Tudalen 6 o 11

PostioPostiwyd: Llun 03 Ion 2005 3:05 pm
gan Rhys
dyma ddolen ar y côd:
http://sbwriel.blogspot.com/2004/09/sgr ... wedii.html

dwi wedi defnyddio hwn yn llwyddianus ar fy mlog Dysgwyr De Ddwyrain ond am ryw reswm mae pethau o chwith braidd ar fy mlog arall sef Gwenu dan Fysiau.

Pan oeddwn yn postio yn mis Rhagfyr, roedd y dyddiad yn ymddangos fel 'Tachwedd' a rwan yn Ionawr, mae'r mis yn ymddangos fel 'Undefined' :?

Oes gan rhywun syniad beth dwi wedi ei wneud o'i le heb fynd i mewn i fy template?

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 3:12 pm
gan tafod_bach
hei dwds. wedi smwddio'r rhan fwyaf o'r bymps allan o drosflog (sortio'r cynnwys allan nesa, addo).

mae gen i un broblem, fodd bynnag - pan dwi'n mynd i'r proffeil, odan 'recent posts', mae'n dangos hen bosts o fy nghais cyntaf (hynod grap) ar flogio oesoedd yn ol. wrth gwrs, os ti'n clicio 'darllen mwy', mae blogger yn dy hysbysu nad yw'r ffeil ar gael. ond mae'r testun dal yna ar y proffeil, a dydi posts y blog newydd ddim yn ymddangos yn eu lle. mae eu presenoldeb yn fe mlino ac embarasio. help plis?

(ddim am gymreigio blog, per se, ond mae o'n egin-flog cymraeg ar hyn o bryd. ella fydd angen symud hwn i bwnc mwy addas? sori) :wps:

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 3:27 pm
gan nicdafis
Mae Blogger yn FFXRD, DWD, dyw a wyr beth sy'n digwydd gyda fe. Mae hanner y rhyngwyneb yn ymddangos yn Tsienieg i mi y dyddiau 'ma.

Lico beth wyt ti wedi wneud â'r blog. Edrych ymlaen at ei ddarllen, heno.

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 3:33 pm
gan tafod_bach
aa wel, ga'n nhw aros yna'n destament i fy ofnadwy-rwydd. diolch eniwe...

PostioPostiwyd: Sul 08 Mai 2005 9:16 pm
gan Wierdo
Mwahahahahaha Mae'r blog yn gymraeg! Diolch! (mae hyn wedi cymryd amser maith i mi neud chos onin ofn Htnls ond wan dwi ddim..wel...ddim gymaint!

PostioPostiwyd: Sad 21 Mai 2005 3:50 pm
gan cajun
Diolch Nic, fi dal heb neud rhai adrannau ond ma rhan fwyaf o'm mlog newydd yn gymraeg: http://bywyd.blogspot.com/ :lol:

PostioPostiwyd: Sul 05 Meh 2005 8:56 pm
gan Wierdo
Pam mod i fis allan ohoni? ma'r misoedd yn anghywir! Help!

PostioPostiwyd: Sul 05 Meh 2005 10:46 pm
gan sbwriel
Newidia'r cod sy gyda tin barod i'r cod yma:
Cod: Dewis popeth
<script language="javascript" type="text/javascript">

<!--// CREUWYD GAN SBWRIEL. DEFNYDDIWCH O DAN DRWYDDED CREATIVE COMMONS - http://creativecommons.org/licenses/by-nc-sa/2.0/

function dyddiadCymraeg(dString) {

var dyddArray = new Array("Sul","Llun","Mawrth","Mercher","Iau","Gwener","Sadwrn");
var ordArray = new Array("af","il","ydd","ydd","ed","ed","fed","fed","fed","fed","eg",
"fed","eg","eg","fed","eg","eg","fed","eg","fed","ain",
"ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain","ain");
var misArray = new Array("Ionawr","Chwefror","Fawrth","Ebrill","Fai","Fehefin",
"Orffennaf","Awst","Fedi","Hydref","Dachwedd","Ragfyr");
var dArray = dString.split(".");
var dydd = parseInt(dArray[0]);
var mis = parseInt(dArray[1]-1);
var blwyddyn = parseInt("20" + dArray[2]);
var d = new Date();
d.setDate(dydd);
document.write("Dydd " + dyddArray[d.getDay()] +", "+ dydd + "<sup>"+ ordArray[(dydd-1)] +"</sup> o "+ misArray[mis] +", "+ blwyddyn);
}

function archifCymraeg(dString) {
var misArray = new Array("Ionawr","Chwefror","Mawrth","Ebrill","Mai","Mehefin",
"Gorffennaf","Awst","Medi","Hydref","Tachwedd","Rhagfyr");
var dArray = dString.split(".");
var mis = parseInt(dArray[0]-1);
var blwyddyn = parseInt("20" + dArray[1]);
document.write(misArray[mis] +", "+ blwyddyn);
}
//-->
</script>


jest di newid y [mis-1] i [mis]... sain gwbod pam odd un ti di newid... falle hen god odd yn anghywir

PostioPostiwyd: Llun 06 Meh 2005 9:03 am
gan Mr Gasyth
Newydd ffeindio un gwall bach yn y cod Sbwriel. Yn y rhestr cyntaf o enwau misoedd, gan dy fod yn treiglo'r holl fisoedd eraill, ti angen treiglo Rhagfyr hefyd i 'Ragfyr'.

dwi'n gwbod fod hwne'n rili pici, ond nawaeth i dy god fod yn berffaith!

PostioPostiwyd: Llun 06 Meh 2005 10:30 am
gan sbwriel
wedi newid y cod ucho, diolch gasyth