Dyma fabi newydd y teulu: Dysgwyr De Ddwyrain
Dwn i'm os yw'n addas ar gyfer y rhithfro gan ei fod yn rhannol dwyieithog (dwi'n fwriadol gadael rhai pethau'n uniaith Gymraeg), ond dim ots achos ar gyfer popl sydd ddim digon hyderus i ddefnyddiogwefannau Cymraeg yn unig ydi o ta beth.
Mae'n tipyn bach o rip-off o wefan http://www.dysgu.com gan Nic, a tydw i ddim yn diwtor nag yn ddysgwr ond gwelais bod bwlch am rhywbeth fel hyn oherwydd mae yna rai dysgwyr yn troi fyny i ddigwyddiadau Cymraeg neu ar gyfer dysgwyr ar ben eu hunain, ac os nad oes neb yno o'u dosbarth Cymraeg nid ydynt yn nabod neb. Dyma ble fyddai negesfwrdd ar gyfer dysgwyr yn unig yn ddefnyddiol, ond dwi ddim eisiau'r drafferth o'i weinyddu, felly gobeithiaf y bydd dysgwyr yn gweld gwerth o'r blog yma a sefydlu un eu hunain.
Dwi'n dal i geisio gweithio fy ffordd o'i amgylch ac yn chwylio am syniadau am ddolenni a beth i'w blogio, felly byddwn yn falch o awgrymiadau.
Pethau dwi'n fwriadu eu blogio nesaf yw:
Addysg i Oedolion (er dwi eisioes wedi gwneud blog brysiog am ei bod yn ddechrau tymor)
Addysg Gymraeg i blant
Gwyliau Cymraeg (ar draws Cymru)
Cerddoriaeth
Negesfyrddau
Y Gymraeth a Thechnoleg Gwybodaeth (dwi'n rhagweld plyg i http://www.sgwarnog.com )