Blogger yn ieithoedd eraill, ond nid Cymraeg

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Blogger yn ieithoedd eraill, ond nid Cymraeg

Postiogan eusebio » Maw 16 Tach 2004 5:31 pm

Mae Blogger wedi dechrau pecynau ieithoedd gwahanol - ond dim sôn am y Gymraeg :(
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan nicdafis » Maw 16 Tach 2004 6:24 pm

[wedi hollti hyn o'r edefyn "Oes blogiau eraill?" gan fod e'n bwnc gwahanol.]

Byddai'n werth i bawb sy'n blogio ar blog*spot sgwennu at Blogger am hyn. Dyw e ddim yn debyg eu bod nhw wedi sylweddoli bod 'na flogiau Cymraeg. Cofiwch taw Google sy biau Blogger erbyn hyn, felly mae'n eitha tebyg y byddan nhw'n agored i'r syniad, yn enwedig os ydy pobl yn cynnig helpu gyda'r gwaith cyfieithu.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 17 Tach 2004 12:07 am

Wedi postio atynt. Gawn ni weld os gai fwy o sylw na ges i gan Kwiks...twats probabli di taflu'n llythyr i'n y bin.

Sa rywun yn cael traffarth cofio pan ma nhw di anfon llythyr cwyn ac angen anfon un arall i'w ddilyn? Dwi yn.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 17 Tach 2004 9:33 am

Blogger a ddywedodd:Hi there,

Thank you for your input regarding additional features for Blogger. We do
not currently have this feature but may implement it in future versions of
Blogger. We appreciate your input.

Best regards,
Blogger Support


Hmm, ddim yn siwr beth i feddwl o hyn. Angen eu poenydio neu gael trafodaeth gall â rhywun blaenllaw...
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan nicdafis » Mer 17 Tach 2004 10:34 am

"Auto-reply" yw hwnna. Dyfal donc...
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Leusa » Iau 18 Tach 2004 10:25 pm

helo, oes 'na unrhyw becyn iaith Cymraeg o gwbwl ar gyfer blogio? Wedi sylwi bod y Gymraeg ar rhan fwyaf o'ch blogs chi, sut ma neud o?
sori mod i'n slo :? !
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 19 Tach 2004 9:42 am

Mae Nic yn raddol gyfieithu pecyn iaith ar gyfer Movable Type ond fel arall rhaid i ti gyfieithu template' dy blog dy hun. Mae instrycshons ar sut i neud hynna (ar blogger beth bynnag) fan hyn.

Dwi'm yn siwr os ydi Aran a'i Sgwarnflog dal i gynnig pecyn blogio Cymraeg. Nath rywun roi tro arno? Be ddigwyddodd fanna dwch?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai