gan Rhys » Llun 06 Medi 2004 10:08 am
Newydd gael go a ma o'n hawdd pawdd (doeddwn i ddim yn disgwyl iddo ddim bod rili).
Dwi eisioes wedi agor cyfrif Blogger er mwyn gallu ymateb ar blogiau blogger eraill ond rioed wedi wneud dim ar un fi fy hun oherwydd roeddwn yn rhagwled un fi'n mynd fel amryw o rai eraill, dim lot i ddeud, dau dri neges a dyna fo.
Dwi am ddechrau gweithio ar un rwan a dyma ddau (am rwan) gwestiwn cyffredin sydd gyda fi.
1. Oes modd newid enw parth a enw'r blog ar ôl dechrau neu waeth i mi ddechrau o'r dechrau ag agor cyfrif newydd ar ôl meddwl yn ofalus dros yr enw.
2. Nid blog personol sydd gyda fi mewn golwg, ond un cymunedol fel Pictiwrs.com. Dwi'n cymeryd mai fi fyddai'n rhoi caniatad i unigolion a fyddai wedyn yn mewngofnodi ac yn postio?