Wedi bod yn darllen <a href="http://www.richardallan.org.uk">blog Richard Allan</a>, Aelod Seneddol dros Sheffield a Hallam, sy'n swnio fel boi alla i bleidleisio drosto, 'swn i'n ddigon anffodus i ffeindio fy hunan byw yn Sheffield. Mae'n blog da, gyda cofnodion darllenadwy, ar sawl pwnc, ac mae'n amlwwg bod Allan yn deall y we, sy'n anarferol iawn mewn gwleidydd, tybiwn i.
O'r gorau, <i>rhag</i>dybiwn i. Dw i ddim yn nabod lot o wleidyddion proffesiynol.
Sy'n dod â fi at fy mhwynt. (Mae 'na bwynt? O, oes.)
'Sai pob gwleidydd Cymraeg ei (h)iaith yn blogio, pa rhai fyddet ti rhoi yn dy nodlyfrau?
A pha gwleidydd Cymraeg fydd yr un cynta i ddechrau blog?
Dw i'n pleidleisio dros Seimon Tomos, felly dw i'n pleidleisio dros Seimon Tomos.
Ydy Seimon yn <a href="http://www.richardallan.org.uk/index.php?p=31">ffan William Gibson</a>, tybed?