Plis, be di blog yn Gymraeg?

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan dafydd » Iau 13 Ion 2005 10:38 pm

nicdafis a ddywedodd:Nid pwyllgor ydw i, dim ond un blogiwr. ;-)


Ti wedi creu anghenfil :) Gyda llaw, yng ngheiriadur yr Academi, mae'n debyg fod cofnod i 'weblog' sef gwe-log(iau), mf ond does gen i ddim copi argraffiad 2000 gyda'r atodiad ychwanegol.

Nawr fe gafodd hynny ei fathu ar gyfer y 'weblog' cynnar fel Slashdot, ond erbyn 1999/2000 roedd weblog personol wedi newid i 'blog' am ryw reswm (dwi'n amau fod e'n dalfyriad mwy 'cwl' wedi ei boblogeiddio gan dîm marchnata cwmni Pyra Labs/Blogger a ddechreuodd yn 99)
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Barbarella » Gwe 14 Ion 2005 9:31 am

dafydd a ddywedodd: Dwi'n credu gallwn ni fynd dros ben llestri weithiau gyda'r geiriau cyfansawdd yma wrth fathu geiriau newydd, heb wir feddwl am sut mae'n ffitio fewn gyda gweddill geirfa'r Gymraeg

Ond iaith go-iawn yw'r Gymraeg, nid iaith gyfrifiadurol. Mae na lot o eiriau sy ddim yn gwneud sens o'u dadansoddi.

Os ydi'n air bachog, syml, sy'n cyfleu'r ystyr, mae'n iawn, nadi? A "gweflog" ydi'r gair amlycaf hefyd, mae siwr. Pwrpas iaith yw cyfathrebu, nid gwneud synnwyr!

Mae e'n air cyfansawdd rhyfedd, ond so wot? Mae digon i gael yn barod. Pam bod yr Eisteddfod yn rhoi cadair i ddarn pwysig o dir gyda blodau arno fe pob blwyddyn? (Prifardd :))

nicdafis a ddywedodd:<a href="http://www.googlefight.com/cgi-bin/compare.pl?q1=blog+cymraeg&q2=gweflog+cymraeg&B1=Make+a+fight%21&compare=1&langue=us">Gadael i Google benderfynu</a>, dwedwn i.

Di hwnna ddim yn ffeit deg iawn -- mae blog yn dalfyriad o weflog. Mae fel cael ffeit rhwng "sti" a "wyddost ti"... A mae defnyddio gair Gymraeg gwirion yn well na jysd defnyddio'r gair Saesneg "blog" does posib?

O wel, dwi'n mynd i fod yn styfnig a dweud gweflog beth bynnag... ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan dafydd » Gwe 14 Ion 2005 11:15 am

Barbarella a ddywedodd:Di hwnna ddim yn ffeit deg iawn -- mae blog yn dalfyriad o weflog. Mae fel cael ffeit rhwng "sti" a "wyddost ti"... A mae defnyddio gair Gymraeg gwirion yn well na jysd defnyddio'r gair Saesneg "blog" does posib?

Wel, dyw gweflog (yn ei ystyr newydd) ddim yn unrhyw fwy 'Cymraeg' na blog oherwydd ei fod yn tarddu yn syth o blog, gyda gwe- diangen o'i flaen a ffug-dreiglad.

Roedd gwe-log yn bodoli yn barod ar gyfer weblog. (a roedd cynnig ar gwe-gofnod ar un adeg er mwyn ei gyfiethu yn gwbl i eiriau Cymraeg, ond wnaeth hynny ddim cydio). Oherwydd fod talfyriad newydd wedi greu yn saesneg, rhaid gofyn sut (ac oes wir angen) ei dalfyrru yn Gymraeg? Ond mae gweithio gyda'r termau oedd yn bodoli yn barod yn well.

Mae'n werth nodi fod bathiad anffodus Nic wedi ei ledu trwy'r Rhithfro yn bennaf, am fod pawb yn dueddol o ddilyn y person 'cynta' neu 'enwocaf'. Dyw Google ddim yn dangos defnydd y gair 'gweflog' na 'gwe-log' yn deg. Mae gwe-log wedi ei ddefnyddio mewn ffurf safonol ers 2000 mewn deunydd ar lein ac oddi ar lein a geiriaduron termau ayyb.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 14 Ion 2005 11:53 am

Barbarella a ddywedodd:Pwrpas iaith yw cyfathrebu, nid gwneud synnwyr!


Yn union, y gair Cymraeg am Blog ydi prun bynnag air mae'r Cymry yn ei ddefnyddio ac ma'n eitha amlwg i mi o ddarllen y Maes mai Blog ydi hwnw erbyn hyn. Felly dyna ni.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Barbarella » Gwe 14 Ion 2005 12:06 pm

dafydd a ddywedodd:Wel, dyw gweflog (yn ei ystyr newydd) ddim yn unrhyw fwy 'Cymraeg' na blog oherwydd ei fod yn tarddu yn syth o blog, gyda gwe- diangen o'i flaen a ffug-dreiglad.

Dwi ddim yn gweld pam fod angen dadansoddi geiriau mor <i>logical</i> â hynny. Mae'n arwain ni lawr llwybr Gwlad yr Iâ, lle mae nhw'n mynnu bod rhaid bathu geiriau newydd o hen rhai. Felly cyfrifiadur = "proffwydes rhifau", a meddalwedd = "cyfarpar meddwl".

Pa ots beth oedd ystyr gwreiddiol blog? Mae blog yn air Cymraeg nawr, felly mae weflog yn air Cymraeg hefyd. Falle bod e'n dechnegol anghywir (gwe-gwe-log), ond eto, pa ots? Mae fel pobl sy'n gwylltio wrth glywed "PIN Number" -- mae pethau pwysicach yn y byd i boeni am.

dafydd a ddywedodd:Mae'n werth nodi fod bathiad anffodus Nic wedi ei ledu trwy'r Rhithfro yn bennaf, am fod pawb yn dueddol o ddilyn y person 'cynta' neu 'enwocaf' ... Mae gwe-log wedi ei ddefnyddio mewn ffurf safonol ers 2000 mewn deunydd ar lein ac oddi ar lein a geiriaduron termau ayyb.

Mae geiriau'n lledu achos bod pobl yn ffeindio'n nhw'n ddefnyddiol. Mae tarddiad nifer o eiriau yn wirion, ac wrth edrych nôl gellid fod wedi cael geiriau gwell. Ond dyna ni, rhywbeth byw yw iaith, a'i siaradwyr ac ysgrifennwyr sy'n penderfynu ei dyfodol, nid geiriaduron na rhestrau termau. Pwrpas geiriadur yw <i>adlewyrchu</i> iaith fel mae'n bodoli, nid i <i>greu</i> iaith.

Bathwyd "awyren" yn wreiddiol gan un boi oedd eisiau term ar gyfer "hot air balloon" (mae'n gwneud mwy o synnwyr na "aeroplane" wrth i chi feddwl am y peth). Ond camddefnyddiwyd ei air gan y cyhoedd Cymraeg, a bellach mae ystyr wahanol iddo. Dio ddim ots, dwi'n deall beth yw "awyren". Beth yw pwrpas mynnu bod ni'n defnyddio ystyr/term gwreiddol, os di pawb yn hapus fel mae nhw?

Sori, mae'n swnio fel mod i'n hollol ffyrnig yn erbyn gwe-log ayyb -- dwi ddim, dwi jysd yn meddwl bod gweflog yn air ciwt. Be dwi'n rili ffyrnig yn erbyn yw ceidwadaeth ieithyddol! ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 14 Ion 2005 12:17 pm

Ti am newid enw dy wefan i Sle-weflog ta Babs? :winc:
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan joni » Gwe 14 Ion 2005 12:26 pm

Be am E-log?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan dafydd » Gwe 14 Ion 2005 12:39 pm

Barbarella a ddywedodd:Mae'n arwain ni lawr llwybr Gwlad yr Iâ, lle mae nhw'n mynnu bod rhaid bathu geiriau newydd o hen rhai. Felly cyfrifiadur = "proffwydes rhifau", a meddalwedd = "cyfarpar meddwl".

Os oeddwn i'n cytuno a hynny, fe fasen i'n mynnu defnyddio gwe-gofnod, a dwi ddim.

Barbarella a ddywedodd:Pa ots beth oedd ystyr gwreiddiol blog? Mae blog yn air Cymraeg nawr, felly mae weflog yn air Cymraeg hefyd.


Ydi, gair oedd yn bodoli'n barod, gyda ystyr gwahanol.

Barbarella a ddywedodd:Sori, mae'n swnio fel mod i'n hollol ffyrnig yn erbyn gwe-log ayyb -- dwi ddim, dwi jysd yn meddwl bod gweflog yn air ciwt. Be dwi'n rili ffyrnig yn erbyn yw ceidwadaeth ieithyddol! ;-)

O gymharu a llawer (pobl sydd yn cyfieithu a safoni geiriau am fywoliaeth, a dwi ddim.. dwi'n defnyddio'r termau bob dydd), dwi'n eitha isel o ran ceidwadaeth ieithyddol. Mae gweflog yn air ciwt, ond roedd safwe yn gair 'clyfar', ciwt hefyd a mae'n ges gen i hwnna yr un fath.

Dwi ddim yn argymhell defnyddio gwe-log (am blog) - dwi'n argymhell defnyddio blog/blogio/blogiwr. Dwi jyst yn meddwl fod y 'gwe' yn gweflog yn ddi-anghenraid (neu i ddefnyddio term sisneg.. redundant). Reit, gei di'r gair ola os ti'sie.. :)
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan dafydd » Gwe 14 Ion 2005 12:47 pm

Wel.. un peth arall i ddweud :) Os oedd gen i flog (a falle fod gen i, pwy a wyr..) fase'n i ddim eisiau galw'r peth yn air oedd yn golygu 'labial'. Ych :)
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Barbarella » Gwe 14 Ion 2005 1:17 pm

dafydd a ddywedodd:O gymharu a llawer ... dwi'n eitha isel o ran ceidwadaeth ieithyddol. Mae gweflog yn air ciwt, ond roedd safwe yn gair 'clyfar', ciwt hefyd a mae'n ges gen i hwnna yr un fath.

Sori, ceidwadaeth ieithyddol cyffredinol o'n i'n feddwl, nid cyhuddo ti o hynny o'n i!

Dyw "safwe" ddim yn ciwt, mae'n hyll. <a href="http://www.fydd.org/d/gweirfa.html">Gwefan ydi'r gair i fi</a>. (Mae'n edrych fel bod traddodiad gyda ni o ddadlau am dermau'r rhwyd! :ofn:)

dafydd a ddywedodd:Wel.. un peth arall i ddweud :) Os oedd gen i flog (a falle fod gen i, pwy a wyr..) fase'n i ddim eisiau galw'r peth yn air oedd yn golygu 'labial'. Ych :)

Dwi'n licio gweflog mwy nawr! Licio yn yr ystyr "hoffi", wrth gwrs, nid yn yr ystyr "llyfu"... ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

NôlNesaf

Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron