Tudalen 2 o 5

PostioPostiwyd: Gwe 15 Ebr 2005 10:40 am
gan Rhys
Mam Rhys \":rolio:\" a ddywedodd:Os bydda Nic Dafis yn rhoi ei fys yn tân, fydd ti'n agor cyfrif Flickr?

PostioPostiwyd: Gwe 15 Ebr 2005 10:55 am
gan Mr Gasyth
Rhys a ddywedodd:
Mam Rhys \":rolio:\" a ddywedodd:Os bydda Nic Dafis yn rhoi ei fys yn tân, fydd ti'n agor cyfrif Flickr?


Ma hi di dod i rywbeth pan ma Gwenda Tyddyn Isa hdy yn oed yn gwybod pwy 'di Nic Dafis :lol:

Mae gen i gyfrif Flickr hefyd, ond heb fod yn tagio nag ymuno efo grwpiau arnai ofn - doesn gen i'm amser i gael yn hooked ar gymuned rithwir arall.

PostioPostiwyd: Gwe 15 Ebr 2005 11:30 am
gan nicdafis
Meddwl ymlaen ydw i; dim ond mater o amser yw hi cyn i Yahoo brynu'r maes hefyd, wedyn byddwn ni i gyd yn un teulu hapus, hyd yn oed mam Rhys.

PostioPostiwyd: Sul 05 Meh 2005 12:51 pm
gan krustysnaks
Newydd ymuno gyda flickr - mae'n le enfawr (anodd gwybod lle i dechrau). Edrych ymlaen i ychwanegu at y cyfoeth o luniau o Geredigion sydd yna'n barod.

PostioPostiwyd: Sul 05 Meh 2005 1:02 pm
gan nicdafis
Yay, krustysnakalicious!

Beth yw dy enw ar flickr? Dw i'n methu ffeindio dy luniau.

PostioPostiwyd: Sul 05 Meh 2005 1:06 pm
gan krustysnaks
Dwi heb roi unrhyw luniau ar fy nghyfrif eto - mae popeth wedi'i guddio ar y cyfrifadur yma achos bod gormod o operating systems wedi bod arno fe dros y blynyddoedd - ond fe fydd na luniau yna erbyn heno dwi'n siwr. krustysnaks yw fy enw, gyda llaw.

PostioPostiwyd: Sul 05 Meh 2005 1:13 pm
gan nicdafis
Dyna beth o'n i'n meddwl, ond dyw'r <a href="http://flickr.com/photos/krustysnaks/">dudalen ddim yn bodoli</a>. Falle dyw e ddim yn ymddangos nes bo ti wedi postio rhywbeth. Edrych mlan.

PostioPostiwyd: Sul 05 Meh 2005 3:11 pm
gan tafod_bach
mae gen i gyfri rwan, o dan 'traed' - ond dyw e ddim yn dod lan pan dwi'n teipio "http://flickr.com/photos/traed/". oes modd gwneud ymchwiliad am login? mae rheoli'r lluniau ar hwn yn gret a mor hawdd, ond dwi'n methu mynd at gyfrifon pobl eraill trwy chwilio'u logins nhw. hefyd, pan dwi'n teipio tag cymraeg (neu rhai saesneg anghyffredin) dwi 'di ychwanegu, dyw filckr ddim yn medru ei ffeindio chwaith! unrhyw gynigion?

[gol: mae http://flickr.com/photos/traed/ yn gweithio rwan - mae'r 'sets' wedi'u trefnu, ond y dudalen flaen yn edrych braidd yn fler.... (krystling, rhaid i ti bwyso 'create my flickr address' ar dop y dudalen flaen ar ol i ti fewngofnodi). hwreee!]

PostioPostiwyd: Sul 05 Meh 2005 7:53 pm
gan krustysnaks
Am wefan ardderchog - popeth mor hawdd a didrafferth. Wedi rhoi cwpwl o luniau i fyny erbyn hyn - dyma'r eilydd i'r blog roeddwn i'n edrych amdano.

PostioPostiwyd: Maw 19 Gor 2005 4:50 am
gan Mali
Newydd ymuno gyda Flickr, ond heb bostio ddim lluniau yno eto ..
Ond ar ôl i mi wneud , fasa'n bosibl i mi roi linc yma ar maes-e ar gyfer llun arbennig?