Tudalen 24 o 25

Re:

PostioPostiwyd: Llun 10 Maw 2008 3:42 pm
gan SerenSiwenna
dewi_o a ddywedodd:Rwyf wedi dechrau blog newydd os oes gan unrhyw un diddordeb.

http://cymrufach.blogspot.com

Os fuasai unrhyw un yn hoff o gael cysylltiad i'w blog nhw o'r blog yma plis gadewch i mi wybod.


Hoffi'r blog, wnes i drio postio sylwad ond o ni methu achos bo fi ddim hefo acownt hefo google :?

O ni'n hoffi'r profeil yn y panel ochr a dwi newydd bod yn trio gwneud hwn hefo un fi yn wordpress...o ni eisiau rhoi'r avatar fel fy llun parhaol a chael pwt amdannai oddi tanodd) ond wedi methu ai wneud e....sut mae gwneud? :wps:

Efallai bod rhaid i Dewi newid ei osodiadau achos mae modd gdael sylw ar rai blogiau Blogger rwan heb fod â chyfrif.

Yn anffodus, dwi ddim yn meddwl galli di 'hacio' dy batrymlun ar Wordpress.com heb uwchraddio (h.y. talu!), er mae dewis reit eang o batrymluniau deniadol a gwahanol iawn a'r gael o'i gymhrau a blogger.

Blog y 'Sioe Gelf'

PostioPostiwyd: Maw 22 Ebr 2008 11:29 am
gan Rhys
Does dim modd rhoi doeln ar y blog ei hun, dim ond cofnodion unigol (rhyfedd :? ), ond i gyd fyd â'r gyfres Sioe Gelf, mae'r cyflwynydd Lise yn blogio.

Dim ond dau gofnod sydd hyd yma:
Dechrau Newydd 8.4.08
Wythnos arall, rhaglen arall, blog arall! 15.4.08

Os ydi rhywun o'r rhaglen yn digwydd darllen hwn:

- Os chi eisiau i eraill flogio am eich blog, gwnewch yn bosib i rywun allu gosod dolen ato.
- Dwi'n sylwi yn ogystal o bod gan y blog RSS ei hun, mae gan y wefan ei hun RSS hefyd, ond a ddylai RSS y fersiwn Cymraeg a'r Saesneg fod yr un fath?
- Dim ond yn Gymraeg mae Lisa'n blogio, a sylwais bod hi'n gorffen1pob (wel y ddau) cofnod gyda 'Nid oes cyfieithiad'. Byddai'm yn well ysgrifennu'r neges yma'n Saesneg + dileu y ddolen 'Blog Lisa' o'r fersiwn Saesnge (gan nad oes un yn bod)?

Re: Oes mwy o flogiau?

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 4:33 pm
gan Jac Glan-y-gors
Blog ar gyfer Cynghorydd Sir Plaid Cymru yn Nyffryn Aeron: http://www.plaidaeron.org/

Efallai ei fod yn ateb rhai o'r cwestiynau ar y maes am greu blog dwyieithog:
viewtopic.php?f=15&t=24831 drwy ddefnyddio medalwedd Joomla ar ei gyfer (http://www.joomla.org/).

Re: Oes mwy o flogiau?

PostioPostiwyd: Maw 13 Mai 2008 5:47 pm
gan Mihangel Macintosh
Blog dwy-ieithog Anarchol.

Re: Oes mwy o flogiau?

PostioPostiwyd: Mer 14 Mai 2008 5:18 pm
gan Jac Glan-y-gors
Pam gafodd y sylw wnaeth Hedd rhyw ddau gyfraniad yn ol am ddefnyddio baneri mewn blog ei ddileu? :ing:

Re: Oes mwy o flogiau?

PostioPostiwyd: Mer 14 Mai 2008 5:43 pm
gan sian
Jac Glan-y-gors a ddywedodd:Pam gafodd y sylw wnaeth Hedd rhyw ddau gyfraniad yn ol am ddefnyddio baneri mewn blog ei ddileu? :ing:


Yr edefyn sydd wedi cael ei hollti - edefyn newydd yma

Re: Oes mwy o flogiau?

PostioPostiwyd: Mer 14 Mai 2008 11:04 pm
gan iwmorg
dwi di dechra cadw blog yn ddiweddar iawn - linc yn fy 'sig' isod.

swni'n hoff o roi lincs i flogiau Cymraeg eraill arno - oes ffordd sydyn o wneud hyn dudwch. Hefyd, sut yw'r ffordd hawdda i greu template, neu gefndir fy hun ar gyfer fy mlog dudwch??

Re: Oes mwy o flogiau?

PostioPostiwyd: Mer 11 Meh 2008 6:10 am
gan sanddef
Cyflwr yr Undeb; newyddion ynglŷn â gwleidyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd

Re: Oes mwy o flogiau?

PostioPostiwyd: Llun 16 Meh 2008 9:28 am
gan Cardi Bach

Re: Oes mwy o flogiau?

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2008 5:31 pm
gan huwcyn1982
Blog am y celfyddydau yng nghymru a dros y ffin.

Arty Smarty. Jolch.