gan nicdafis » Iau 21 Hyd 2004 9:59 pm
Mae Bloglines yn darllen eich ffids RSS a serfo nhw i fyny fel hyn. Dyma un <a href="http://www.bloglines.com/blog/Brataith?subid=3347699">Morfablog</a>, eto o gasgliad o lincs Chris. Dw i'n synnu nad yw eich blogs eu hunain yn uwch yng nghanlyniadau Google na'r fersiwn bloglines ohonyn nhw, ond mae Google fel 'na. Mae miloedd o ddolenni yn pwyntio at Bloglines, felly mae'n mynd i fyny yng ngraddfa hudol Google.
Sa i'n gweld e fel rhywbeth i boeni amdano. Dim ond drych o'ch blog yw e, nid rhywun sy'n esgus taw nhw sy wedi sgwennu e. Mae linc i'r blog go iawn ar y top, ac ar bob gofnod.