Rhys Llwyd a ddywedodd:
Mae etholedigaeth yn beth anodd i'w dderbyn, dwi ddim yn ei ddeall yn llawn a dwi heb ddarllen unrhywbeth sy'n ei esbonio yn llaw ond ddiwedd dydd mae e yn y Beibl. Er mod i'n Galfin dwi'n ynysu fy hun o uchel-galfiniaeth.
Wyt yn dechrau ildio i fy nehongliad i o'r ddadl rhwng Glafiniaid a Wesleiaid tybiwn Rhys
HRF a ddywedodd: Yr unig le, lle mae yna anghytundeb yw ar gwestiwn "etholedigaeth gras" a dydy'r Wesleaid dim yn llwyr ymwrthod a'r athroniaeth yna chwaith (er bod yr Arminiad go iawn yn gwneud hynny).
Y farn Wesleaidd yw bod yna darnau o'r ysgrythur sydd yn codi amheuaeth am athroniaeth etholedigaeth. Tra pery'r amheuon yna (sydd uwchlaw gallu dyn i'w datrys) rhaid ymddwyn megis bod etholedigaeth dim yn bodoli ac annog pobl i ddewis cael eu hachub.
Hoffwn nodi mae dadl am
sawl angel syn gallu ddawnsio ar ben pin yw'r anghytundeb rhwng Rhys a finnau parthed cyflwr enaid Mr Gasyth a'i debyg.
Yn syml, Mr Gasyth - yr wyt yn gwybod dy fod yn bechadur. Yr wyt yn gwybod bod dim modd iti achub dy hunan rhag dy gyflwr pechadurus. Derbynia, trwy ffydd, bod Crist yn gallu talu dy gosb haeddiannol trwy ei aberth ar y groes - a chadwedig byddi.
Dadl rhwng y "cadwedig" yw'r ddadl rhwng Rhys a finnau, yr ydym ein dau yn gyt