gan nicdafis » Llun 15 Tach 2004 9:48 pm
Mae hynnny yn rheoli pa mor hawdd yw e i greu cyfrif. Os ti'n gadael fe ar "Dim" gall unrhywun greu cyfrif a dechrau postio yn syth, heb ateb i ebost yn gyntaf. Os dwyt ti ddim am gael unrhyw fath o rhwstr ar aelodau newydd, dylet ti adael fe fel 'na. Ar y maes, fel arfer, mae angen i'r defnyddiwr bywiogi ei gyfrif ei hunan, sef ateb ebost awtomatig. Mae hyn yn stopo, i ryw raddau, pobl creu llawer iawn o gyfrifau "jync", ond wrth gwrs mae'n ddigon hawdd i fynd rownd hyn (dyn ni wedi bloco cyfeiriadau Hotmail a Yahoo i drial arafu hyn, ond mae hen ddigon o lefydd gall rhywun gael cyfrif ebost am ddim yn ddigon hawdd). Ar hyn o bryd, gan fod "y maes yn llawn", dw i wedi gosod hyn i "Weinyddwr", sy'n golygu bod fi (neu Babs, Aran, Cardi Bach) yn gorfod ateb yr ebost awtomatig i adael rhywun i mewn, ond gan nad yw'r linc "Cofrestru" ddim yn ymddangos ar y munud, nad yw hyn yn debyg i ddigwydd.
Ydy hyn yn wneud sens?