dafydd a ddywedodd:Wel, dyw gweflog (yn ei ystyr newydd) ddim yn unrhyw fwy 'Cymraeg' na blog oherwydd ei fod yn tarddu yn syth o blog, gyda gwe- diangen o'i flaen a ffug-dreiglad.
Dwi ddim yn gweld pam fod angen dadansoddi geiriau mor <i>logical</i> â hynny. Mae'n arwain ni lawr llwybr Gwlad yr Iâ, lle mae nhw'n mynnu bod rhaid bathu geiriau newydd o hen rhai. Felly cyfrifiadur = "proffwydes rhifau", a meddalwedd = "cyfarpar meddwl".
Pa ots beth oedd ystyr gwreiddiol blog? Mae blog yn air Cymraeg nawr, felly mae weflog yn air Cymraeg hefyd. Falle bod e'n dechnegol anghywir (gwe-gwe-log), ond eto, pa ots? Mae fel pobl sy'n gwylltio wrth glywed "PIN Number" -- mae pethau pwysicach yn y byd i boeni am.
dafydd a ddywedodd:Mae'n werth nodi fod bathiad anffodus Nic wedi ei ledu trwy'r Rhithfro yn bennaf, am fod pawb yn dueddol o ddilyn y person 'cynta' neu 'enwocaf' ... Mae gwe-log wedi ei ddefnyddio mewn ffurf safonol ers 2000 mewn deunydd ar lein ac oddi ar lein a geiriaduron termau ayyb.
Mae geiriau'n lledu achos bod pobl yn ffeindio'n nhw'n ddefnyddiol. Mae tarddiad nifer o eiriau yn wirion, ac wrth edrych nôl gellid fod wedi cael geiriau gwell. Ond dyna ni, rhywbeth byw yw iaith, a'i siaradwyr ac ysgrifennwyr sy'n penderfynu ei dyfodol, nid geiriaduron na rhestrau termau. Pwrpas geiriadur yw <i>adlewyrchu</i> iaith fel mae'n bodoli, nid i <i>greu</i> iaith.
Bathwyd "awyren" yn wreiddiol gan un boi oedd eisiau term ar gyfer "hot air balloon" (mae'n gwneud mwy o synnwyr na "aeroplane" wrth i chi feddwl am y peth). Ond camddefnyddiwyd ei air gan y cyhoedd Cymraeg, a bellach mae ystyr wahanol iddo. Dio ddim ots, dwi'n deall beth yw "awyren". Beth yw pwrpas mynnu bod ni'n defnyddio ystyr/term gwreiddol, os di pawb yn hapus fel mae nhw?
Sori, mae'n swnio fel mod i'n hollol ffyrnig yn erbyn gwe-log ayyb -- dwi ddim, dwi jysd yn meddwl bod gweflog yn air ciwt. Be dwi'n rili ffyrnig yn erbyn yw ceidwadaeth ieithyddol!