Yr Eglwys Gatholig: Dyw Popeth yn y Beibl Ddim yn Wir

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Macsen » Sul 16 Hyd 2005 5:14 pm

Nid gofyn am dystiolaeth ydw i, ond gofyn pam y dylsai dyn fedru ymddiried yn nyfaliad ei ymenydd ond nid ei synhwyrau. Os nad oes modd dibynnu ar y ffaith bod ein synhwyrau yn dangos y byd 'real' i ni, pam felly credu bod ein hymenydd, a'r ffydd grefyddol rydym ni'n teimlo o'i fewn, yn ddibynadwy?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cawslyd » Sul 16 Hyd 2005 5:23 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ti'n gwybod yn iawn erbyn hyn Macsen nad oes yna esbonio dearol/gwyddonol i fywyd ysbrydol.

O'n i'n gwylio rhaglen deledu rhyw ddau/dri mis yn
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 17 Hyd 2005 9:43 am

Rwy'n credu bod y Beibl yn eirwir. Ond yn wahanol i Rhys ni fuaswn yn ddweud ei fod yn "hanesyddol gywir". A hynny am ddau reswm yn bennaf.

Yn gyntaf mae yna rhai pethau yn y Beibl nad yw'r Beibl ei hyn yn honni eu bod yn hanesyddol gywir. Y damhegion er engraifft. Wrth adrodd hanes y Samariad Trugarog - dydy'r Iesu ddim yn rhoi adroddiad hanesyddol cywir am rywbeth a digwyddodd go iawn. Yr hyn y mae o'n gwneud yw rhoi ddarlun ffuglennol sydd yn gymorth i ddeall gwirionedd ei neges.

Yn ail mae ein syniad ni o beth yw hanes yn un fydda
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Mr Gasyth » Llun 17 Hyd 2005 10:59 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Gan hynny mae dadlau am gywirdeb hanesyddol y Beibl yn ymarferiad afraid. Be di'r ots os ydy hanes Jonah yn cael ei lyncu gan bysgodyn mawr yn hanesyddol gywir, neu yn ddameg? Mae'r hyn mae'r stori yn dweud am Dduw, dyn a'u perthynas a'i gilydd yn aros yr un ym mha fodd bynnag y darllenir hi.


A wyt ti'n credu yr un peth am hanes yr Atgyfodiad, a'r 'immaculate conception' (Cymraeg?). Ydi o ots os mai damhegion ydyn nhw: ymgais i gyfleu pwer posib Duw yn hytrach na ffeithiau hanesyddol?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 17 Hyd 2005 12:20 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:Gan hynny mae dadlau am gywirdeb hanesyddol y Beibl yn ymarferiad afraid. Be di'r ots os ydy hanes Jonah yn cael ei lyncu gan bysgodyn mawr yn hanesyddol gywir, neu yn ddameg? Mae'r hyn mae'r stori yn dweud am Dduw, dyn a'u perthynas a'i gilydd yn aros yr un ym mha fodd bynnag y darllenir hi.


A wyt ti'n credu yr un peth am hanes yr Atgyfodiad, a'r 'immaculate conception' (Cymraeg?). Ydi o ots os mai damhegion ydyn nhw: ymgais i gyfleu pwer posib Duw yn hytrach na ffeithiau hanesyddol?


Yn sicr. Yr hyn sy'n bwysig yn adroddiadau'r Beibl am genhedlu gwyrthiol yr Iesu ac am ei atgyfodiad yw'r hyn y maent yn ein dysgu ni am natur ymwneud Duw
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Nôl

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 34 gwestai