Mr Gasyth a ddywedodd:O ddilyn rhesymeg y Calfiniaid felly, mae'r holl Fwslemiaid, Hindwiaid, Iddewon, Anghredinwyr ac eraill yn eneidiau coll nid oherwydd methiant dyn i ledu'r efengyl ond oherwydd penderfyniad Duw nad yw am eu hachub. Mae hyn yn awgrymu nad yw'n ystyried holl bobloedd y byd yn gydradd, nad yw'n ein caru oll yn gyfartal, ac nad oes gan y rhan helaeth ohonom unrhyw ddewis ond wynebu uffern hyd ebergofiant. Mae Calfiniaeth yn gwbl groes i ran helaeth o neges y Beibl!
O'i gymryd allan o'i gyd-destun efallai OND maen bwysig i ti gofio mae hanfod Calfin ydy ffydd NID gweithredoedd. Yn yr ystyr yna mae 'gobaith' gan bawb geisio ffydd (er fe ymddengys na wnaiff pob un wan jac) mae pawb yn gydradd i geisio ffydd. Pe tae ni yn gorfod dibynu ar weithredoedd byddai rhai yn fwy tebygol o gyraedd y nefoedd na'i gilydd. Nid pawb sydd ag amser rhyd bnawn Sul i fynd i weld pobol sal yn yr ysbytu er enghraifft simplistig.
Dwi'n cytuno ei bod hi'n haws bod yn Wesla - mae yn sicr yn ffisig haws i'w lyncu na chalfiniaeth OND er fod en haws, yn arwynebol yn unig mae hynny. Problem sylfaenol Wesleaeth pan maen nhw'n dechrau son am ewyllys rhydd dyn i ddewis ydy fod hynny yn golygu NAD ydy Duw yn holl wybodus a phwerus a fod gan Ddyn ran i'w chwarae yn ei achubiaeth.
O brofiad alla i dystio fod hynny ddim yn wir - drwy ras Duw dwi wedi dod i ffydd nid drwy benderfyniad rhydd fy hun wedi ei seilio ar ymchwil academaidd. Duw achubodd fi - dod i sylwi hynny a neud rwbeth ynglyn a fe nes i.
Hen Rech Flin - pryd a pham nes di ddewis Duw te? Allan o ddiddordeb