Blog pa wleidydd hoffet ti weld?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Blog pa wleidydd hoffet ti weld?

Postiogan nicdafis » Sul 05 Medi 2004 7:30 pm

Wedi bod yn darllen blog Richard Allan, Aelod Seneddol dros Sheffield a Hallam, sy'n swnio fel boi alla i bleidleisio drosto, 'swn i'n ddigon anffodus i ffeindio fy hunan byw yn Sheffield. Mae'n blog da, gyda cofnodion darllenadwy, ar sawl pwnc, ac mae'n amlwwg bod Allan yn deall y we, sy'n anarferol iawn mewn gwleidydd, tybiwn i.

O'r gorau, rhagdybiwn i. Dw i ddim yn nabod lot o wleidyddion proffesiynol.

Sy'n dod â fi at fy mhwynt. (Mae 'na bwynt? O, oes.)

'Sai pob gwleidydd Cymraeg ei (h)iaith yn blogio, pa rhai fyddet ti rhoi yn dy nodlyfrau?

A pha gwleidydd Cymraeg fydd yr un cynta i ddechrau blog?

Dw i'n pleidleisio dros Seimon Tomos, felly dw i'n pleidleisio dros Seimon Tomos.

Ydy Seimon yn ffan William Gibson, tybed?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Dr Gwion Larsen » Sul 05 Medi 2004 7:53 pm

Alan Clark 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan nicdafis » Sul 05 Medi 2004 8:10 pm

Faint o amser dylen ni roi i'n cynrychiolwyr ddechrau defnyddio'r we yn gall cyn i ni ddechrau blogio drostyn nhw, fel mae'r Tim Ireland yn wneud dros Tim Yeo? (Gyda llaw, mae'r linc cyntaf 'na yn cynnwys canllawiau defnyddiol iawn i unrhywun sy'n meddwl am ddechrau blog newydd, boed yn ei (h)enw ei hun, ynteu yn enw rhywun arall).

Pam gwleidyddion? Wel, am un peth, maen nhw'n gweithio i ni a droston ni. Mae cyfrifoldeb gyda nhw bod yn ymatebol (dw i ddim yn awgrymu nad yw Simon Thomas yn ymatebol gyda llaw; mae'n dda iawn am wn i).

Yn ail, byddai'n ddiddorol: mae aelodau seneddol, er gwallau amlwg rhai ohonyn nhw, yn bobl deallus, ar y cyfan, sy'n gallu mynegi eu hunain yn rhwydd. Dw i'n gwybod y bydd rhai'n dweud bod pethau pwysicach 'da nhw i wneud na blogio, ond beth sy'n well, treulio hanner awr bob nos dweud wrth dy etholiaeth sut wyt ti wedi treulio dy ddydd, a rhoi'r cyfle iddyn nhw rhoi eu barn (fel mae Richard Allan yn wneud), neu treulio'r amser siarad i mewn i dictaphone, a chyhoeddu dy atgofion ar ôl i ti ymddeol (Benn, Clarke, Thatcher, Wigley, Clinton ac yn y blaen) unwaith ei bod hi'n rhy hwyr i'r bobl ti'n gweithio drostyn nhw wneud dim byd amdano.

Oes unrhyw enghraifft o wleidydd Cymraeg/Cymreig sy'n cadw blog?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sul 05 Medi 2004 10:25 pm

Erthygl yn y Guardian ar wleidyddion sy'n blogio, a'r rhan fwya ohonyn nhw sy ddim.

Guardian a ddywedodd:Although practically every MP now has an official website, the sad truth is that virtually none has attracted many people. You could fit the audience of most MP's websites into a church hall and still have room to play football. Online campaigning in Britain has been tagged as "the dog that didn't bark", as voters have stayed away from the hundreds of MPs' websites launched over the course of the past two parliaments. It is easy to see why. Most MPs websites are among the most boring on the internet.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron