Sgript newydd ar gyfer Rhestr y Rhithfro

Popeth am y We Gymraeg.

Cymedrolwr: Rhys

Rheolau’r seiat
Lle i drafod y We Gymraeg. Lle i ddweud wrth bawb bod gwefan newydd 'da ti, neu dy fod di'n gweithio ar rywbeth ac angen help, ond hefyd cyfle i drafod gwefannau Cymraeg eraill yma, problemau cyfieithu meddalwedd a rhyngwynebau offer blogio, sut i mynd ati i hybu defnydd o'r iaith ar y we, ac yn y blaen. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sbwriel » Gwe 26 Tach 2004 4:40 pm

dwi wedi neud sgript bach sy'n ysgrifennu dolen i flog gwahanol - sy'n cael ei dewis ar hap. Dim lot o bwrpas iddo, ond ma fe'n neud e'n daclus, yn rhoi rhywbeth ffresh ar y tudalen, a ma ganddo ychydig o opsiynau gall newid fel mae'n edrych.

Sai di ysgrifennu am sut allech chi rhoi e ar eich blog/safwe chi, ond os ych chi ishe i fi, ysgrifennwch sylw ar y cofnod.

Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan nicdafis » Sad 27 Tach 2004 12:34 pm

Mae hyn yn wych, fel dw i wedi dweud ar dy flog. Neis iawn gweld rhywun sy'n wneud <!-- sylwadau HTML --> a /* Javascript */ yn y Gymraeg hefyd ;-)

Sawl pwynt i drafod:
  1. Gan fod mwy o ddiddordeb, a gallu, 'da ti ym mhethau fel hyn (sgwennu côd) na sy 'da fi, sut wyt ti'n teimlo am gymryd drosodd fel y person sy'n cadw'r rhestr lan i'r munud? Does dim lot o'r pwynt i'r ddau ohonon ni trial cadw i fyny gyda'r blogiau newydd, a'r rhai sy wedi marw. Dw i newydd ddileu <a href="http://englynion.blogspot.com">Englynion</a> o'r rhestr, er enghraifft, gan fy mod i ddim wedi postio iddo ers misoedd. Dyn ni'n mynd i ddwbli gwaith yma.
  2. A fydd yn ddigon hawdd, ymysg yr holl opsiynau bydd dy sgript di yn cynnig, i gynnig "Cyhoeddu'r rhestr i gyd" - hynny yw i roi'r dewis i bobl cael y rhestr llawn <a href="href="http://morfablog.com/rhithfro">fel y mae</a>, neu dewis un blog ar hap fel ti'n wneud.
  3. Ydy hi'n amser i ni gofrestru parth arbennig i hyn, neu well aros nes bod y sgript yn fwy "defnyddwyr cyfeillgar"? Dw i'n fodlon talu am yr enw parth a'r llety (mae rhaid i fi uwchraddio fy nghyfrif Dreamhost ta beth), os wyt ti, neu rywun arall, yn fodlon wneud y gwaith go iawn.
  4. Yn y pendraw, bydd angen rhyw sustem sy'n gadael i bobl ychwanegu/newid manylion eu blogiau eu hunain.


Brên byrp yw'r uchod, nid rhestr o bethau sy angen eu wneud neu eu penderfynnu fory.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan sbwriel » Sul 28 Tach 2004 12:17 am

Nai rhoi meddwl i'r awgrymiadau nic, a ma'r sgript yn galluogi pobl i gael e yn y ffordd ar dy sgript di.

Dw i wedi creu cofnod newydd sy'n galluogi pobl i seto lan a installo'r sgript ar eu blog/gwefan eu hunain.

Dyma'r cofnod: http://sbwriel.blogspot.com/2004/11/y-rhithfro.html

Sori os nagyw e'n egluro'n dda iawn.

diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan nicdafis » Sul 28 Tach 2004 12:23 pm

Ha, gwych!

Wedi'i osod ar <a href="http://poppeth.blogspot.com/">Pop Peth</a>.

Mae un teipo bach yn y côd wnaeth e greu i fi a oedd yn achosi problem:

<script language="javascript" type="text/javascript" src="http://rhithfro.smotyn.com/sgript"></script><sript language=javascript" type="text/javascript">c.marcFfrwd('RSS');c.marcTanysgrifo('Bloglines');c.cylch();</script>


...ond unwaith wnes i zappo hwnna oedd yn gweithio yn berffaith.

Diolch yn fawr iawn am hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan sbwriel » Sul 28 Tach 2004 2:48 pm

wedi newid y bug i fod yn iawn nawr, ac wedi sylwi fod problem arall gyda'r sgript installo - ti nic di gofyn iddo ddangos tanysgrifo, ond dyw e ddim yn ymddangos ar poppeth.... dwi di newid e, a se ni'n copiio'r cod yma mewn:

Cod: Dewis popeth
<script language="javascript" type="text/javascript" src="http://rhithfro.smotyn.com/sgript"></script><script language=javascript" type="text/javascript">c.marcFfrwd('RSS');c.tanysgrifo(true);c.marcTanysgrifo('Bloglines');c.cylch();</script>


mae'r c.tanysgrifo(true); yna nawr yn dynodi fod ti ishe cael dolen i bloglines.

Mae'r sgript wedi'i thrwsio
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm


Dychwelyd i Y Rhithfro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron