sgwarnog.com - Be ffwc ydi'r sgor?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ailadrodd...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Llun 13 Medi 2004 5:34 pm

Hoffwn ailadrodd- nid wyf erioed wedi cael yr un broblem gyda elvis.com. Dim! 0% Yn ogystal, roedd yn rhad ac am ddim gyda DIM COSTAU CUDD-ni wnaeth defnyddio elvis.com gostio yr un dima goch i mi. Ydw i yn mynd i ystyried defnyddio sgwarnog.com rhywbryd yn ystod y dyfodol agos? Cawn weld... O ia, ti di cysidro un peth? Dwi'n dod a mymryn o gyhoeddusrwydd i sgwarnog.com nawr. Ella bod hysbys da/drwg/cymysglyd yn well na dim cyhoeddusrwydd o gwbl(?)
sgwarnog.com- creme de la creme(?) (ymddiheuraf os nad wyf yn gallu sillafu'r dywediad Ffrengig yma yn iawn.) Does yna ddim lefel is na "ardderchog" yn ddigon da ar gyfer cyfeiriad e-bost uniaith Gymraeg. Wrth gwrs fod yna lwyth o bethau da a chlyfar yn gysylltiedig a sgwarnog.com. Fodd bynnag, "nid da lle gellir gwell!"
Martin Llewelyn Williams
 

Re: Ailadrodd...

Postiogan Aran » Llun 13 Medi 2004 5:40 pm

Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Fodd bynnag, "nid da lle gellir gwell!"


Dw i wedi bod yn gweithio ar wella Sgwarnog.com ers i mi gychwyn y peth. Dan ni'n llai na flwydd oed. Wyt ti'n disgwyl i gwmniau Cymraeg ymddangos allan o nunlle yn anferth ac yn berffaith?

Wyt ti'n awgrymu mai diogrwydd sydd wrth wraidd y ffaith i mi uwchraddio'r sustem?... :?:

Tyrd Martin, dwed wrthaf sut wyt ti'n meddwl y dylwn i fod yn rhedeg Sgwarnog yn wahanol. Pa un fuaset ti'n ei ddewis, i uwchraddio a chael y sustem 'off-line' am hanner awr, neu i ddal ati gan ddefnyddio hen dechnoleg?

[O, a gyda llaw, does na DDIM COSTAU CUDD i'r Sgwarnog 'chwaith. £1.50 y mis a dyna ddiwedd arni. Dim byd cuddiedig am hynna!]
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Ylwch...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Llun 13 Medi 2004 5:54 pm

Ylwch... dwisho gweld sgwarnog.com yn llwyddo hefyd. Cwestiwn-faint o aelodau sydd gan sgwarnog ar hyn o bryd? A yw'r ffigwr yma yn dderbynniol? Gyda phob parch, roedd hi'n brofiad gwael a rhwystredig iawn rhoi manylion personol ynglyn a chyfrif banc (mewn caffi rhyngrwyd) ac yna darganfod nad oedd y system yn gweithio. Pam wnaeth paypal gymryd fy manylion heb fy rhybuddio fod yna nam ?CYN i mi deipio'r wybodaeth gyfrinachol?Mae manylion o'r math yma yn sensitif a phersonnol- dwi hefyd yn meddwl fod Dydd Sul yn amser eitha poblogaidd ar gyfer defnyddio'r rhyngrwyd. Wel, roedd y caffi rhyngrwyd ydw i yn ei ddefnyddio yn orlawn beth bynnag... Pob lwc i sgwarnog.com ond tydw i ddim yn difaru creu'r edefyn yma chwaith...
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan lleufer » Llun 13 Medi 2004 6:39 pm

Rioed di cael trafferthion mawr 'da'r sustem, deall bod uwchraddio'n bwysig er mwyn cynnig gwasanaeth mwy effeithiol - felly dw i'm yn mynd i bwdu a lluchio nheganau allan o'r pram oherwydd nad yw ar gael am chydyg oriau.

Wrth modd bod sustem e-bostio Cymraeg ar gael sydd yn llawer mwy pleserus i'w ddefnyddio na'r hen gyfrif Hotmail roedd gen i, er ei fod am ddim.

Dw i'n hapus i gefnogi Sgwarnog tra'n ymwybodol bo rhain yn parhau i fod yn ddyddiau cynnar iddo - edrych mlaen i'w weld yn mynd o nerth i nerth.

Wedi'r cyfan be di £1:50 y mis am rhywbeth sydd yn wreiddiol, difyr, cynhwysfawr ac yn y Gymraeg, a phan fydd wedi cryfhau a thyfu byddaf i'n falch o ddweud 'mod i'n un o'r rhai a'i gefnogodd yn y dyddiau cynnar.

Pob lwc ddweda i - mae'n ymddangos ei fod mewn dwylo digon profiadol beth bynnag.
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 13 Medi 2004 8:06 pm

Diolch Martin. On i'n bwriadu cychwyn cyfrif gyda Sgwarnog ers tro byd, a mae dy feirniadaeth wedi ysgogi i mi gefnogi'r fenter! :winc:

O beth fi'n gweld, ac mae'n gynnar iawn eto, mae'r sustem yn gweithio'n berffaith. Un neu ddau problem gyda atal sbam, ond mae hyn yn cael ei gywiro yn ystod y dyddiau nesaf, felly llongyfarchiadau i Aran :D
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Blewyn » Llun 13 Medi 2004 8:53 pm

Dwi'n anghytuno yn llwyr ar y pwynt am safonau. Mae'n hollol afresymol i ddisgwyl cwmni fechan Gymraeg sy'n gweithio ar system danysgrifiad rhad i gystadlu efo Hotmail a'r math, efo'r economiau o radd ac incwm hysbysebu mae nhw'n ei fwynhau.

Yn fy mhrofiad i mae sgwarnig.com llawn cystal a hotmail ayyb hyd yn hyn, ac cyn belled a dwi yn y cwestiwn 'chydig o wahanieth dwi'n weld rhwng y ddau, ond mae'na un safon lle mae sgwarnog.com yn bell and yn glir o flaen y pac - mae o'n wasanaeth Cymraeg !

Hwyl,

Blewyn
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Ylwch...

Postiogan Aran » Llun 13 Medi 2004 9:01 pm

Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:Cwestiwn-faint o aelodau sydd gan sgwarnog ar hyn o bryd? A yw'r ffigwr yma yn dderbynniol?


Martin, dw i wedi ateb y ddau gwestiwn yna'n barod. Pam na wnei di ddarllen atebion pobl?

82 erbyn hyn, ac yndy.

Mae'n ymddangos bod rhaid bod y diweddariad i'r gronfa ddata (yr unig darn o'r uwchraddio sydd yn achosi i'r sustem cau i lawr) wedi cychwyn, yn anffodus braidd, mwy neu lai yn union pan oeddet ti'n trio cychwyn cyfrif. Mae gen ti bwynt teg yn hynny o beth - dylwn i fod wedi analluogi'r dolen cyswllt i gychwyn cyfrif ar y tudalen blaen, ond wnaeth o ddim croesi fy meddwl. Mi fydd, tro nesaf, mae'n siwr! Mae'n ddrwg gen i dy fod wedi cael profiad anfoddhaol, ond byddai e-bost bach i mi wedi datrys y peth yn syth.

Rwan, dychmyga'r gwahaniaeth y fedri di wneud i'r We Gymraeg 'set ti'n cychwyn prosiect dy hun... beth amdani?

Diolch i chi ddau Hedd a Lleufer am eich geiriau caredig - mi wna i gario ymlaen i roi cymaint o fy amser a medraf i mewn i'r Sgwarnog, ac os dach chi'n cael unrhyw broblemau o gwbl, bydda i'n gwneud fy ngorau i helpu... :D

Wedi deud hynny, mae popeth wedi bod yn rhedeg yn dda iawn ers i ni symud sustemau rhyw ddau fis yn ôl - gobeithio bydd yr hen beth yn dal i fod yn eithaf 'low maintenance' am ychydig eto tra mod i'n symud swyddfa Cymuned... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Gruff Lovgreen » Llun 13 Medi 2004 10:25 pm

Dwi dal ddim yn cytuno efo'r gair "sustem" ddo...Dwi rioed di gweld o'n cal ei ddefnyddio o blaen.
"I just said that you enjoy the occasional drink...ing binge."

Y Lliw Drwg
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Lovgreen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 184
Ymunwyd: Iau 09 Medi 2004 5:45 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan f00 » Llun 13 Medi 2004 10:33 pm

mae'r sillafiad yn rhemp!

:?
f00
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 164
Ymunwyd: Sul 01 Chw 2004 7:16 pm

Postiogan Cardi Bach » Maw 14 Medi 2004 8:34 am

Na, mae arna i ofn nad yw Sgwarnog ddigon da - does dim acses i'r we gyda fi gytre, sut felly ydw i fod i gyrraedd Sgwarnog adre felly? Hmm? Aran?! Beth wyt ti am wneud am y peth?!!! Hmm? Der'mlan nawr, Aran, fi ishe Sgwarnog gytre NAWR!!!

Dim digon da

:rolio:

Jyst rhag ofn bo rhywun wedi colli'r pwynt - dychanu oeddwn i.

Galla i jyst dynnu'ch sylw chi at anghysondeb dadl Martin Llywelyn Williams.

Ar yr un llaw Martin ti'n cwyno nad yw'n ddigon da fod ni'r Cymry yn gorfod derbyn gwasanaeth eilradd. Yn gyntaf oll mae'n werth nodi mae 'gwasanaeth gyhoeddus wirfoddol' yw Sgawrnog, sy'n cael ei wneud ar ol diwrnod caled o waith.
Ond beth bynnag am hynny.

Mae'n siwr gen i fod Aran, fel rheolwr Sgwarnog, yn cytuno a dy farn di fod angen cynnig y wasanaeth orau Posib. Felly yr hyn mae Aran yn wmeud ermwyn sicrhau fod y Cymry ddim yn cael gwasanaeth eilradd yw i gymryd hanner awr i ddiweddaru'r system er mwyn sicrhau fod y cyhoedd a'r cwsmeriaid yn cael y wasanaeth orau posib.

A ti'n cwyno.

Beth mae e fod i wneud?
Pe na byddai'n diweddaru'r sustem yna yn sicr byddai safon y wasanaeth yn disgyn.

Mae'n rhaid i ti dderbyn mai cyd-ddigwyddiad llwyr ydoedd fod y diweddaru, ermwyn cyrraedd y safonau yr wyt ti mor daer iw gweld yn cyrraedd, wedi digwydd yn union yr un pryd ag oeddet ti wedi ymgeisio i gofrestru.

Mae Aran wedi ymddiheurio yn gyhoeddus - yn fwy o gam o beth uffar na weli di ffat-cats enron a'u tebyg yn gwneud - am fethu a dad-gysylltu'r linc i ymaelodu tra'n ymddiheurio.

Dyma'r math o wasanaeth byddwn i'n ddymuno ei gael yn bersonol. Pobl yn derbyn eu bai ac yn rhoi eu gair na fydd yn digwydd eto. Dyma'r math o ymddygiad sy'n denu cwsmeriaid.

Yr unig beth wy'n gresynnu yw nad ydw i - eto - yn gallu ymuno a Sgwarnog am resymau nad sydd angen eu manylu yma. Ond gallwch chi fod yn sicr, fel Hedd, ar ol gweld hwn mi fydda i'n ymuno.
Mae gen i gyfri Hotmail ar y foment - cyfri di-wyneb, a di-gymeriad sydd yn danfon ymatebion swrth a uchel-ael yn ol i nghwestiynnau.

Nid y wasanaeth yr wyf yn ddymuno.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

NôlNesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron