Dw i newydd ychwanegu "blog bach ar yr ochr" i Morfablog, sy'n dwyn y teitl "Pigion y Rhithfro". Y bwriad yw y bydda i'n defnyddio hwnna i sôn am gofnodion diddorol, doniol, defnyddiol neu ddifyr dw i wedi dod ar eu traws, naill ai ar un o'r blogiau Cymraeg, ynteu yma ar y maes.
Gan fod MT yn defnyddio categorïau, mae hyn yn ddigon hawdd i'w wneud, heb sefydlu blog newydd. Yn gyntaf, mae rhaid creu categori newydd, sef "Pigion" yn yr achos 'ma. Wedyn dweud wrth MT i beidio dangos cofnodion yn y categori hwn ym mhrif gorff y blog. Y ffordd dw i'n wneud yw i restru bob categori arall, yn y tag MTEntries, fel hyn:
- Cod: Dewis popeth
<MTEntries category="Blogathon OR Byd, Bwyd, Bywyd OR Celfyddydau OR Cerddoriaeth OR Dyfodol yr Iaith OR Fi a fy mlog OR Gweflogiau OR Gwrthdroi Shifft Ieithyddol OR Hanes OR Hwyl a sbri OR Ieithoedd a Geiriau OR Llenyddiaeth OR Lobscows OR Newyddion OR Rhithfro OR Sinema OR Y Gic Fyd" lastn="25">
Dw i'n credu bod 'na plugin rhywle sy'n wneud hyn yn haws, ond dw i'n rhy ddiog i'w ffeindio, a dw i wedi bod yn defnyddio'r techneg 'ma ers sbel.
Wedyn, yn y lle addas, dw i'n ychwnegu hyn:
- Cod: Dewis popeth

Pigion y Rhithfro

<MTEntries category="Pigion" lastn="10">
<$MTEntryBody convert_breaks="0"$>
<a href="<$MTEntryPermalink$>" title="Darllen mwy / gadael sylw">#

</MTEntries>
Mwy o bigion...

Mae'r busnes convert_breaks="0" yn bwysig, fel arall mae MT yn rhoi tagiau paragraffau rownd bob cofnod, sy'n creu lot o ofod di-angen. I gadw'r peth edrych fel rhestr o linciau, mae angen atal MT rhag fod yn rhy glyfar.
Nawr, pan dw i'n ffeindio rhywbeth dw i moyn blogio fan'na, mae rhaid i mi gofio i beidio rhoi dim byd mwy na'r a href linc yng nghorff y cofnod. Os ydw i am ychwanegu sylwadau, gaf i roi nhw yn y blwch "cofnod estynedig".
Fel dwedais, ddim yn debyg i fod yn ddefnyddiol iawn i lawer o bobl, ond falle bydd yn arbed awr o waith i rywun un dydd.