Deinasor

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Deinasor

Postiogan Gethin Ev » Mer 26 Ion 2005 4:08 pm

Pam does na ddim deinasor's yn y beibl?

Mae gwyddonwyr yn trio profi ei bodoliaeth, hefo ddim byd llai 'na prawf! Ridiculous.
".....then I would go to jail, I'd be buggered.......daily."
Rhithffurf defnyddiwr
Gethin Ev
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1248
Ymunwyd: Maw 15 Ebr 2003 10:02 am

Postiogan Cynog » Mer 26 Ion 2005 4:49 pm

Duw sy'n profi ei'n ffydd :rolio:
I know my own nation the best. That's why I despise it the most. And I know and love my own people too, the swine. I'm a patriot. A dangerous man.
-Edward Abbey

http://blogcynog.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Cynog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 438
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 5:43 pm

Postiogan nicdafis » Mer 26 Ion 2005 5:12 pm

CD Bill Hicks i Dolig, Geth? ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Ffinc Ffloyd » Mer 26 Ion 2005 8:34 pm

Achos bod y byd ddim ond yn 10,000 o flynyddoedd oed yn ol y Beibl, felly mae cynnwys unrhywbeth am anifail oedd yn fyw rhai miliynau o flynyddoedd cyn hynny yn anghyson braidd. Llawer haws gwadu eu bodolaeth a thaeru du yn wyn nad oes 'na neb wedi profi yn derfynol ac yn bendant bod esblygiad yn digwydd, felly mae'n amlwg mae jyst rhyw gelwydd mae'r gwyddonwyr anffyddiog Communist pro-erthyliad hoyw yma wedi wneud i fyny ydi deinosoriaid.

Rhaid cofio bod Americanwyr y Bible Belt yn un o 'target audiences' y Beibl, felly alli di'm rhoi dim byd rhy astrus i mewn ynddo fo rhag ofn i chdi achosi i un ohonyn nhw ddefnyddio eu ymennydd am newid.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 27 Ion 2005 9:17 am

Ffinc Ffloyd a ddywedodd:Rhaid cofio bod Americanwyr y Bible Belt yn un o 'target audiences' y Beibl, felly alli di'm rhoi dim byd rhy astrus i mewn ynddo fo rhag ofn i chdi achosi i un ohonyn nhw ddefnyddio eu ymennydd am newid.


Dyna'r frawddeg mwyaf astrys, di-glem, di-wybodaeth a rhagfarnllyd dwi erioed wedi ei glywed ar maes-e.

Does dim angen i mi, gobeithio wneud yn amlwg y cafodd y Beibl ei ysgrifenny ganrifoedd lawer cyn ir UDA ffurfio fel da nin nabod o heddiw heb son am cyn i'r 'Bibl Belt' ddod i fodolaeth.

Cytunaf fod Cristnogion 'adain-dde' Americanaidd a golwg gul iawn ar Gristnogaeth OND mae awgrymu fod y Beibl wedi ei ysgrifennu iddynt hwy yn gwbwl anghywir. Beth yw'r sail i'r honiad? Fod nhw'n ei gredu? Os felly oedd Cymry Cymraeg yn 'target audiences' yr Oregin of Species?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 27 Ion 2005 9:21 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Ffinc Ffloyd a ddywedodd:Rhaid cofio bod Americanwyr y Bible Belt yn un o 'target audiences' y Beibl, felly alli di'm rhoi dim byd rhy astrus i mewn ynddo fo rhag ofn i chdi achosi i un ohonyn nhw ddefnyddio eu ymennydd am newid.


Dyna'r frawddeg mwyaf astrys, di-glem, di-wybodaeth a rhagfarnllyd dwi erioed wedi ei glywed ar maes-e.


Rhaid dweud, am unwaith, 'mod i'n cytuno 'da Rhys Llwyd, ac yn cytuno gyda fe yn seiat Criw Duw. Nodwch y dyddiad, bobl...

Yn syml, pan sgwennwyd y gwaith ffuglennol mawr a elwir y Beibl (yn fy marn i), doedden nhw ddim yn ymwybodol o fodolaeth deinosoriaid, ac felly, erbyn hyn, gallwn ni weld mai llyfr o reolau yw'r Beibl. Nid bod hynny'n beth gwael, achos mae'r rheolau a'r syniadau sy'n cael eu cynnig gan yr Iesu yn rhai da yn y bon, ond rheolau y'n nhw serch hynny.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Macsen » Iau 27 Ion 2005 9:30 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Does dim angen i mi, gobeithio wneud yn amlwg y cafodd y Beibl ei ysgrifenny ganrifoedd lawer cyn ir UDA ffurfio fel da nin nabod o heddiw heb son am cyn i'r 'Bibl Belt' ddod i fodolaeth.


Ond gan fod llif cyfan amser yn plethu drwy fysedd Duw hollbresennol, mi gafodd y Beibl ei sgwennu iddyn nhw gymaint ag i bawb arall. Falle mwy iddyn nhw na neb arall, gan ei bod nhw'n cynrhychioli'r talp mwyaf o Gristnogion perthynol sydd erioed wedi rhodio'r byd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Ffinc Ffloyd » Iau 27 Ion 2005 1:55 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Ffinc Ffloyd a ddywedodd:Rhaid cofio bod Americanwyr y Bible Belt yn un o 'target audiences' y Beibl, felly alli di'm rhoi dim byd rhy astrus i mewn ynddo fo rhag ofn i chdi achosi i un ohonyn nhw ddefnyddio eu ymennydd am newid.


Dyna'r frawddeg mwyaf astrys, di-glem, di-wybodaeth a rhagfarnllyd dwi erioed wedi ei glywed ar maes-e.

Does dim angen i mi, gobeithio wneud yn amlwg y cafodd y Beibl ei ysgrifenny ganrifoedd lawer cyn ir UDA ffurfio fel da nin nabod o heddiw heb son am cyn i'r 'Bibl Belt' ddod i fodolaeth.

Cytunaf fod Cristnogion 'adain-dde' Americanaidd a golwg gul iawn ar Gristnogaeth OND mae awgrymu fod y Beibl wedi ei ysgrifennu iddynt hwy yn gwbwl anghywir. Beth yw'r sail i'r honiad? Fod nhw'n ei gredu? Os felly oedd Cymry Cymraeg yn 'target audiences' yr Oregin of Species?


Tafod yn y boch oedd o i fod - don i'm yn ei feddwl o o ddifri. Sori os oedd o'n achosi sarhad.

Mi oedd y neges i gyd yn rhagfarnllyd braidd, ddeud gwir - dwi yn credu be ddudis i, ond mi allwn i fod wedi ei eirio fo'n well. Sori am hynna.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 03 Rhag 2007 2:18 pm

Dinosaur fossils? God put those there to test our faith... http://www.guardian.co.uk/science/2007/ ... rs.fossils
Golygwyd diwethaf gan Gwahanglwyf Dros Grist ar Llun 10 Rhag 2007 10:41 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 06 Rhag 2007 11:53 pm

Mae yna ddigon o sôn am fwystfilod yn y Beibl, rhai nad ydym ni'n medru eu cymharu ac anifeiliaid heddiw, deinasoriaid oedd rhain mwyn a thebyg. Hefyd maen ddiddorol nodi mae yn y cyfieithiad hynnaf o'r Hen Destament mae dau o bob math o anifail aeth i'r arch nid dau o bob anifail - llawer yn meddwl fod hynny yn esbonio diflaniad deinasoriaid. Maen bwnc diddorol ond ddim exactly mynd i siglo ffydd dyn.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron