dimcwsg.com

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

dimcwsg.com

Postiogan Llety Clyd » Mer 25 Awst 2004 1:42 pm

Mae criw ohonon ni wedi creu <a href="http://dimcwsg.com">gwefan drafod newydd</a> yr wythnos hon. Mae'n eitha tebyg i maes-e ond yn ymwneud â chael babis, bod yn rieni ayb :ofn: .

Bydden i'n ddiolchgar tase unrhyw riant neu ddarpar riant (dim ots pa mor bell i ffwrdd mae hynny! :winc: ) yn mynd i'r wefan a gadael neges er mwyn i ni gael dechre'r wefan go iawn. Mae braidd yn wag ac yn unig ar y foment. :crio:

Diolch!
Llety Clyd
Rhithffurf defnyddiwr
Llety Clyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 117
Ymunwyd: Llun 07 Meh 2004 12:43 pm
Lleoliad: Aber

Postiogan Aran » Mer 25 Awst 2004 1:49 pm

Maew hyn yn syniad bendigedig, a dw i'n siwr y byddaf mewn sefyllfa i gyfrannu o fewn degawd neu ddau... :winc:

Gobeithio y bydd llawer o bobl yn ei ddefnyddio, a phob hywl arni... :D
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Rhys » Mer 25 Awst 2004 1:53 pm

Synaid da iawn, ond fel Aran, dwi'n gobeithio na fyddaf yn gweld angen ei ddefnyddio am amser maith maith.

Mi nai ei awgrymu i fy ffrinidiau 'di-ofal', er tydw i ddim yn eu gweld yn aml iawn dyddiau hyn, mae'n well ganddynt aros mewn am ryw reswm.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Llety Clyd » Mer 25 Awst 2004 1:58 pm

Rhys a ddywedodd:Mi nai ei awgrymu i fy ffrinidiau 'di-ofal', er tydw i ddim yn eu gweld yn aml iawn dyddiau hyn, mae'n well ganddynt aros mewn am ryw reswm.


Wel, nawr byddi di'n gallu cael gafael arnyn nhw ar-lein!
Rhithffurf defnyddiwr
Llety Clyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 117
Ymunwyd: Llun 07 Meh 2004 12:43 pm
Lleoliad: Aber

Postiogan nicdafis » Mer 25 Awst 2004 2:28 pm

Mae'n edrych yn wych! Dw i'n lico enwau'r seiadau yn arbennig, a'r ffordd dych chi wedi rhoi cryn dipyn o feddwl i mewn i strwythur y safle, cyn i chi ei lansio ar y byd.

Bydda i'n ymweld yn gyson, jyst i ddwyn syniadau oddi wrthoch chi. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Aran » Mer 25 Awst 2004 4:24 pm

Ond rhywbeth newydd 'nharo fi - bob tro dw i wedi treulio amser efo ffrindiau sydd efo plant, mae wedi fy argyhoeddi fi nad ydw i byth, byth am wneud yr un camgymeriad... felly os bydd gwefan ar gael i bawb sydd heb blant gweld holl ogoniant yr artaith, oni fydd hynny'n rhoi stop yn gyfangwbl ar atgenhedlu yn yr iaith Gymraeg?!... :ofn:

Mae diwedd y dyfodol wedi cychwyn ar Faes-E... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Llety Clyd » Mer 25 Awst 2004 6:54 pm

Aran a ddywedodd:Ond rhywbeth newydd 'nharo fi - bob tro dw i wedi treulio amser efo ffrindiau sydd efo plant, mae wedi fy argyhoeddi fi nad ydw i byth, byth am wneud yr un camgymeriad... felly os bydd gwefan ar gael i bawb sydd heb blant gweld holl ogoniant yr artaith, oni fydd hynny'n rhoi stop yn gyfangwbl ar atgenhedlu yn yr iaith Gymraeg?!... :ofn:

Mae diwedd y dyfodol wedi cychwyn ar Faes-E... :winc:


Mae arna i ofn mai fi oedd un o'r ffrindiau yna! :wps: Mae yn haws cwyno am fagu plant na dweud pa mor ffantastic yw e :rolio: ... Faset ti'n fodlon dechrau'r edefyn yma ar dimcwsg.com plis?! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Llety Clyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 117
Ymunwyd: Llun 07 Meh 2004 12:43 pm
Lleoliad: Aber

Postiogan Llety Clyd » Gwe 27 Awst 2004 8:10 am

Diolch am y mensh ar morfablog, Nic. :D Ma' rhai o aelodau maes-e wedi mentro draw aton ni.
Rhithffurf defnyddiwr
Llety Clyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 117
Ymunwyd: Llun 07 Meh 2004 12:43 pm
Lleoliad: Aber

Postiogan Aran » Gwe 27 Awst 2004 10:43 am

Llety Clyd a ddywedodd:Mae arna i ofn mai fi oedd un o'r ffrindiau yna! :wps: Mae yn haws cwyno am fagu plant na dweud pa mor ffantastic yw e :rolio: ... Faset ti'n fodlon dechrau'r edefyn yma ar dimcwsg.com plis?! :winc:


Na na, ti'n edrych yn fodlon dy fyd bob tro dw i'n dy weld di'n gwthio'r pram...!

Na i fentro i fewn i dimcwsg.com cyntaf y medraf... :)
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai