sgwarnog.com - Be ffwc ydi'r sgor?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

sgwarnog.com - Be ffwc ydi'r sgor?

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sul 12 Medi 2004 2:06 pm

Newydd drio cofrestru ar gyfer sgwarnog.com. Wedi defnyddio'r system paypal. Siomedig iawn oedd darllen y canlynol: "Ymddiheuriadau-sgwarnog.com yn cael ei drwsio..." Wel bois bach, tydi hyn ddim digon da ar gyfer cenedl hunanhyderus ac uchelgeisiol.Rhwystredig iawn... Yndw, dwi yn bod yn ddi-flewyn ar dafod... Ffycin c'mon-pa mor uchelgeisiol ydi'r byd Cymraeg ar y we fyd eang!? :drwg: Busnes ydi busnes. Gwasanaeth i gwsmeriaid ydi gwasanaeth i gwsmeriaid. Tri chynnig i Gymro? Na-malu cachu ydi hyn a dim byd arall. Gwasanaeth gwych y tro cynta- dyna mae pobl sydd yn talu am rhywbeth yn ei haeddu! :drwg:
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan Aran » Sul 12 Medi 2004 2:37 pm

Wel, y sgôr ydy mod i wedi bod yn uwchraddio'r sustem er mwyn iddi fod yn hollol gyfoes, a dyna ydy'r rheswm dy fod wedi methu ymaelodi. Mae'n rhaid gwneud hyn rhwybryd, a wnes i ddewis dydd Sul fel y diwrnod lle dw i'n cael y nifer lleiaf o ymwelwyr, gan wybod na fyddai'r sustem ar gael am ychydig.

Os wyt ti'n trio eto rwan, mi weli di bod y sustem yn fyw eto.

Ond wedi deud hynny, os wyt ti un am 'ffwcio hyn' a 'ffwcio'r llall' ayyb, byddai'n well gen i 'set ti'n defnyddio sustem arall - dydy'r Sgwarnog ddim yn sustem fawr gyda miloedd o ddefnyddwyr sydd yn medru fforddio staff 24 awr i neidio bob tro bod rhywun yn gweiddi, mae'n sustem mod i'n rhedeg ar fy mhen fy hun heb gymorth o unrhywle (ar wahân i'r Sgwarnogod, sydd yn griw gwych).

Os nad ydy hynny'n ddigon 'uchelgeisiol' i ti, well i ti fynd i gmail.google.com...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Cwestiwn...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sul 12 Medi 2004 2:54 pm

Cwestiwn- Faint o bobl sydd yn defnyddio sgwarnog.com bellach? Wyt ti'n hapus gyda'r ffigwr presennol? "Nid da lle gellir gwell?!" :drwg: Yli gyfaill, mae'r we fyd eang yn gallu bod yn wych weithiau ond hefyd yn ddiawledig o rwystredig. Os tydi cwsmeriaid fel fi ddim yn mynd i gael eu plesio y tro cynta yna maent yn mynd i chwilio am gynnig gwell rhywle arall! A finna yn meddwl bod y rhod yn troi.... :crio:
Martin Llewelyn Williams
 

Re: sgwarnog.com - Be ffwc ydi'r sgor?

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 12 Medi 2004 2:54 pm

Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Newydd drio cofrestru ar gyfer sgwarnog.com. Wedi defnyddio'r system paypal. Siomedig iawn oedd darllen y canlynol: "Ymddiheuriadau-sgwarnog.com yn cael ei drwsio..." Wel bois bach, tydi hyn ddim digon da ar gyfer cenedl hunanhyderus ac uchelgeisiol.Rhwystredig iawn... Yndw, dwi yn bod yn ddi-flewyn ar dafod... Ffycin c'mon-pa mor uchelgeisiol ydi'r byd Cymraeg ar y we fyd eang!? :drwg: Busnes ydi busnes. Gwasanaeth i gwsmeriaid ydi gwasanaeth i gwsmeriaid. Tri chynnig i Gymro? Na-malu cachu ydi hyn a dim byd arall. Gwasanaeth gwych y tro cynta- dyna mae pobl sydd yn talu am rhywbeth yn ei haeddu! :drwg:


Anheg iawn Martin. Dwi ddim yn meddwl fod modd i gwmni bach fel Sgwarnog wneud elw mawr, ond yn hytrach mae'n amlwg fod Aran yn ei wneud er mwyn medru cynnig gwasanaeth ychwanegol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n amlwg felly na fydd pethau yn rhedeg mor llyfn a Gmail e.e. Beth sydd waethaf Martin, sustem ebost Cymraeg sydd gyda problem fach yn achlysurol iawn, neu ddim sustem Cymraeg o gwbl? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cwestiwn...

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 12 Medi 2004 2:56 pm

Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Cwestiwn- Faint o bobl sydd yn defnyddio sgwarnog.com bellach? Wyt ti'n hapus gyda'r ffigwr presennol? "Nid da lle gellir gwell?!" :drwg: Yli gyfaill, mae'r we fyd eang yn gallu bod yn wych weithiau ond hefyd yn ddiawledig o rwystredig. Os tydi cwsmeriaid fel fi ddim yn mynd i gael eu plesio y tro cynta yna maent yn mynd i chwilio am gynnig gwell rhywle arall! A finna yn meddwl bod y rhod yn troi.... :crio:


Cynnig well rhywle arall? Pa gwmni arall sy'n cynnig y fath wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg? Os ti'n ddigon parod i droi at gwmni Saesneg pan mae problem fach yn codi , wel mae'n dweud tipyn amdanat ti felly :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Hedd Gwynfor...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sul 12 Medi 2004 3:03 pm

Gyda phob parch i ti, Hedd Gwynfor, mae dy ymagweddiad di yn enghraifft wych o beidio bod digon uchelgeisiol. 100% Perffaith! Nid yw unrhyw safon neu lefel is na hyn yn ddigon da. Yndw, dwisho cefnogi sgwarnog.com, ond dim os dwi yn mynd i gael fy siomi yn achlysurol... Neno'r Tad- mae Cymru a'r iaith Gymraeg yn haeddu gwell. Ydi hyn yn anheg? Wel- dwi'n cael fy atgoffa o'r gymhariaeth ganlynol: Golwg v The Economist, Spiegel, Stern neu The Spectator. Annheg? Iawn, mae'r cylchrediad llawer iawn uwch, mwy o bres, cyfloga uwch ac yn y blaen. Er hynny-yn y pendraw- safon yw safon!
Martin Llewelyn Williams
 

Re: Hedd Gwynfor...

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 12 Medi 2004 3:05 pm

Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Gyda phob parch i ti, Hedd Gwynfor, mae dy ymagweddiad di yn enghraifft wych o beidio bod digon uchelgeisiol. 100% Perffaith! Nid yw unrhyw safon neu lefel is na hyn yn ddigon da. Yndw, dwisho cefnogi sgwarnog.com, ond dim os dwi yn mynd i gael fy siomi yn achlysurol... Neno'r Tad- mae Cymru a'r iaith Gymraeg yn haeddu gwell. Ydi hyn yn anheg? Wel- dwi'n cael fy atgoffa o'r gymhariaeth ganlynol: Golwg v The Economist, Spiegel, Stern neu The Spectator. Annheg? Iawn, mae'r cylchrediad llawer iawn uwch, mwy o bres, cyfloga uwch ac yn y blaen. Er hynny-yn y pendraw- safon yw safon!


Digon teg, beth am i ti gychwyn gwasanaeth tebyg i Sgwarnog sy'n cynnig gwasanaeth 'gwell' yn dy dyb di?

Rhaid i mi ddod nol at yr un cwestiwn sylfaenol. Cyn Sgwarnog nid oedd unrhyw sustem tebyg trwy gyfrwng y Gymraeg, felly beth sydd waethaf?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Cwestiwn arall...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Sul 12 Medi 2004 3:09 pm

"OS YW'R GYMRAEG I FYW, RHAID I BOPETH (GAN GYNNWYS SAFON) NEWID"
Ydi hyn yn ddigon radical?!
Martin Llewelyn Williams
 

Re: Cwestiwn arall...

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 12 Medi 2004 4:25 pm

Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:"OS YW'R GYMRAEG I FYW, RHAID I BOPETH (GAN GYNNWYS SAFON) NEWID"
Ydi hyn yn ddigon radical?!


Digon teg, ond dwi ddim yn gyfforddus o gwbl yn beirniadu cwmniau bach Cymreig fel hyn. Beth am dargedu y feirniadaeth yn lle at Yahoo, Gmail a MSN sy'n gwrthod cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan f00 » Sul 12 Medi 2004 4:41 pm

:rolio: mae pob system angen ei ddiweddaru pob hyn a hyn .. dwi'n ddim yn ymwybodol o unrhyw system ebost / gwefan sydd hefo 100% o 'uptime'.
f00
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 164
Ymunwyd: Sul 01 Chw 2004 7:16 pm

Nesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron