Mae modd copio a phastio script oddi yma sy'n rhestru a chyfri drwy pa wefannau mae ymwelwyr wedi cyrraedd eich blog/gwefan. Dwi heb ei ychwanegu at fy mlog i eto achos dwi ddim yn meddwl bod neb yn ymweld â Dysgwyr De Ddwyrain , neu efallai dwi heb osod sitemeter i fyny'n iawn.
Dwi'n eitha hoffi'r busnes blogio ma, ac yn ystyried dechrau un personol hefyd (bydde dim ots os fydde neb yn darllen hwnnw ). Gan fod nifer o'r Blogiau Cymraeg newydd heb gael eu diweddaru ar ôl rhyw bost neu ddau, mae bloglines.com yn ddefnyddiol iawn. Dyma fy rhestr i.
Mae'n bloglines yn anhygoel achos pan gliciais i ar 'recommended' , rhoddodd restr o blogiau Cymraeg (rhan fwyaf oddwn i'n gwybod am beth bynnag) a pethau gel y Guardian, Cymdeithas yr Iaith, Tlysau (Llyfrgell Genedlaethol) ayyb. Sgwn i sut wnaeth o allu gweithio allan mai gwefannau Cymraeg/Cyreig oeddwn i'n eu hymweld ac mai y Guardian yw'r math o bapur dwi'n ddarllen?