Plis, be di blog yn Gymraeg?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Aran » Gwe 14 Ion 2005 1:20 pm

Ffyc, mae 'na ffug-dreigliadau hefyd, oes? Waeth i mi roi'r ffidil yn y to ddim... :ofn:

Dw i'm yn ei weld yn fathiad anffodus fy hun, eithaf licio fo, er mai blog bydda i'n defnyddio. Erbyn feddwl, dw i'n cael gweflog yn hawddgar - er dim cystal a gwenogluniau, sef fy hoff air Cymraeg newydd... :D
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan sian » Gwe 14 Ion 2005 1:35 pm

Aran a ddywedodd:Ffyc, mae 'na ffug-dreigliadau hefyd, oes? Waeth i mi roi'r ffidil yn y to ddim... :ofn:


Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn ffug-dreiglad. Yn "weblog", mae'r llythyren "b" fel pe bai wedi symud o fod yn perthyn i "web" i fod yn perthyn i "log" gan adael y gair bach hoff "blog".
Yna, wrth fathu gair Cymraeg cyfatebol, ar batrwm "gwegerdyn" etc, mae "blog" wedi'i dreiglo. Mewn ffordd, cyfieithiad o "web blog" yw "gwe-flog". Felly y gair sy'n ffug yn hytrach na'r treiglad - am wn i!!

Erbyn meddwl, dw i'n cael gweflog yn hawddgar - er dim cystal a gwenogluniau, sef fy hoff air Cymraeg newydd... :D

O'n i'n meddwl pan welais i hwn gynta ei fod rhywbeth i'w wneud â'r actores a'r dafarnwraig Gweno Glyn!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan dafydd » Gwe 14 Ion 2005 2:00 pm

Barbarella a ddywedodd:Dyw "safwe" ddim yn ciwt, mae'n hyll. <a href="http://www.fydd.org/d/gweirfa.html">Gwefan ydi'r gair i fi</a>. (Mae'n edrych fel bod traddodiad gyda ni o ddadlau am dermau'r rhwyd! :ofn:)

Ydi mae safwe yn hyll a fe wnaeth "main garden" ei fathu hefyd!

Diolch am atgoffa fi am gweirfa (nawr dyna fathiad 'clyfar' arall).. dwi wedi ei dynnu lawr.. wedi bwriadu gwneud hyn ers sbel :)
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Aran » Sad 15 Ion 2005 6:14 pm

sian a ddywedodd:O'n i'n meddwl pan welais i hwn gynta ei fod rhywbeth i'w wneud â'r actores a'r dafarnwraig Gweno Glyn!


Ia, mae nifer o bobl wedi meddwl hynny! Os cofiaf yn iawn, mae Nic wedi gwadu unrhyw gysylltiad... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan nicdafis » Sad 15 Ion 2005 11:09 pm

"Gwenno" wnaeth newid ei henw llwyfan er mwyn wneud cysylltiad â'r maes, o beth dw i wedi clywed. Debbie Foster yw ei henw go iawn.

Paid dweud wrth neb.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nôl

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai