sgwarnog.com - Be ffwc ydi'r sgor?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sbwriel » Sul 12 Medi 2004 5:01 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Beth am dargedu y feirniadaeth yn lle at Yahoo, Gmail a MSN sy'n gwrthod cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg?


Pam dylen ni fod yn hapus gyda gwasnaeth gwael 'mond achos ei fod yn gymraeg? (Nid fy mod i'n dweud fod sgwarnog yn cynnig gwasanaeth gwael o gwbl, se ni ddim yn gwbod)

Pam dy fod ti Hedd a nifer o bobl eraill yn barod iawn i feirniadu cwmniau di-gymraeg pan fydd beirniadu gwasanaethau sydd gyda ni'n gymraeg yn barod yn eu gwella?

Pam na ddyle ni hawlio gwasanaethau da yn y gymraeg - wedyn chi ddim yn neud pwynt o gefnogi 'mond achos ei fod yn gymraeg, ond hefyd am ei fod werth e.
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Re: sgwarnog.com - Be ffwc ydi'r sgor?

Postiogan Slinci » Sul 12 Medi 2004 5:28 pm

Martin Llewelyn Williams a ddywedodd:... Ffycin c'mon-pa mor uchelgeisiol ydi'r byd Cymraeg ar y we fyd eang!? :drwg: Busnes ydi busnes. Gwasanaeth i gwsmeriaid ydi gwasanaeth i gwsmeriaid. Tri chynnig i Gymro? Na-malu cachu ydi hyn a dim byd arall. Gwasanaeth gwych y tro cynta- dyna mae pobl sydd yn talu am rhywbeth yn ei haeddu! :drwg:


Busnes ydi busnes. Felly defnyddia uno'r busnesau di-rif Cymraeg sydd wrth ei bodd i gael ei rhegi. Mae'r dewis yn eang. :)

Mae hyd yn oed eBay i lawr weithiau er mwyn diweddaru. :rolio:
Helo, dwi'n slinci.
Rhithffurf defnyddiwr
Slinci
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Gwe 23 Gor 2004 8:23 pm
Lleoliad: Dyffryn Nantlle

Postiogan Gruff Lovgreen » Sul 12 Medi 2004 5:35 pm

Dim bod yn annoying a keen am Gramadeg ond esh i yna, a nath y ffaith bod system wedi'i sillafu'n rong tua cant o weithia roi fi off completely. Os ti'n mynd i'r drafferth i neud rhaglen e-bost Gymraeg, ddylia'r iaith fod yn gywir dwi'n meddwl. Dim cymyd y piss ydwi, jysd gair o gyngor hollol gyfeillgar.
"I just said that you enjoy the occasional drink...ing binge."

Y Lliw Drwg
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Lovgreen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 184
Ymunwyd: Iau 09 Medi 2004 5:45 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Jac Glan-y-gors » Sul 12 Medi 2004 5:57 pm

Newydd drio cofrestru ar gyfer sgwarnog.com. Wedi defnyddio'r system paypal. Siomedig iawn oedd darllen y canlynol: Ymddiheuriadau -sgwarnog.com yn cael ei drwsio..." Wel bois bach, tydi hyn ddim digon da ar gyfer cenedl hunanhyderus ac uchelgeisiol.

Dim ond am un pnawn oedd e lawr. Ma pob system ebost yn gorfod diweddaru. Am sylw cachu i neud. Cwyd oddi ar dy din a gwna rhywbeth positif yn lle ymosod ar y rhai hynny sy'n gneud.
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Postiogan Jac Glan-y-gors » Sul 12 Medi 2004 6:16 pm

Dim bod yn annoying a keen am Gramadeg ond esh i yna, a nath y ffaith bod system wedi'i sillafu'n rong tua cant o weithia roi fi off completely.

Sori Gruff, ond fe fyddai'n well gneud yn siwr o'r ffeithiau gynta. Cer i dudalen 3358 o Eiriadur Prifysgol Cymru (yr un mawr pedair cyfrol) ac fe weli di y gair sustem yno.
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 12 Medi 2004 6:33 pm

Jac Glan-y-gors a ddywedodd:
Dim bod yn annoying a keen am Gramadeg ond esh i yna, a nath y ffaith bod system wedi'i sillafu'n rong tua cant o weithia roi fi off completely.

Sori Gruff, ond fe fyddai'n well gneud yn siwr o'r ffeithiau gynta. Cer i dudalen 3358 o Eiriadur Prifysgol Cymru (yr un mawr pedair cyfrol) ac fe weli di y gair sustem yno.


Cytuno! Sustem fi di defnyddio erioed. O be dwi'n deall mae 'sustem' a 'system' yn gywir yn y Gymraeg!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Aran » Sul 12 Medi 2004 6:35 pm

Diolch i bawb sydd wedi esbonio fy ochr i yn well na beth fuaswn i'n gwneud fy hun... :D

Rhaid cyfaddef, doeddwn i heb checio Geiriadur Prifysgol Cymru cyn sillafu sustem yn sustem, jesd yn meddwl mai fel'na mae'n swnio i mi, ond dw i wrth fy modd cael gwybod bod y Geiriadur o blaid!

Mae iaithwedd y Sgwarnog yn anffurfiol ac weithie bach yn arbrofol trwyddi draw - hyd yn hyn, mae'r Sgwarnogod wedi mwynhau. Wrth gwrs, dw i wrth fy modd cael awgrymiadau newydd bob tro.

Diolch yn arbennig i'r rhai sydd wedi pwyntio allan bod hyd yn oed busnesau mawr iawn yn mynd i lawr weithie - roedd Sgwarnog i lawr am oddeutu 25 munud y prynhawn yma, ar gyfer uwchraddio - annhebyg y bydd hynny'n digwydd mwy nag unwaith bob 18 mis. Ar wahan i hynna, dan ni'n rhedeg ar uptime o tua 99.8%, sydd yn o lew am wn i. Digon da i mi, beth bynnag, a dwi'n byw a bod ar y sustem.

Ar ran y safon yn gyffredinol - mae nifer o Sgwarnogod wedi deud pethe positif iawn am fod y sustem yn cynnig danteithion bach difyr sydd ddim ar gael o fewn sustemau eraill bod nhw wedi'u defnyddio. Ar y cyfan, dw i'n meddwl bod safon y sustem yn reit da, neu fuaswn i ddim yn ei ddefnyddio fy hun.

Mae gennon ni 81 o gyfrifon, Martin. Yndw, dw i'n hapus gyda'r ffigwr yma. Dw i wedi cyflawni fy amcan wreiddiol, sef cael sustem oedd yn rhedeg yn y Gymraeg ac yn hunangynhaliol. O hyn ymlaen, byddaf yn ychwanegu danteithion at y sustem yn unol a faint o bres sydd yn dod i mewn i'r coffrau - hynny yw, 'swn i ddim yn colli awr o gwsg pe bai neb arall byth eto yn ymSgwarnogi.

Wrth gwrs, mwyaf yn y byd o Sgwarnogod, gorau yn y byd eith y sustem, ond mae'n ddigon da i mi fel y mae hi. Ac os wyt ti'n meddwl mod i'n crafu am gwsmeriaid sydd yn fy nghyfarch i fel 'Yli gyfaill', ti'n anghywir. Un o'r pethe mod i'n mwynhau'n arw am y Sgwarnogod ydy eu bod nhw'n bobl positif iawn ac yn bleser pob tro i drafod pethe gyda nhw.

Does na un ohonyn nhw erioed wedi deud 'Hei, snap to it m'boi, dw i'n talu pres mawr am hyn wyddoch chi, a dw i'n disgwyl gwas 24 awr y diogyn bach afiach i ti!'

Dim eto, beth bynnag... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan twmffat » Sul 12 Medi 2004 10:48 pm

Martin, os wnei di roi'r geiriau "server uptime 100% impossible" yn Google a gweld y canlyniadau fe weli di fod dy sylwadau yn rai hurt. Darllen y dudalen hyn hefyd:

http://www.robertmoir.co.uk/secure/MeasuringAvailability.html

Felly i ateb dy gwetiwn di, y ffwcin sgor yw bod sgwarnog.com yn rhedeg yn dda ac yn effeithiol a bod dim cliw gyda ti am gyfyngiadau y technoleg wyt ti'n defnyddio bob dydd.
twmffat
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 51
Ymunwyd: Llun 28 Gor 2003 12:25 am

Twmffat...

Postiogan Martin Llewelyn Williams » Llun 13 Medi 2004 4:11 pm

twmffat a ddywedodd:
Felly i ateb dy gwetiwn di, y ffwcin sgor yw bod sgwarnog.com yn rhedeg yn dda ac yn effeithiol a bod dim cliw gyda ti am gyfyngiadau y technoleg wyt ti'n defnyddio bob dydd.

twmffat- mi wnes i ddefnyddio elvis.com am o leiaf blwyddyn. Erioed wedi cael trafferth gyda'r cyfeiriad yma- 'rioed :drwg:
Pa mor UCHELGEISIOL ydi'r byd Cymraeg ar y we fyd-eang? Yn y pendraw- safon ydi safon. Tydi llawer o gwsmeriaid ddim yn mynd i roi ail gyfle i sgwarnog.com- gan gynnwys fi fy hunan? Amser a ddengys...
Martin Llewelyn Williams
 

Postiogan f00 » Llun 13 Medi 2004 5:22 pm

:rolio: dy ben i fynu dy din yn rhy bell i sylweddoli pan ti'n bod yn hurt. yr un hanner awr lle wyt ti isio defnyddio sgwarnog a ma' nhw'n diweddaru'r system/sustem ... a mae hyn yn dy yrru ar rhyw rant am safonnau etc. o leia ges di neges glen yn deud be odd yn digwydd, dim fatha msn/ntl/bbc.co.uk etc. etc. weithia ..

'sgyna i ddim cysylltiad hefo sgwarnog, nag yn nabod neb sy'n ei ddefnyddio, ond mae gynnai rhyw syniad am rhedeg systemau cyfrifiadurol a mae twmffat yn llygad ei le. nes di ddarllen y linc? nes di orfod diweddaru meddalwedd pan oeddet ti'n defnyddio elvis.com? nes di ddiweddaru meddalwedd ar dy gyfrifiadur dy hun erioed?

[windows must now restart to finish installing]

shit, mae'r gwasanaeth wedi stopio am chydig, dyna'r safonau wedi mynd i'r toilet eto!

rwbath i neud hefo bod yn gymraeg, maen siwr.
f00
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 164
Ymunwyd: Sul 01 Chw 2004 7:16 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron