Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Maw 19 Gor 2005 5:04 am
gan gronw
mi allet ti ddangos y llun ar y maes os ydy o ar fflicr, nid jyst lincio iddo. ond nid trwy copi + gludo! jyst ffeindio'r cyfeiriad y ffeil yn fflicr, wedyn ei roi fel hyn:

[img]http://www.flickr.com/mali/llun1.jpg[/img]

a dyle'r llun ymddangos!

PostioPostiwyd: Maw 19 Gor 2005 10:19 am
gan Al
I chi sydd didm yn gwybod mae yna Cystadleuaeth ffotograffiaeth yn digwydd yn y cylch ffotograffiaeth, felly go go go!!

PostioPostiwyd: Maw 19 Gor 2005 4:05 pm
gan Mali
gronw a ddywedodd:mi allet ti ddangos y llun ar y maes os ydy o ar fflicr, nid jyst lincio iddo. ond nid trwy copi + gludo! jyst ffeindio'r cyfeiriad y ffeil yn fflicr, wedyn ei roi fel hyn:

Delwedd

a dyle'r llun ymddangos!


Diolch gronw.... :)

PostioPostiwyd: Gwe 22 Gor 2005 4:39 am
gan Mali
Wedi trio hwn unwaith o'r blaen heddiw, ond wedi methu....gobeithio y câf well lwc rwan....tra mae pawb yn cysgu :lol:
Llun wnês i dynu adeg yma llynedd :
http://www.flickr.com/photos/mali/27190111/

PostioPostiwyd: Maw 26 Gor 2005 10:22 pm
gan Rhys Llwyd
Dwi wedi dechrau Flikr o'r diwedd - wedi postio lluniau o daith Manna (stori yn cael ei adrodd ar fy mlog ar hyn o bryd)

Ma Flikr reit ffidli yn dydy!

http://www.flickr.com/photos/rhysllwyd/

PostioPostiwyd: Llun 08 Awst 2005 12:50 pm
gan Blewyn
Sut ddiawl mae cael yr icons bach Flickr'na i ymddangos ar eich blog (wele blog nic dafis a blog rhodri nwdls) ?

Blewyn

PostioPostiwyd: Llun 08 Awst 2005 12:59 pm
gan dafydd
Blewyn a ddywedodd:Sut ddiawl mae cael yr icons bach Flickr'na i ymddangos ar eich blog (wele blog nic dafis a blog rhodri nwdls) ?

Mae'n dweud o danno "Get your own".

Mynd i'r dudalen yma a chopio'r cod i dempled dy flog.

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 9:35 am
gan Cardi Bach
Newydd agor cyfri gyda flickr nawr, ac wrthi'n trio lan-lwytho cyfres o luniau - ond diawl mae'n cymryd amser iw wneud!!

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 10:11 am
gan Mr Gasyth
Cardi Bach a ddywedodd:Newydd agor cyfri gyda flickr nawr, ac wrthi'n trio lan-lwytho cyfres o luniau - ond diawl mae'n cymryd amser iw wneud!!


lawrlwytha un o'r 'uploading tools', cymryd dau gachiad wedyn.

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 11:14 am
gan Cardi Bach
Mr Gasyth a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Newydd agor cyfri gyda flickr nawr, ac wrthi'n trio lan-lwytho cyfres o luniau - ond diawl mae'n cymryd amser iw wneud!!


lawrlwytha un o'r 'uploading tools', cymryd dau gachiad wedyn.


Wehei, gwych!
Ma nhw lan i bawb eu gweld nawr :D