Plis, be di blog yn Gymraeg?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Plis, be di blog yn Gymraeg?

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 03 Tach 2004 11:36 pm

Unwaith ac am byth...

Ai blog?

neu gweflog?

neu gwefiadur?

neu gwegofnod?

neu gwefnod/gwenod?

Mae'n debyg fo pawb bron rwan yn defnyddio blog/blogio/blogwyr/blogiwch a fod hyn yn mynd i sdicio. Mae'r cofnod Wiki Cymraeg am blog yn dweud 'gweflog' ond dwi dal ddim yn gyffyrddus efo hyn gan ei fod yn golygu dau beth. Felly cyn i mi fynd a golygu fel diawl ar Wikipedia sa rywun isio rhoi fi yn fy lle?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Macsen » Mer 03 Tach 2004 11:37 pm

Gwe-foncyff. 8)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Iau 04 Tach 2004 12:03 am

Arna i mae'r bai am "weflog", mae'n flin 'da fi. Dw i bron byth yn ei ddefyddio bellach, blog/blogiau/blogio yn wneud y tro. Dw i'n gwybod bod hi'n bwysig i ni ddyfeisio geirfa newydd am bethau newydd fel hyn, ond dyw e ddim hanner mor bwysig ag actiwali defnyddio pethau newydd fel hyn yn ein hiaith ein hunain.
Golygwyd diwethaf gan nicdafis ar Sad 18 Medi 2010 1:31 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 04 Tach 2004 12:10 am

Ma'r petha ma'n esblygu'n naturiol debyg tydyn.

Ond os mae na gofnod amdan y term dylid ei gosod hi'n iawn neu fydd pawb sy'n ei darllen yn hollol conffiwsd. Sut ma newid teitl thing Wicipedia ta?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Gwerinwr » Iau 04 Tach 2004 3:54 pm

Rwyt ti'n creu'r teitl newydd ac wedyn yn ailgyfeirio yr hen deitl i'r teitl newydd dw i'n meddwl
Rhithffurf defnyddiwr
Gwerinwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 05 Meh 2003 3:09 pm
Lleoliad: Llanelli

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 04 Tach 2004 4:39 pm

Diolch Werinwr ffedogwen.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Dyddgu » Iau 13 Ion 2005 5:28 pm

Sori am bostio mewn hen edefyn, ond wi'n hoff o "Weflog", ac yn ei defnyddio hi. Rwy'n hoffi'r ffordd mae'r gair hefyd yn meddwl "lippy" :D
Rhithffurf defnyddiwr
Dyddgu
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Mer 28 Gor 2004 2:49 pm
Lleoliad: Rhydychen

Postiogan Barbarella » Iau 13 Ion 2005 5:42 pm

Dwi'n hoffi gweflog hefyd. Mae'n mynd yn neis gyda gwefan.

Pam bod ti ddim yn hoffi'r gair, Nic?

Mae'n swnio mwy naturiol i fi na gwefnod, gwenod, gwefiadur (ych!), ayyb.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan dafydd » Iau 13 Ion 2005 8:21 pm

Barbarella a ddywedodd:Dwi'n hoffi gweflog hefyd. Mae'n mynd yn neis gyda gwefan.

Ie, ond o leia mae sail i'r trosiad 'gwe - fan'. Mi fasai gwe-flog yn iawn, efallai ond mae gweflog yn golygu blubber-lipped.

A mewn gwirionedd mae gwe-flog yn golygu gwe-gwe-log a fase jyst 'gwe-log' yn gwneud mwy o synnwyr. Dwi'n credu gallwn ni fynd dros ben llestri weithiau gyda'r geiriau cyfansawdd yma wrth fathu geiriau newydd, heb wir feddwl am sut mae'n ffitio fewn gyda gweddill geirfa'r Gymraeg (a'n wir, mae bron pawb yn anwybodus am 80% o'r eirfa sy'n bodoli'n barod ac yn hel llwch mewn geiriadur)
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan nicdafis » Iau 13 Ion 2005 9:53 pm

Barbarella a ddywedodd:Pam bod ti ddim yn hoffi'r gair, Nic?


Achos bod cymaint o bobl wedi wneud sylwadau fel yr un gan dafydd uchod.

Pan dechreuais i Morfablog wnes i ofyn i'r rhestr Termau Cymraeg am awgrymiadau a doedd neb yn lico "gweflog", ond wedi dweud hynny doedd dim un ohonyn nhw wedi clywed y gair web blog, chwaith, a ches i mo awgrymiad gwell, felly cariais i ymlaen. Ar y pryd oedd yr ystyr dwbl yn apelio ata i, ond gan nad oedd yr un blog Cymraeg arall yn bodoli, do'n i ddim yn treulio llawer iawn o amser poeni amdano fe.

Nid pwyllgor ydw i, dim ond un blogiwr. ;-)

Gadael i Google benderfynu, dwedwn i.


(Gol. HTML -> BBCode.)
Golygwyd diwethaf gan nicdafis ar Sad 18 Medi 2010 1:46 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron