Tudalen 1 o 5

Rhannu lluniau gyda Flickr

PostioPostiwyd: Llun 25 Hyd 2004 1:14 pm
gan nicdafis
Unrhywun arall a chyfrif Flickr? Ffordd hawdd i rannu lluniau, a chan dy fod di'n rhoi tagiau o dy ddewis dy hunan, hawdd iawn i greu is-gymuned Gymraeg tu fewn i gymuned fwy Flickr. Dw i newydd lanlwythio dau lun (lluniau Rhys Llwyd ydyn nhw - na, paid poeni, nid lluniau ohono fe, ond ganddo fe) ac wedi fy synnu pa mor hawdd yw e ei i ddefnyddio. Edrych ymlaen nawr at gael yr iMac (mae e ar ei ffordd!), i mi gael lanlwytho fy lluniau fy hunan.

Mae grwp Cymraeg ar gael. Os oes diddordeb, wna i sefydlu un i aelodau'r maes.

Re: Rhannu lluniau gyda Flickr

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 2:20 pm
gan dafydd
Mae yna nifer o brosiectau difyr iawn wedi eu creu gan ddefnyddio gwybodaeth o flickr. Dyma ddau ohonynt..

Llywio drwy'r tagiau - dewiswch dag i ddechrau a mae'n dangos y rhai cysylltiedig. Sdim lot o gysylltiadau gan y geiriau Cymraeg yn anffodus.. Mae angen mwy o ddefnyddwyr a metawybodaeth.

Cysylltiadau rhwng unigolion mewn diagram canghennog.

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 3:23 pm
gan nicdafis
Angen *lot* mwy o luniau o Gymru, a lot mwy o uwchddata arnyn nhw hefyd. Dw i wedi dechrau tagio fy lluniau yn ddwyieithog. Mae pori tagiau yn Saesneg yn ddifyr iawn, ond yn y Gymraeg ti ddim yn gallu mynd yn bell.

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 3:26 pm
gan krustysnaks
Mae gan dad lwyth o luniau ar peth btinternet - na'i geisio'i berswadio i ddefnyddio flickr yn lle.

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 8:02 pm
gan LoopyLooLoo
Dw i'n defnyddio Flickr, ond does dim llawer o sdwff diddorol ar page fi ar hyn o bryd...sdwff o'r Steddfod, lluniau o Dorset....lluniau o genod mewn stetsons rhywun?! Mwy i ddod pan dw i'n bothered 8) Mae mwyafrif y tagiau yn Saesnag hefyd....sori!

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 9:57 pm
gan lleufer
Newydd agor cyfri Flickr heno, ac arwahan i'r lluniau o'r ci :) mae na luniau o'r ardal leol yno hefyd.

Dw i'n gobeithio llwytho mwy o'r ardal o fewn y misoedd nesaf. Ti'n iawn nic mae angen llawer mwy o luniau o Gymru arno - di rhoi tagiau dwyieithog - wn i'm os dw i di neud hyn yn y ffordd gywir :? ond mae wastad posib eu newid. :winc:

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 10:16 pm
gan lleufer
Wedi cael neges i ddweud bod rhywbeth o'i le fo fy nghyfrif gan y pobl flikr ma, ond wedi ei sortio'r munud ma - popeth yn iawn rwan, dylai'r linc weithio yn iawn.

Diolch am y cysylltiadau gyda llaw :)

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 10:37 pm
gan nicdafis
Os ti moyn mwy o bobl i weld dy luniau, mae'n syniad da i ymuno â sawl grwp arbennig ac hala dy luniau i mewn iddyn nhw. Mae grwpiau i bob math o bethau, o wartheg i Warhol.

Lluniau neis, Lleufer, wedi dy ychwanegu i fy rhestr o gysylltiadau. ;-)

Co tips am wneud tagiau ar Flickr.

Cant a mil o bethau eraill i dy helpu cael mwy mas o Flickr.

Cofiwch, y mwy o siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio Flickr, y mwy tebyg yw e y cawn ni fersiwn Gymraeg o'r rhyngwyneb. Mae sôn am hyn yn barod, o ddefnyddwyr ieithoedd eraill, ond nawr bod Yahoo wedi prynu'r cwmni dw i ddim yn siwr pa ffordd yr eith hyn. (Byddai wedi bod yn well 'sai Google wedi eu prynu, falle, ond dydy hyn ddim wedi gweithio mor dda yn achos Blogger, nad yw?)

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 10:51 pm
gan nicdafis
Macwyr o Flicwyr: atodiad allforio o iPhoto i Flickr. Handi iawn.

PostioPostiwyd: Iau 14 Ebr 2005 11:40 pm
gan lleufer
Diolch am y tips - gwych - wedi creu dau grwp, ond dim wedi ymuno ag un sy'n bodoli'n barod eto - mae'n anodd dod oddiwrtho unwaith mae rhywun di cychwyn tydy? Ond nefi wen rhaid mi droi'r peth ma i ffwrdd rwan!