Macsen a ddywedodd:huwwaters a ddywedodd:Yn hytrach ma Duw a Iesu yno pan yr ydych chi eu hangen, ac yn barod i wrando a maddau i chi.
A dyna craidd fy mhetruster; ai Cristnogaeth ai Islam sydd mwyaf tebygol o fod yn 'gywir'? I mi mae Duw Cristnogaeth yn fwy 'clen', am ei fod yn fodlon maddau unrhyw dramgwydd. Ond mae'r ffaith ei fod o mor gyfleus yn gwneud i mi ddrwgdybu mae wedi ei greu o amgylch gofynion dyn y mae Duw cristnogaeth a nid i'r gwrthwyneb.
Mae pawb yn mynnu na un nhw sy'n gywir. Toes neb isio clywed bod y peth na chi'n ei gredu, ac yn gwario 3 awr ar Sul yn y capel, 2 awr arall amser cinio gyda'r parchedig a 2 awr arall ynystod yr wythnos, a'ch ffordd yn fyw ac yn gelwyddau, a does dim pwynt disgwyl bywyd ar ol.
Ond os mae pobl yn cymyd mantais o Duw clen, sef, be bynnag dwi'n ei wneud, mi gaf maddeuant, ddim yn Griston felly. Gwir Cristion, fel yr oedd Iesu, yw rhywun sy'n rhoi fyny eu holl eiddo, a phopeth sydd o bwys iddynt, ac yn mynd ati i'w ddilyn a chrwydro gan wneud da. Praint o Gristnogion ydych chi'n adnabod sy'n gwenud felly? Dyna yw'r diffiniad 'ultimate' o Gristnogaeth, ond nid yw'n ymarferol yn ein bywydau. Yr ydym gyda safon o fyw ardderchog ers cychwyn hanes, ac mae angen trydan i wresogi ein tai, a gweithwyr caled eraill sy'n sicrhau gwasanaethau a bwyd.
O safbwynt Duw mae Islam yn gwneud lot mwy o synnwyr i mi. Beth yw'r pwynt i Duw roi ewyllus rhydd i'w bobl os yw'n ymyrryd yn eu bywydau, hydynoed yn dewis y ffyddlon o'u plith? Nid yw Allah yn ymyrryd. A yw hi'n ataliad yn erbyn pechod os yw Duw yn fodlon maddau unrhyw bechod? Nid yw Allah yn maddau pechod, felly mae mwy o gymhelliant i beidio a pechu.
Credaf dy fod yn anghywir fan hyn. Y mae pob Duw sydd erioed wedi bod yn eich caru ac yn barod i maddau, neu byddwch yn meddwl, pam dwi dal yn bodoli? Fel yr ydwyf wedi dweud, diwylliant Islam sy'n rhwystro'r crefydd. Daeth Jihad ond i fodolaeth gyda Rhyfel y Crwsad, ond fel Iddewiaeth a Christnogaeth 'Na Ladd' yw un o sylfaenau'r crefydd. Nath y Rhufeiniaid hefyd ddefnyddio enw crefydd gan fod yn wrthwynebwyr i'r Mwslemiaid yn y rhyfel. Gan wneud y Groes yn symbol militaraidd. Y Byzantiaid Dwyrain (Istanbul) oedd y credwyr mawr gyntaf o Gristnogaeth tra'r oedd Rhufain yn credu mewn paganiaeth.
Wrth gwrs, i fyd lle nad yw Alla wir yn bodoli mae Islam yn beth drwg iawn. Mae eu diffyg gallu i adael i bobl eraill fyw fel y mynnent yn achosi gwrthdaro a marwolaeth bob diwrnod. Bendith Cristnogaeth yw bod ei prif arf, gweddio, ddim yn brifo neb.
Ymerodaeth diwylliant yw hwn, fel sy'n cael ei ail-adrodd gyda'r UDA. Nid Saesneg mae pobl yn Siapan neu gweldydd eraill yn ei siarad, ond Americanaidd, a ddysgant gan y wasg a'r ffilmiau.
Byswn i ddim yn cydoddef dinistr Islam am fod rhaid parchu diwylliant eraill - a mae crefydd yn hollbwysig i ffynnu diwylliant a iaith. Ond gobeithio, wrth i wledydd Islamaidd fynd yn fwy 'civilized', bydd y pwyslais yn symud o'r trais i'r cyd-dynnu, fel y digwyddodd gyda'r Cristnogion.
Dyma un enghraifft o sut mae Cristnogaeth wedi esblygu i ffitio bywydau pobl. Un peth sy'n angenrheidiol o'r ffydd Islam, yw'r ffaith fod rhai i bawb wybod Arabeg, sy'n eu rhwystro ac yn fygythiad i iaith fel Cymraeg yr un faint a Saesneg.