Blog Cymraeg

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Blog Cymraeg

Postiogan Gwerinwr » Mer 22 Medi 2004 6:52 pm

Maddeuwch i fi am ofyn cwestiwn gwbwl elfennol. Rwn gweld mewn lle arall gall fod yna broblemau wrth drio cyfieithu rhaglen blogio i'r Gymraeg - wel problemau anferth i fi o leiaf.
Felly y cwestiwn yw - a oes yna template ar gael lle byddwn yn gallu ei ddefnyddio ac wedyn newid ac addasu fel y byddwn yn ennill tipyn o hyder.
Yn ail, byddai rhaid i beth sydd gennyf mewn golwg fod yn ddwyieithog Fyddai hynny yn cymhlethu pethau ymhellach neu fyddech chi'n awgrymu cael dau flog - un yn GYmraeg a'r llall yn Saesneg.

Llawer o ddiolch
Rhithffurf defnyddiwr
Gwerinwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 05 Meh 2003 3:09 pm
Lleoliad: Llanelli

Postiogan Rhys » Iau 23 Medi 2004 8:36 am

Dwi di addasu fy botmau i fod yn ddwyieithog achos mae fy mlog wedi ei anelu at ddysgwyr o bob lefel. O'r ochr dechnegol tydio'n gwneud dim gwahaniaeth o gwbwl. Mae'n dibynnu sut fath o blogio ti am wneud. Fyddi di sgwennu'n Gymraeg a Saeseng am bopeth ti'n blogio, neu dio'n dibynnu ar beth ti'n bogio am. (e.e. sgwennu'n Gymraeg pan yn crybwyll gwefannau Cymraeg/Cymreig a Sasneg pan yn sôn am bethau eraill mwy cyffredin :? )
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan nicdafis » Iau 14 Hyd 2004 4:23 pm

MAe 'na fodd ddefnyddio CSS i wneud blog dwyieithog, a chuddio'r cofnodion mewn un iaith neu'r llall oddi wrth y rhai sy ddim yn ei medru. Wna i feddwl mwy am hyn, mae'n gwestiwn diddorol iawn.

Mae darlunio yn ddwyieithog yn fwy anodd na mewn uniaith, yn sicr, a fel arfer dwy dudalen ar wahan sydd angen.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan huwwaters » Iau 14 Hyd 2004 5:25 pm

Oi. Chi di dwyn y syniad dwi di bod yn gweithio ar ers dipyn.

Defnyddio layers sy'n cuddio, ac wrth newid iaith mae'n llwytho data o iaith gwahanol o gronfa-data MySQL.

:drwg:
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron