Tudalen 1 o 25
Oes mwy o flogiau?
Postiwyd:
Iau 14 Hyd 2004 4:15 pm
gan nicdafis
Dw i'n mynd ati i ddiweddaru'r rhestr o flogiau Cymraeg, a dw i'n siwr dw i wedi clywed am fwy dros yr wythnosau diwetha, ond dw i'n ffaelu ffeindio y cyfeiriadau i gyd. Os dydy dy flog ddim yn ymddangos <a href="http://morfablog.com/rhithfro">yma</a> 'to, rho wybod yma.
Diolch.
Postiwyd:
Iau 14 Hyd 2004 4:19 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Sylwes i nad yw
Alcoflog, sef blog Joni, ddim yno.
Ond alla' i'm meddwl am fwy off top 'y mhen.
Postiwyd:
Iau 14 Hyd 2004 4:23 pm
gan Geraint
Postiwyd:
Iau 14 Hyd 2004 4:31 pm
gan nicdafis
Mae Cynog yna ond dw i wedi ffwcio lan y cod. Wna i sorto fe ar ol y dosbarth heno.
Postiwyd:
Iau 14 Hyd 2004 9:22 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Un pwynt i'w godi, Mr Dafis. Pam, pan y'ch chi'n rhoi pwyntiwr y llygoden ar y ddolen i fy mlog i, fod e'n dweud 'Blog Eusebio am y Gem Brydferth'?
Jyst cwestiwn.
Postiwyd:
Iau 14 Hyd 2004 9:38 pm
gan nicdafis
Ddim yn gwybod am beth wyt ti'n son. Wyt ti ar <i>gyffuriau</i>?
(O'r gorau, wedi trwsio hynny.)
Postiwyd:
Gwe 15 Hyd 2004 12:24 pm
gan eusebio
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Un pwynt i'w godi, Mr Dafis. Pam, pan y'ch chi'n rhoi pwyntiwr y llygoden ar y ddolen i fy mlog i, fod e'n dweud 'Blog Eusebio am y Gem Brydferth'?
Jyst cwestiwn.
roeddwn i'n eitha hoffi hyn
Postiwyd:
Gwe 15 Hyd 2004 6:05 pm
gan Cynog
nicdafis a ddywedodd: Wna i sorto fe ar ol y dosbarth heno.
Diolch Nic, ti'n angel
Postiwyd:
Maw 19 Hyd 2004 11:15 pm
gan Macsen
Lle mae'r Rhithfro?
Postiwyd:
Mer 20 Hyd 2004 9:10 am
gan nicdafis
Dw i wedi torri fe. Sori. Wna i drial fficso fe nes ymlaen. Os oes rhywun moyn edrych ar y sgript a dweud wrtha i beth dw i wedi wneud o'i le, dyma fe:
- Cod: Dewis popeth
[gol. mae'n iawn nawr]
Mae'n debyg bod 'na collnod mas o'i le rhywle, ond does dim amser 'da fi y bore 'ma i ffeindio fe.