw i wedi duo i beth bynnag sy'n dy siwto di:

<p class="post-footer">
<em>posted by <$BlogItemAuthorNickname$> at <a href="<$BlogItemPermalinkUrl$>" title="permanent link"><$BlogItemDateTime$></a></em>
<MainOrArchivePage><BlogItemCommentsEnabled>

<a class="comment-link" href="<$BlogItemPermalinkURL$>#comments"><$BlogItemCommentCount$> comments</a>
</BlogItemCommentsEnabled></MainOrArchivePage> <$BlogItemControl$>
</p>


Wedyn, yr un peth yma:

<!-- Begin #comments -->
<ItemPage>
<div id="comments">

<BlogItemCommentsEnabled><a name="comments"></a>
<h4><$BlogItemCommentCount$> Comments:</h4>
<dl id="comments-block">
<BlogItemComments>
<dt class="comment-poster" id="c<$BlogCommentNumber$>"><a name="c<$BlogCommentNumber$>"></a>
<$BlogCommentAuthor$> said... cei di newid y drefn yma hefyd
</dt>
<dd class="comment-body">


A'r pwt bach yma:

<p class="comment-timestamp">
<a href="<$BlogURL$>">&lt;&lt; Home</a>
</p>



Nesa, rhai o'r pethau yn y sidebar (paid poeni am y proffeil am nawr). Mae sawl adran yn y sidebar, ac maen nhw i gyd yn gweithio yn yr un ffordd. Wna i ddangos un, fel enghraifft.

<h2 class="sidebar-title">Previous Posts</h2>


Cei di newid y teitlau i gyd fan 'na.

Os wyt ti am ychwanegu Rhestr y Rhithfro, mae angen ychwanegu hyn rhywle yn y sidebar:

<h2 class="sidebar-title">Blogiau Cymraeg</h2>

<p>
<script language="JavaScript" src="http://morfablog.com/rhithfro/rhithfro.js"></script>
</p>


Does dim rhaid i ti gadw logo (Saesneg) Blogger, ond mae rhaid cadw linc yn ôl at hafanddalen Blogger (mae hyn yn rhan o'r cytundeb rhwng ti a Blogger). Os wyt ti am newid y botwm am linc testun, cei di newid hyn:

<p id="powered-by"><a href="http://www.blogger.com"><img src="http://buttons.blogger.com/bloggerbutton1.gif" alt="Powered by Blogger" /></a></p>


i hyn:

<p id="powered-by"><a href="http://www.blogger.com" title="Diolch i Blogger">Pwerir gan Blogger</a></p>


Reit, dyna'r cam cyntaf. Cadw y newidiadau, ail-gyhoeddu'r blog, a sieco'r fe (y botwm View Blog). Wyt ti wedi camsillafu "Postiwyd"? Neu yfe jyst fi sy'n wneud hynny?

Amser swper nawr. Mwy yn y man. Gofyn cwestiynau os nad yw rhywbeth yn glir.

PostioPostiwyd: Maw 24 Awst 2004 4:58 pm
gan nicdafis
[Hmm, swper ddim yn barod eto. You can't get the staff...]

Cam dau - Post a comment


I newid y testun "Post a comment" mae rhaid hacio'r patrymlun tipyn bach. Mae Blogger yn defnyddio tagiau arbennig, sy'n creu testun sy'n ymddangos ar y blog. Yn anffodus, mae'r rhain yn cynnwys darnau bach o Saesneg di-angen. Ond maen nhw'n ddigon hawdd i'w newid.

Ffeindia hyn:
Cod: Dewis popeth
<$BlogItemCreate$>


A'i newid i:
Cod: Dewis popeth
<a href="http://www.blogger.com/comment.g?blogID=XXXX&postID=<$BlogItemNumber$>"> Ychwanegu sylw</a>


..ond yn lle XXXX, rho rhif ID dy flog, a fydd yn ymddangos ym mar cyfeiriadau dy borwr. E.e.
http://www.blogger.com/app/template_edit.pyra?blogID=8062499


Felly, yn achos y blog 'na, byddwn i'n dodi:

Cod: Dewis popeth
<a href="http://www.blogger.com/comment.g?blogID= 8062499&postID=<$BlogItemNumber$>"> Ychwanegu sylw</a>

PostioPostiwyd: Maw 24 Awst 2004 5:23 pm
gan nicdafis
Cam tri - about me

Unwaith eto, dyn ni'n sôn am dag arbennig Blogger. Beth sy yn y patrymlun yw:

Cod: Dewis popeth
 
  <!-- Begin #profile-container -->

   <$BlogMemberProfile$>
   
  <!-- End #profile -->


Ond beth sy'n ymddangos ar y we, erbyn i beiriannau uffernol Blogger bennu gyda fe, yw rhywbeth fel hyn (nid yn union fel hyn, wrth gwrs, oni bai taw Rhodri Davies wyt ti):

Cod: Dewis popeth
  <!-- Begin #profile-container -->   <div id="profile-container"> <h2 class="sidebar-title">About Me</h2> <dl class="profile-datablock">   <dt class="profile-img"> <a href="http://www.blogger.com/profile/4276836"> <img width="62" alt="My Photo" height="80" src="http://cymdeithas.com/ts/senedd/rhodri_davies.JPG"> </a> </dt>   <dd class="profile-data"> <strong>Name:</strong>Rhodri Davies </dd>  <dd class="profile-data"> <strong>Location:</strong>Aber, Ceredigion </dd>  </dl>  <p class="profile-link"> <a href="http://www.blogger.com/profile/4276836">View my complete profile</a> </p> </div>    <!-- End #profile -->


Felly, edrych ar dudalen flaen dy flog (http://dyflogdi.blogspot.com) c wedyn ar y côd (View -> Source os wyt ti'n defnyddio porwr MS). Ffeindio'r côd sy'n edrych fel yr uchod, a gludo fe i mewn i dy batrymlun, gan gofio i gyfieithu y darnau amlwg. Nawr bydd rhywbeth fel hyn yn dy batrymlun (neu, os wyt ti'n Podj, yn union fel hyn ;-))

Cod: Dewis popeth
     <!-- Begin #profile-container -->     <div id="profile-container"> <h2 class="sidebar-title">Amdana i</h2> <dl class="profile-datablock">   <dt class="profile-img"> <a href="http://www.blogger.com/profile/4276836"> <img width="62" alt="Fy ffoto i" height="80" src="http://cymdeithas.com/ts/senedd/rhodri_davies.JPG"> </a> </dt>   <dd class="profile-data"> <strong>Enw:</strong>Rhodri Davies </dd>  <dd class="profile-data"> <strong>Lleoliad:</strong>Aber, Ceredigion </dd>  </dl>  <p class="profile-link"> <a href="http://www.blogger.com/profile/4276836">Gweld fy mhrofeil</a> </p> </div>     <!-- End #profile -->   


(N.B. mae'n bosib bydd y côd yn edrych yn wahanol iawn i hyn. Os dwyt ti ddim wedi llwytho llun, er enghraifft, bydd dim tagiau img src.

Cadw'r patrymlun, ail-gyhoeddu, tseco.

Aha, swper.

PostioPostiwyd: Maw 24 Awst 2004 5:51 pm
gan nicdafis
Cam pedwar - dyddiadau

Ar hyn o bryd, does dim opsiwn Cymraeg gyda Blogger, ond does dim angen stico at y Saesneg chwaith.

O'r dudalen olygu, rho glec ar y tab Settings wedyn ar Formatting. O'r sgrîn hwn cei di newid y Date Header Format i rywbeth fel 24.8.04 a'r Archive Index Date Format i 08/04.

Neu, cei di newid y Date Language i Islandeg, neu iaith arall o'th ddewis, fel dw i wedi wneud ar <a href="http://poppeth.blogspot.com">Pop Peth</a>.

Ond nawr bod mwy ohonon ni yn defnyddio Blogger, beth am ofyn am opsiwn Cymraeg? Google sy biau Blogger, ac maen nhw'n dda iawn am bethau fel hyn, fel arfer.

Dyna'i gyd, dw i'n meddwl. Mae'n bosib mod i wedi anghofio rhywbeth, felly os oes Saesneg o hyd ar dy flog, rho wybod a wna i edrych 'to.

Pob lwc.

PostioPostiwyd: Maw 24 Awst 2004 6:06 pm
gan Macsen
Nicdafis a ddywedodd:Cam tri - about me


Mae ryw un yn gwrando. :winc:

PostioPostiwyd: Maw 24 Awst 2004 6:25 pm
gan nicdafis
Mae Mordicai yn clywed popeth.

PostioPostiwyd: Mer 25 Awst 2004 9:13 am
gan Aran
Gobeithio y byddi di'n gweld hyn fel cyfraniad, Nic, a dim yn cael dy bechu ar ôl dy holl waith uchod...

Ond wnes i ddarllen o, a chael fy nychryn ar ran y gwaith sydd ei angen i Gymreigio'r blogiau 'ma...

Felly dw i 'di bod yn meddwl am sut mae gwneud hyn yn haws i bobl, ac wedi cael hyd o sustem sydd yn fy ngalluogi fi i redeg cymaint â dw i isio o flogiau oddi ar cymrurydd.com.

Dw i newydd orffen ei chyfieithu, ac mae modd i mi setio cyfrif am ddim i fyny i unrhywun sydd o ddifri am flogio (mi gymrith pum munud i mi wneud hynny, felly 'swn i'n ddiolchgar iawn 'sai dim ond pobl sydd o ddifri am flogio yn gofyn!) - mae gen i 8 templad wedi'u cyfieithu'n barod, ac mi wna i fwy dros y misoedd nesaf...

Manylion llawn ar http://www.blogsgwarnog.cymrurydd.com ac enghraifft arall o'r templad ar http://www.blogcymuned.cymrurydd.com ...

Ymflogiwn...!

(o, a hyd y gwela i (anodd i fod yn hollol sicr, cwcis ayyb) does dim angen fod yn aelod neu unrhywbeth i adael sylwadau gyda cymrurydd.com, sydd yn un o'r pethe sydd yn mynd ar fy nerfau braidd gyda blogspot, er enghraifft...)

PostioPostiwyd: Mer 25 Awst 2004 12:03 pm
gan Ifan Saer
Diolch Nic, lot o help gwerth chweil! Feddylies i byth y baswn i'n gallu gneud y newidiada'!

Ond dwi di trio a methu gneud dim efo'r proffeil, h.y. 'about me' a 'view profile'. Wedi trio, ond heb lwyddo. Be' dwi'n neud o'i le?

PostioPostiwyd: Mer 25 Awst 2004 12:29 pm
gan eusebio
'dwi wedi gwneud i ffwrdd efo'r darn 'about me' a rhoi fy enw a lleoliad a llun i fewn fy hun yn y lle priodol.

PostioPostiwyd: Mer 25 Awst 2004 12:32 pm
gan eusebio
<h2 class="sidebar-title">Pwy Ydw I?</h2>
<ul class="amdanf i">
<fi>
<li>
<img border="2" src="http://a470.users.btopenworld.com/Pics/budapest-200.jpg" style="border: 2px double #CCCCCC; padding-left: 4; padding-right: 4; padding-top: 1; padding-bottom: 1" width="200" height="150">
</li>
<h2 class="sidebar-title">Enw: Gary<br>Lleoliad: Ynys Môn</h2>

</fi>
</ul>



Lle roedd y darn am 'about me' 'dwi wedi rhoi'r uchod - tydw i ddim yn gwybod os yw'n help i unrhyw un.