Tudalen 1 o 1

Profi Blogger cyn dechrau blog dy hun

PostioPostiwyd: Sad 04 Medi 2004 12:37 pm
gan nicdafis
Os ydy unrhywun yn ffansio trial Blogger cyn mynd trwy'r broses o sefydlu eu blog eeu hunain, dw i wedi agor y <a href="http://pamoranodd.blogspot.com/">blog 'ma</a> i gyfrannwyr di-enw.

<a href="http://blogger.com">Cer yma</a> a mewngofnodi fel anhysbys/anhysbys i'w drial.

Paid postio pethau dwl fel porn, plîs. Dw i ddim am golli fy nghyfrif Blogger dros hyn.

PostioPostiwyd: Llun 06 Medi 2004 10:08 am
gan Rhys
Newydd gael go a ma o'n hawdd pawdd (doeddwn i ddim yn disgwyl iddo ddim bod rili).

Dwi eisioes wedi agor cyfrif Blogger er mwyn gallu ymateb ar blogiau blogger eraill ond rioed wedi wneud dim ar un fi fy hun oherwydd roeddwn yn rhagwled un fi'n mynd fel amryw o rai eraill, dim lot i ddeud, dau dri neges a dyna fo.

Dwi am ddechrau gweithio ar un rwan a dyma ddau (am rwan) gwestiwn cyffredin sydd gyda fi.

1. Oes modd newid enw parth a enw'r blog ar ôl dechrau neu waeth i mi ddechrau o'r dechrau ag agor cyfrif newydd ar ôl meddwl yn ofalus dros yr enw.

2. Nid blog personol sydd gyda fi mewn golwg, ond un cymunedol fel Pictiwrs.com. Dwi'n cymeryd mai fi fyddai'n rhoi caniatad i unigolion a fyddai wedyn yn mewngofnodi ac yn postio?

PostioPostiwyd: Llun 06 Medi 2004 2:58 pm
gan Rhys
1. Wedi dechrau blog newydd beth bynnag (nai rannu'r cyfeiriad gyda chi fory efallai). Ar ganol trio ei Gymreigio.

2. Wedi gweld yr opsiwn 'Settings' a 'Members' ar y 'Dashboard'.