Tudalen 9 o 11

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 11:31 pm
gan krustysnaks
Reit, dwi wedi ailddechrau blogio - glasflog. Dwi'n mynd i ddefnyddio fy mlwyddyn gyntaf yn y coleg fel rhyw sgerbwd i gynnal y blog, ond dwi'n gobeithio siarad am dipyn o bopeth.

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 10:20 am
gan dafydd
Archalen a ddywedodd:Diolch. Elli di glicio ar archif...ydy e'n mynd i Llyfr lloffion yn lle fy stwff i?

Na mae'n iawn i fi (a dyw Llyfr Lloffion ddim hyd yn oed ar y Dolenni)

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 12:20 pm
gan Hogyn o Rachub
krustysnaks a ddywedodd:Dwi'n mynd i ddefnyddio fy mlwyddyn gyntaf yn y coleg fel rhyw sgerbwd i gynnal y blog,



Peth peryg; mi fyddi di'n edrych yn ol arni mewn da bryd a sylweddoli faint o westar wyt ti!

Re: Cymreigio blog @ blogspot.com

PostioPostiwyd: Llun 05 Medi 2005 9:07 am
gan sanddef
nicdafis a ddywedodd: <dt class="comment-poster" id="c<$BlogCommentNumber$>"><a name="c<$BlogCommentNumber$>"></a>
<$BlogCommentAuthor$> said... cei di newid y drefn yma hefyd


Dw'i wedi neud hynny ond mae'r bocs sylwadau yn dal i ddefnyddio "said". Oes modd newid hynny?

Re: Cymreigio blog @ blogspot.com

PostioPostiwyd: Gwe 16 Medi 2005 2:46 pm
gan sanddef
sanddef rhyferys a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd: <dt class="comment-poster" id="c<$BlogCommentNumber$>"><a name="c<$BlogCommentNumber$>"></a>
<$BlogCommentAuthor$> said... cei di newid y drefn yma hefyd


Dw'i wedi neud hynny ond mae'r bocs sylwadau yn dal i ddefnyddio "said". Oes modd newid hynny?


Mae rhai blogiau fel Golygon Gasyth a Blogdroed yn dangos eu sylwadau yn Gymraeg (Meddai/dywedodd yn lle "said"). Pam? Beth ydy'r "settings" priodol i neud hynny?

PostioPostiwyd: Sul 04 Rhag 2005 8:53 pm
gan Fflamingo gwyrdd
*Bwp personol i Tegwared ap Seion*

PostioPostiwyd: Sul 04 Rhag 2005 8:54 pm
gan Tegwared ap Seion
dwi 'di bod drwyddo! Sud ti'n meddwl bo fi 'di bod mor llwyddiannus hyd yn hun?!

Re: Cymreigio blog @ blogspot.com

PostioPostiwyd: Mer 28 Rhag 2005 4:46 pm
gan Leusa
sanddef rhyferys a ddywedodd:
sanddef rhyferys a ddywedodd:
nicdafis a ddywedodd: <dt class="comment-poster" id="c<$BlogCommentNumber$>"><a name="c<$BlogCommentNumber$>"></a>
<$BlogCommentAuthor$> said... cei di newid y drefn yma hefyd


Dw'i wedi neud hynny ond mae'r bocs sylwadau yn dal i ddefnyddio "said". Oes modd newid hynny?


Mae rhai blogiau fel Golygon Gasyth a Blogdroed yn dangos eu sylwadau yn Gymraeg (Meddai/dywedodd yn lle "said"). Pam? Beth ydy'r "settings" priodol i neud hynny?


mae'r un broblem gena i hefyd os allith rhywun sbario munud i taro golwg plis. wedi trio ei newid i :

Cod: Dewis popeth
     At <a href="#c<$BlogCommentNumber$>" title="comment permalink"><$BlogCommentDateTime$></a>,
        <$BlogCommentAuthor$>a ddywedodd...
      </dt>

Ond yn anffodus mae'r blog dal i ddarllen 'said'

Re: Cymreigio blog @ blogspot.com

PostioPostiwyd: Mer 28 Rhag 2005 6:21 pm
gan dafydd
Leusa a ddywedodd:Ond yn anffodus mae'r blog dal i ddarllen 'said'

Mae dy flog yn agor sylwadau mewn ffenest newydd a dwi ddim yn credu fod hi'n bosib newid cynnwys hwnna.

Fe alli di ddangos sylwadau o fewn dy dudalen - Settings >Comments >Show comments in a popup window? (No), wedyn fe fydd y testun ti'n roi yn cael ei ddefnyddio.

PostioPostiwyd: Iau 29 Rhag 2005 3:34 pm
gan Leusa
diolch yn fawr i ti dafydd. driai hynny rwan hyn.