Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 11:28 am
gan Sili
Dwi di bod ar flickr ers sbel - http://www.flickr.com/photos/sili

Digon o luniau i codi cywilydd ar fwy nag un oddi ar y maes...

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 11:48 am
gan krustysnaks
Lluniau rili cwl, Sili :D

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 11:50 am
gan Mr Gasyth
Cardi Bach a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Newydd agor cyfri gyda flickr nawr, ac wrthi'n trio lan-lwytho cyfres o luniau - ond diawl mae'n cymryd amser iw wneud!!


lawrlwytha un o'r 'uploading tools', cymryd dau gachiad wedyn.


Wehei, gwych!
Ma nhw lan i bawb eu gweld nawr :D


linc?

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 11:51 am
gan krustysnaks

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 11:55 am
gan Cardi Bach
Diolch Krusty :winc:

PostioPostiwyd: Maw 23 Awst 2005 12:17 pm
gan Mr Gasyth
Cardi Bach a ddywedodd:Diolch Krusty :winc:


wow, lluniau gwych Cardi. Ma'r ty haf na sgen ti mewn lleoliad hyfryd :winc:

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 11:53 am
gan bartiddu
Mwy mwy! 8)

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 11:55 am
gan Meic P
Sa'n dda cael tudalen hefo lincs i dudalenau flikr pawb. ta oes na un yn bodoli'n barod?

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 11:59 am
gan sanddef
nicdafis a ddywedodd:Angen *lot* mwy o luniau o Gymru, a lot mwy o uwchddata arnyn nhw hefyd. Dw i wedi dechrau tagio fy lluniau yn ddwyieithog. Mae pori tagiau yn Saesneg yn ddifyr iawn, ond yn y Gymraeg ti ddim yn gallu mynd yn bell.


Mae gen i lot o dagiau yn Gymraeg. Gweler y linc isod.

PostioPostiwyd: Mer 24 Awst 2005 12:23 pm
gan nicdafis
Meic P a ddywedodd:Sa'n dda cael tudalen hefo lincs i dudalenau flikr pawb. ta oes na un yn bodoli'n barod?


Mae gen i <a href="http://flickr.com/people/nicdafis/">70 o gysylltiadau</a>, mwy na hanner ohonyn nhw'n medru'r Gymraeg.