Rhith Fro neu Sîn We Gymraeg?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydym ni'n Sîn We Gymraeg neu'n Rith-fro?

Daeth y pôl i ben ar Llun 13 Medi 2004 8:17 pm

SWG
1
10%
Rhith-Fro
6
60%
dydy'r ddau beth ddim cweit yr un peth
3
30%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 10

Rhith Fro neu Sîn We Gymraeg?

Postiogan Sion Jobbins » Llun 30 Awst 2004 8:17 pm

Dwi'n ffan o'r Rhith-fro fel cysyniad - i ddweud y gwir, mae'n hynod o bwysig a chynhyrfus. Bron y gallech ddweud mae'r we Gymraeg yw'r roc a rol newydd (neu onid y roc â rôl dylie hwnnw fod?). Sy'n dod â fi at fy mhwynt. Gyda'r holl flogio, sefydlu gwefannau etc ac i gyd nawr yn uniaith Gymraeg nid dwyieithog (that's bilingual) mae'n fwy o Sîn na dim.

Felly, mae ganddom ni'r Sîn Roc Gymraeg, onid Sîn We Gymraeg sydd ganddom ni hefyd?

Neu, a yw'r cysyniad o Sîn We Gymraeg yn wahanol i'r Rhith-fro?

- atebwch mewn traethawd ymchwil i'r amryfal gyrsiau Cyfathrebu sydd yn ein colegau! :winc:
Cymraeg yw Iaith y Ddinas
Sion Jobbins
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 3:36 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Aran » Llun 30 Awst 2004 8:39 pm

Dw i 'di bod yn defnyddio RhithFro ar gyfer popeth am gyfnod rwan, ond erbyn hyn mae'n amlwg bod Nic yn defnyddio'r term i gyfeirio at flogiau Cymraeg, sydd yn ddigon teg.

Dw i wedi dechrau cyfeirio at y We Gymraeg i son am wefannau uniaith Cymraeg sydd ddim yn flogiau, ond mae'r Sîn We Gymraeg yn well o lawer, felly dyna beth byddaf yn ei defnyddio o hyn ymlaen...

Da bod yna ddigon o bethe Cymraeg arlein i ni angen dau air bach yn wahanol i'w disgrifio... :D
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Re: Rhith Fro neu Sîn We Gymraeg?

Postiogan dafydd » Llun 30 Awst 2004 10:46 pm

Sion Jobbins a ddywedodd:Dwi'n ffan o'r Rhith-fro fel cysyniad - i ddweud y gwir, mae'n hynod o bwysig a chynhyrfus. Bron y gallech ddweud mae'r we Gymraeg yw'r roc a rol newydd (neu onid y roc â rôl dylie hwnnw fod?). Sy'n dod â fi at fy mhwynt. Gyda'r holl flogio, sefydlu gwefannau etc ac i gyd nawr yn uniaith Gymraeg nid dwyieithog (that's bilingual) mae'n fwy o Sîn na dim

Pam fod rhaid defnyddio cymreigiaid gwael o air saesneg? Dwi ddim yn or-hoffi o'r defnydd o 'sîn roc' ond o leia mae ystyr adnabyddus iddo. Beth ddiawl yw 'sin we'?

Oes wir rhaid i gymry cymraeg rhoi label hunan-bwysig ar bopeth? Mae yna we fyd-eang a mae yna ddarn ohono gellid galw'n 'we gymraeg'. Mae rhithfro yn fathiad digon derbynniol (ac un sy'n addas ar gyfer y cyfrwng) - sdim angen cynnig gwael arall.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Rhith Fro neu Sîn We Gymraeg?

Postiogan Aran » Llun 30 Awst 2004 11:03 pm

dafydd a ddywedodd:Oes wir rhaid i gymry cymraeg rhoi label hunan-bwysig ar bopeth?


Be ddiawl ydy hynny'n ei olygu?

Am ymateb ffroenuchel.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 30 Awst 2004 11:20 pm

Dwi'n eithaf cytuno Dafydd. Fi ddim yn hoff o'r gair Sîn chwaeth. Fydden i'n defnyddio rhain yn lle

We fyd-eang - World Wide Web
Rhithfro - Cymuned arlein Gymraeg megis maes-e a blogiau?- Internet/Web Community!
Y We Gymraeg - Gwefannau Cymraeg eu hiaith?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan nicdafis » Maw 31 Awst 2004 12:16 am

Ffwc o ots gen i beth dyn ni'n galw fe, os ydyn ni'n gallu byw 'na mewn heddwch.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Maw 31 Awst 2004 8:39 am

Sori, o'n i'n fach o feddw neithiwr, ond dw i yn credu nad yw e'n bwysig iawn o gwbl pa dermau dyn ni'n defnyddio i sôn am y we Gymraeg - falle bod hi'n fwy pwysig os wyt ti'n sgwennu erthyglau amdano yn y wasg ;-). Yn yr achos hwnna, fyddwn ni'n awgrymu bod termau fel "rhithfro" yn debyg i ddrysu pobl mwy ag egluro beth yw e ti'n sôn amdano, neu ddechrau dadlau di-glem fel "a ydy'r 'rhithfro' bondigrybwyll yn tynnu Ein Pobl Ifainc i ffwrdd o'u Bröydd Go Iawn".

Bathais i'r term (ond mae "bathu" yn awgrymu llawer mwy o feddwl na wastraffais i ar hyn) achos i mi addasu pwt o <a href="http://morfablog.com/rhithfro">gôd Java</a> i restru blogiau Cymraeg ac oedd angen newid enw y sgript o "linguablogs" i rywbeth arall. Dyna i gyd. Do'n i ddim yn bwriadu wneud unrhyw datganiad terfynol. Os ydy'r gair yn ddefnyddiol, defnyddia fe; os dy e ddim, defnyddia rhywbeth arall. Os ydy'r gair yn hyll ar dy glustiau, batha gair harddach a defnyddio hwnna. .
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 31 Awst 2004 9:30 am

Cod: Dewis popeth
Os ydy'r gair yn hyll ar dy glustiau, batha gair harddach a defnyddio hwnna. .


Dwi ddim yn siwr o hyn Nic. Fyse'n lot well gen i os byddai termiadur Technoleg gwybodaeth safonol ar gael, a bod pawb yn defnyddio'r un peth. 1, i atal dryswch a 2, er mwyn sicrhau statws safonol i'r gymraeg!

Efallai fod rhithfro yn swnio'n hurt i rai (Fi'n credu ei fod yn gret) ond os mae dyma'r term i chi wedi dysgu ers yn fach bydd yn swnio'n hollol naturiol.

Y broblem ydy os na fydd yna restr safonol, y byddai Cymry Cymraeg yn troi at y Saesneg! Dwi'n falch iawn felly bod Bwrdd yr iaith yn bwriadu rhyddhau termiadur TG cyn diwed Mis Awst!

Awst 31 :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Rhith Fro neu Sîn We Gymraeg?

Postiogan dafydd » Maw 31 Awst 2004 10:13 am

Aran a ddywedodd:
dafydd a ddywedodd:Oes wir rhaid i gymry cymraeg rhoi label hunan-bwysig ar bopeth?


Be ddiawl ydy hynny'n ei olygu?


Y tueddiad sydd gan rhai (gwleidyddion yn arbennig) am 'ddarganfod' rhyw ffenomenon yn hwyr a wedyn rhoi label arno er mwyn codi ei proffil a rhoi'r syniad ei bod ar flaen y gâd

Mae'r cymry yn waeth am hyn na rhai am ein bod ni'n 'darganfod' pethau 5 mlynedd ar ôl pawb arall ac yn dal i feddwl fod ni'n arloeswyr.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan dafydd » Maw 31 Awst 2004 10:24 am

nicdafis a ddywedodd:Bathais i'r term (ond mae "bathu" yn awgrymu llawer mwy o feddwl na wastraffais i ar hyn) ...


Mae'n fathiad perffaith ta beth - am rhyw reswm mae dysgwyr yn dueddol o fod llawer mwy creadigol gyda'r iaith na'r rhan fwyaf o siaradwyr iaith gyntaf. Mi gafodd lawer o'r terminoleg cynnar (a hefyd y 'reportage') o'r rhyngrwyd yn gymraeg gael ei wneud gan ddysgwyr. Dwi'n digon hen i gofio 'Cymdeithas Cymraeg Rhithwir' .. rhyw fath o faes-e primitif yn 1995 - ie ar yr adeg honno.. roedd un gweinydd yn manceinion yn cael ei ystyried fel 'y e gymraeg'. Oce digon o hel atgofion.. :)
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Nesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron