dewi_o a ddywedodd:Rwyf wedi dechrau blog newydd os oes gan unrhyw un diddordeb.
http://cymrufach.blogspot.com
Os fuasai unrhyw un yn hoff o gael cysylltiad i'w blog nhw o'r blog yma plis gadewch i mi wybod.
Hoffi'r blog, wnes i drio postio sylwad ond o ni methu achos bo fi ddim hefo acownt hefo google
O ni'n hoffi'r profeil yn y panel ochr a dwi newydd bod yn trio gwneud hwn hefo un fi yn wordpress...o ni eisiau rhoi'r avatar fel fy llun parhaol a chael pwt amdannai oddi tanodd) ond wedi methu ai wneud e....sut mae gwneud?
Efallai bod rhaid i Dewi newid ei osodiadau achos mae modd gdael sylw ar rai blogiau Blogger rwan heb fod â chyfrif.
Yn anffodus, dwi ddim yn meddwl galli di 'hacio' dy batrymlun ar Wordpress.com heb uwchraddio (h.y. talu!), er mae dewis reit eang o batrymluniau deniadol a gwahanol iawn a'r gael o'i gymhrau a blogger.