Diolch i bawb sydd wedi esbonio fy ochr i yn well na beth fuaswn i'n gwneud fy hun...
Rhaid cyfaddef, doeddwn i heb checio Geiriadur Prifysgol Cymru cyn sillafu sustem yn sustem, jesd yn meddwl mai fel'na mae'n swnio i mi, ond dw i wrth fy modd cael gwybod bod y Geiriadur o blaid!
Mae iaithwedd y Sgwarnog yn anffurfiol ac weithie bach yn arbrofol trwyddi draw - hyd yn hyn, mae'r Sgwarnogod wedi mwynhau. Wrth gwrs, dw i wrth fy modd cael awgrymiadau newydd bob tro.
Diolch yn arbennig i'r rhai sydd wedi pwyntio allan bod hyd yn oed busnesau mawr iawn yn mynd i lawr weithie - roedd Sgwarnog i lawr am oddeutu 25 munud y prynhawn yma, ar gyfer uwchraddio - annhebyg y bydd hynny'n digwydd mwy nag unwaith bob 18 mis. Ar wahan i hynna, dan ni'n rhedeg ar uptime o tua 99.8%, sydd yn o lew am wn i. Digon da i mi, beth bynnag, a dwi'n byw a bod ar y sustem.
Ar ran y safon yn gyffredinol - mae nifer o Sgwarnogod wedi deud pethe positif iawn am fod y sustem yn cynnig danteithion bach difyr sydd ddim ar gael o fewn sustemau eraill bod nhw wedi'u defnyddio. Ar y cyfan, dw i'n meddwl bod safon y sustem yn reit da, neu fuaswn i ddim yn ei ddefnyddio fy hun.
Mae gennon ni 81 o gyfrifon, Martin. Yndw, dw i'n hapus gyda'r ffigwr yma. Dw i wedi cyflawni fy amcan wreiddiol, sef cael sustem oedd yn rhedeg yn y Gymraeg ac yn hunangynhaliol. O hyn ymlaen, byddaf yn ychwanegu danteithion at y sustem yn unol a faint o bres sydd yn dod i mewn i'r coffrau - hynny yw, 'swn i ddim yn colli awr o gwsg pe bai neb arall byth eto yn ymSgwarnogi.
Wrth gwrs, mwyaf yn y byd o Sgwarnogod, gorau yn y byd eith y sustem, ond mae'n ddigon da i mi fel y mae hi. Ac os wyt ti'n meddwl mod i'n crafu am gwsmeriaid sydd yn fy nghyfarch i fel 'Yli gyfaill', ti'n anghywir. Un o'r pethe mod i'n mwynhau'n arw am y Sgwarnogod ydy eu bod nhw'n bobl positif iawn ac yn bleser pob tro i drafod pethe gyda nhw.
Does na un ohonyn nhw erioed wedi deud 'Hei, snap to it m'boi, dw i'n talu pres mawr am hyn wyddoch chi, a dw i'n disgwyl gwas 24 awr y diogyn bach afiach i ti!'
Dim eto, beth bynnag...