Tudalen 23 o 25

PostioPostiwyd: Llun 13 Awst 2007 9:08 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Reit, fi'n mentro mewn i'r byd blogio.
...da-da-da-daaaaa.... Rhacs Jibiders

Eitha spartan ar hyn o bryd, a wy'n hollol di-glem gyda HTML a beth bynnag, felly sai'n gweld pethe yn newid i'r gwell am sbel fawr. :?

Ond dim ots, y geirie sy'n bwysig nage fe :). Ond paid a erfyn unrhywbeth o werth o'r ochor hynny chwaith. :crio:

Ffordd dwi'n newid popeth i'r Gymrâg?

PostioPostiwyd: Maw 14 Awst 2007 9:46 am
gan Rhys
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:
Ffordd dwi'n newid popeth i'r Gymrâg?


Rhaid ti fynd i'r dashboard a gwneud ambell i fân newidiadau. Gan bod ti heb ysgifennu llawer arno eto, beth am ddechrau blog gyda www.nireblog.com/cy ble mae popeth yn Gymraeg yn barod?

PostioPostiwyd: Iau 23 Awst 2007 4:00 pm
gan Rhys

PostioPostiwyd: Iau 23 Awst 2007 5:47 pm
gan Y Pesimist
Nath yn ffrind gora fi ddeud bo fin cwyno gormod ac felly dyma setio blog wythnosol fyny wedi selio ar dopic odd wedi gwylltio fi yn ystod yr wythnos.

http://www.myspace.com/moanoftheweek

PostioPostiwyd: Iau 23 Awst 2007 6:38 pm
gan Hogyn o Rachub
Y Pesimist a ddywedodd:Nath yn ffrind gora fi ddeud bo fin cwyno gormod ac felly dyma setio blog wythnosol fyny wedi selio ar dopic odd wedi gwylltio fi yn ystod yr wythnos.


Ti tua 4 blynedd yn rhy hwyr :winc:


[/plyg digywilydd]

PostioPostiwyd: Iau 23 Awst 2007 6:50 pm
gan Y Pesimist
Hogyn o Rachub a ddywedodd:[/plyg digywilydd]


Lle ma'r plyg ta di dod allan o'r soced (Ciw tumbleweed yn hedfan ar draws y sgrin)!

Y Plyg Digwilydd Sydd Yn Gweithio

PostioPostiwyd: Llun 26 Tach 2007 1:13 pm
gan SerenSiwenna
nicdafis a ddywedodd:
Dyddgu a ddywedodd:*Dyddgu yn mynd i wisgo'i chrys blew garw a fflangellu'i hun*


Sail gorau i gofnod blog dw i wedi gweld ers amser.

PostioPostiwyd: Llun 26 Tach 2007 1:18 pm
gan SerenSiwenna
Sori am dyfynnu uchod - o ni jest ynsbio drost y drafodaeth gan ymchwilio am sut i fynd ati i greu blog a dyma fi'n gwasgu'r bwtwm anghywir ac mi aeth hi'n llanast :wps:

PostioPostiwyd: Gwe 30 Tach 2007 8:10 pm
gan dewi_o
Rwyf wedi dechrau blog newydd os oes gan unrhyw un diddordeb.

http://cymrufach.blogspot.com

Os fuasai unrhyw un yn hoff o gael cysylltiad i'w blog nhw o'r blog yma plis gadewch i mi wybod.

Re: Oes mwy o flogiau?

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 7:47 pm
gan Cylchgrawn Barn
Dwi wedi cychwyn blog, er mwyn trafod pethau sydd efallai ychydig yn anaddas ar gyfer tudalennau Barn, neu sydd yn disgyn rhwng dyddiadau cyhoeddi misol y cylchgrawn. Ar hyn o bryd, mae 'na lot o drafod gwleidyddiaeth, dipyn o son am gomics, a rhywfaint o drafod teledu. Dewch draw am sbec http://bloganswyddogol.blogspot.com/

Dyfrig Jones
(Golygydd Barn)