Oes mwy o flogiau?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys » Mer 20 Hyd 2004 10:37 am

Ddim wedi dod ar draws beth sy'n bod sori, er mae'r rhestr rhithfro yn ymddangos ar blogiau pobl eraill dwi wedi ymweld heddiw.

Dyma flog arall ddois ar ei draws: http://dysgwr.blogspot.com/. Dwi ddim yn gwybod gan bwy, ond dyfalu mae dysgwraig yn y Gogledd Orllewin ydi hi.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Cymro Sinistr » Sad 23 Hyd 2004 9:22 pm

Wc, Wc, dwi wedi neud blog am ryw reswm!

http://www.sinistr.blog-city.com

Mae o'n hull iawn ond mi roedd yn eithaf hwyr a doedd genaim mynadd call lliwiau call, nai wella'r lliwiau unwiath dwin cael sens lliwiau.
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro Sinistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 791
Ymunwyd: Iau 26 Awst 2004 7:51 pm
Lleoliad: Nagoes

Postiogan nicdafis » Sul 24 Hyd 2004 12:53 pm

Reit wedi trwsio'r Rhithfro. Mae cwpl o flogiau i'w hychwanegu o hyd. Wna i hynny ar ol cinio.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sul 24 Hyd 2004 1:36 pm

Cymro Sinistr a ddywedodd:Wc, Wc, dwi wedi neud blog am ryw reswm!

http://www.sinistr.blog-city.com


o'r blog a ddywedodd:Dwi erioed di gweld pwynt blogs a be yn union sydd angen ei sgwennu yma.


Beth am hyn, unwaith ti wedi gweithio mas beth yw'r pwynt, a pam ti'n wneud, wna i ychwanegu'r blog i'r rhestr. ;-)

Yn fwy cyffredinol, gan fod y rhestr wedi tyfu cymaint, a nes i ni gael rhyw drefniant newydd (sbwriel?), dw i am beidio ychwanegu blogiau newydd i'r rhestr nes iddyn fodoli am wythnos neu ddwy, ac wedi postio tipyn bach mwy na'r neges agoriadol "bydd hyn yn rybish, ond mae pawb arall yn wneud, felly dyma fy un fi". i bobl sy ddim yn defnyddio rhywbeth fel <a href="http://bloglines.com/myblogs">Bloglines</a> i gadw i fyny gyda'r blogs, dydy rhestr o wefannau sy heb cael eu diweddaru am ddiwrnodau, wythnosau ac hyd yn oed misoedd ddim lot o iws, ac yn fwy tebyg i roi'r argraff bod y hen flogiau yma yn wastraff o amser.

Chi pobl sydd <i>yn</i> darllen blogs, pa mor aml dych chi'n disgwyl deunydd newydd ar y blogs ti'n mynychu. Yn bersonol, os nag oes stwff newydd bob yn ail ddydd, ac yn sicr ar ol wythnos, dw i'n cymryd bod y blogiwr wedi rhoi'r ffidl yn y to, o leia dros dro, ac mae'r bookmark yn symud o'r ffeil "dyddiol" i'r un "wythnosol".

Beth mae pobl eraill yn wneud?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sul 24 Hyd 2004 2:36 pm

Rhys a ddywedodd:Dyma flog arall ddois ar ei draws: http://dysgwr.blogspot.com/.


Nid yw un cofnod yn flog ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Sul 24 Hyd 2004 2:46 pm

nicdafis a ddywedodd:Chi bob yn ail ddydd, ac yn sicr ar ol wythnos, dw i'n cymryd bod y blogiwr wedi rhoi'r ffidl yn y to, o leia dros dro, ac mae'r bookmark yn symud o'r ffeil "dyddiol" i'r un "wythnosol".


Dw i jyst yn adio pob blog i Bloglines, ac felly os nad oes neges newydd does dim rhaid i fi wastraffu fy amser yn mynd i'r blog i gael gweld os oes neges newydd.

Dwi'n sylwi hefyd nad ydw i wedi diweddaru r'un o fy mlogs yn ddiweddar, un am wythnos a'r llall am 17 diwrnod. Mae fy egni creadigol wedi ei sianelu mewn cyfeiriad gwahanol ar y funud, gwaetha'r modd. Mae gen i waith coleg i'w wneud, dogfen greadigol 50,000 o eiriau i'w gorffen, a dw i wedi fy nerbyn fel pensaer ar dim cynhyrchu gemau cyfrifiadur. Felly mae'n debyg na fyddaf yn ail ymuno a fyd y blogio tan ddechrau Rhagfyr. :(
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Sul 24 Hyd 2004 5:53 pm

Ie, Bloglines yw'r boi. Dw i ddim hyd yn oed yn siwr iawn os ydw i'n mynd i gadw Rhestr y Rhithfro ar dudalen flaen morfablog. Bydda i'n ail-gynllunio cyn bo hir, a dw i'n ffansio rhywbeth lot symlach ar ran cynnwys y dud. flaen. Gawn ni weld.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Cymro Sinistr » Sul 24 Hyd 2004 6:55 pm

Reito, dwi wedi ffeindio rheswm a dyma fo, syth o fy mlog lliwgar.


Blog Sinistr y Cymro Sinistr a ddywedodd:Ers ddoes dwi wedi ffindio pwynt blog: Ffordd gwahanol i siarad ich hyn heb edrych yn ddwl, dwin credu mai dyna yw'r prif reswm. Felly enw newydd blog city: "Blog City Where Talking To Yourself Is'nt Weird".



Dyna fo, y prif reswm!
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro Sinistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 791
Ymunwyd: Iau 26 Awst 2004 7:51 pm
Lleoliad: Nagoes

Postiogan eusebio » Sul 24 Hyd 2004 11:41 pm

nicdafis a ddywedodd:Ie, Bloglines yw'r boi.


Dwi wedi trio cofrestru â Bloglines heddiw ac er i mi ofyn ddwywaith ers cofrestru tydw i dal heb gael ebost i gychwyn fy nghyfrif. :(
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Rhys » Llun 25 Hyd 2004 9:35 am

nicdafis a ddywedodd:
Rhys a ddywedodd:Dyma flog arall ddois ar ei draws: http://dysgwr.blogspot.com/.


Nid yw un cofnod yn flog ;-)


Digon gwir
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron