Tudalen 1 o 1

llyfr lluniau Coppermine

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2004 4:18 pm
gan Jac Glan-y-gors
cyfieithiad ar waith o lyfr lluniau Coppermine sy'n gallu gael ei integreiddio mewn i bethau fel phpbb. Enghraifft ar waith http://www.dyffrynaeron.com/llyfrlluniau/ , ond mae llawer mwy iddo na sy'n cael ei ddangos yn yr enghraifft hon - hy aelodau, sylwadau, egardiau ayb. Unrhyw sylwadau am rai o'r geiriau Cymraeg rwy' wedi dewis defnyddio hyd yn hyn - mae eisiau safoni termau'r we rhywle, rhywbryd! Llawer ar ol i'w gyfieithu cyn cyflwyo'r ffeil i'r gwneuthurwyr, ond croeso i rywun ei chael fel y mae os y'n nhw eisiau arbrofi. Lleoliad y meddalwedd gwreiddiol yw http://coppermine.sourceforge.net/

neges breifat gyda chyfeiriad ebost am y ffeiliau iaith.

Re: llyfr lluniau Coppermine

PostioPostiwyd: Llun 15 Tach 2004 7:21 pm
gan Gwerinwr
Jac Glan-y-gors a ddywedodd:. Unrhyw sylwadau am rai o'r geiriau Cymraeg rwy' wedi dewis defnyddio hyd yn hyn - mae eisiau safoni termau'r we rhywle, rhywbryd! .


Onid dyna beth mae Canolfan Bangor yn wneud?
http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/cymraeg/egymraeg.php

PostioPostiwyd: Maw 16 Tach 2004 9:37 pm
gan Jac Glan-y-gors
Onid dyna beth mae Canolfan Bangor yn wneud?

wy'n rhedeg Cysgeir wrth gyfieithu ond dyw hanner y termau sy'n codi ddim arno. Pori gwefannau Cymraeg sydd eisoes yn bodoli a dwyn/efelychu wrth bobl fel maes-e, ond yn broses hir. Wela i ddim rhestr yn yn agos i'r ddolen egymraeg:?:

Ffeil iaith nawr ar gael

PostioPostiwyd: Gwe 07 Ion 2005 9:56 am
gan Jac Glan-y-gors
Mae'r gwaith o gyfieithu llyfr lluniau Coppermine i'r Gymraeg wedi ei gwblhau ac mae'r ffeil wedi cael ei chyflwyno i sourceforge a'i gwirio gan un o'r gweinyddwyr. Dyma rhai llefydd perthnasol i edrych:

<a href=http://prdownloads.sourceforge.net/coppermine/cpg1.3.x_welsh.zip?download title="Llwytho'r ffeil iaith">Llwytho'r ffeil iaith ar ffurf ZIP o wefan Coppermine</a>

<a href=http://www.dyffrynaeron.com/cpg132/cymraeg.php title="Cefnogaeth Cymraeg">Cefnogaeth yn y Gymraeg ar sut i lwytho'r ffeil iaith</a>

<a href=http://coppermine.sourceforge.net/demo/index.php?lang=welsh title="Demo Cymraeg">Demo Cymraeg ar wefan Sourceforge</a>

<a href=http://www.dyffrynaeron.com/llyfrlluniau/ title="Fersiwn gweithredol">Fersiwn heb yr holl nodweddion yn weithredol ar wefan Dyffryn Aeron</a>