gan Macsen » Sad 04 Rhag 2004 12:53 am
Oes werth i rywun ddechrau blog yn trafod blogiau Cymraeg eraill? Er engraifft, rhoi dolen i bob blog newydd sy'n ymddangos yn y Gymraeg, a dolen i'r peth mwyaf diddorol a flogwyd yn y Gymraeg y dydd hwnnw? Nid yn unig fydd o'n sbardun i flogwyr gystadlu yn erbyn ei gilydd i greu'r peth mwyaf diddorol, ond bydd o hefyd yn rhoi sylw i flogwyr sydd bron a rhoi fyny am ei bod yn teimlo bod neb yn darllen ei blogiau.