Tudalen 11 o 11

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 11:05 am
gan Huw Psych
Tegwared ap Seion a ddywedodd:s

PostioPostiwyd: Iau 26 Ion 2006 3:03 pm
gan Ari Brenin Cymru
Oes rhywun yn gwybod os ydi hi'n bosib i gael noddwyr ar eich blog Cymraeg? Wrth arwyddo fyny i gael hysbysebion ar fy mlog gofynodd ym mha iaith yr oedd fy mlog, ac yn amlwg, yng Nghymraeg y mae, a does dim dewis o Gymraeg yno, felly a ydi hi'n bosibl?

PostioPostiwyd: Iau 26 Ion 2006 4:27 pm
gan Rhys
Dwi ddim yn meddwl bod na fodd dewis hysbysebion Cymraeg yn unig, ond mae'n bosib bod cwmniau Cymraeg yn defnyddio AdSense, ac o be dwi'n ddallt, mae'r math o hysbysebion sy'n ymddangos ar dy flog yn cael eu dylanwadu ar y math o bethau ti'n sgwennu amdanynt.

Dwi wedi rhoi tro ar arbrofi gyda hysbysus af fy mlog ar gyfer dysgwyr, ac mae'r hysbysebion am Y Bwrdd Croeso, CD-Roms dysgu Cymraeg (perthnasol iawn), a gwylaiu ym Metws y Coed.

Os ti'n digwydd blogio am rhyw lyfr neu band, efallai mai hysbysebion gan Amazon neu debyg wnaiff ymddangos.

PostioPostiwyd: Iau 26 Ion 2006 4:32 pm
gan Rhys
... efallai bydai modd i Nic (os oes ganddo do neu rhywun arall y mynedd) i osod rhyw sustem hysbysebion fel sydd rwan yn bodoli ar y maes, fel bod modd i flogwyr osod c

PostioPostiwyd: Mer 29 Maw 2006 11:47 pm
gan Huw Psych
<strike>Dwi'n sylweddoli fod cwestiynau tebyg wedi eu gofyn o'r blaen, ond pam fod Rhagfyr yn ymddangos fel 'undefined' wrth i mi edrych drwy'r archif?
Dyma fo
Plis ellith rywun helpu, mi fyddwn i'n ddiolchgar tu hwnt petaech yn gallu fy rhoi ar ben y ffordd. Diolch.X</strike>

Newydd agor fy llygaid a dileu'r busnes [-1]...diolch am y dyddiadau Cymraeg. Popeth yn iawn bellach.

PostioPostiwyd: Llun 01 Mai 2006 1:33 pm
gan Huw Psych
Popeth ddim yn iawn!!
Dydi fy nyddiadau i ddim yn iawn, wel ydyn, ond nac ydyn!! Mae'r dyddiad yn iawn ond dydy'r diwrnod ddim yn iawn...gweler.

Os gwelwch yn dda oes gan rywun ateb i'r broblem??

PostioPostiwyd: Llun 01 Mai 2006 1:35 pm
gan Tegwared ap Seion
Ma gen i ddau mis Mawrth dal i fod hefyd :)

PostioPostiwyd: Llun 01 Mai 2006 1:46 pm
gan Huw Psych
Problem ar f'un i wedi ei sortio bellach, nes i gopio ffynhonnell Tegwared!! :lol:

Tegwared ap Seion a ddywedodd:Ma gen i ddau mis Mawrth dal i fod hefyd :)
Dangosir pob amser fel UTC
Tudalen 11 o 11