Blogio yn y Gymraeg am ddim ar cymrurydd.com

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Blogio yn y Gymraeg am ddim ar cymrurydd.com

Postiogan nicdafis » Iau 26 Awst 2004 11:45 pm

Dw i'n credu bod hi'n werth tynnu hyn mas o'r trafodaeth am Gymreigio blogiau blog*spot, gan fod hi'n opsiwn llawer haws. Mae Aran wedi cyfieithu llawn set o batrymluniau blogio, ac mae'n fodlon rhoi llety am ddim i flogwyr newydd. Os wyt ti am flogio mae'n sicr bod hyn yw'r ffordd cyflymaf o gael blog Cymraeg ar lein heb angen gwybod fawr o ddim am bethau fel HTML ych y fi.

Aran a ddywedodd:Ond wnes i ddarllen [y trfodaeth am Gymreigio Blogger], a chael fy nychryn ar ran y gwaith sydd ei angen i Gymreigio'r blogiau 'ma...

Felly dw i 'di bod yn meddwl am sut mae gwneud hyn yn haws i bobl, ac wedi cael hyd o sustem sydd yn fy ngalluogi fi i redeg cymaint â dw i isio o flogiau oddi ar cymrurydd.com.

Dw i newydd orffen ei chyfieithu, ac mae modd i mi setio cyfrif am ddim i fyny i unrhywun sydd o ddifri am flogio (mi gymrith pum munud i mi wneud hynny, felly 'swn i'n ddiolchgar iawn 'sai dim ond pobl sydd o ddifri am flogio yn gofyn!) - mae gen i 8 templad wedi'u cyfieithu'n barod, ac mi wna i fwy dros y misoedd nesaf...

Manylion llawn ar http://www.blogsgwarnog.cymrurydd.com ac enghraifft arall o'r templad ar http://www.blogcymuned.cymrurydd.com ...

Ymflogiwn...!
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron