Dwi'n meddwl fod awdurdod y beibl yn elfenol bwysig i Gristnogaeth.
O'r Beibl dy ni'n dysgu am y gwirioneddau achubol. Heb y Beibl sut dy ni'n dysgu am ras achubol? Drwy wrando ar bregethwyr? O bosib, ond sut ma nhw yn cael eu deunydd? Wel allan o'i doethineb debyg. Peryglus iawn felly sut bynnag dy chi'n edrych arno fe mae angen ffon fesur i ddatguddio'r gwirionedd - y ffon fesur ydy'r Beibl.
Wedi dweud hynny fedrw chi gredu'r gwirioneddau heb gredu Creationism - dwi'n adnabod rhai efengylwyr blaenllaw (e.e. Stuart Bell, Rheithor St Mihangel yn Aberystwyth - eglwys lwyddiannus a chanoedd ym mhob cyfarfod) sydd ddim yn credu y busnes
Answers in Genesis yma. Alla i ddim uniaethu gyda phwyslais Answers in Genesis chwaith.
Dydy hynny ddim yn golygu serch hynny fy mod i yn fwy nac yn lai o Gristion na Ken Ham neu arweinwyr eraill Answers in Genesis.
Beth sy'n bwysig ydy bo ni gyd yn glir am wirioneddau sylfaenol y ffydd (gweler yr hyn dwi'n gredu ar y wefan
yma) - ma lle i drafod pethau eilradd.
Ond gai nodi mod i yn credu mewn Duw holl-bwerus, ac felly yn credu fod gwyrthiau yn bosib.