Pechod Dyn yn gwrthbrofi perffeithrwydd Duw?

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pechod Dyn yn gwrthbrofi perffeithrwydd Duw?

Postiogan dawncyfarwydd » Sad 15 Hyd 2005 10:59 pm

Hwn wedi dod o edefyn arall, dwi'n meddwl ei fod o yn werth ei drafod.
Macsen a ddywedodd:Os yw Duw yn berffaith, a Duw yn dechreuad popeth, Duw oedd dechreuad anfad. Ond mae'r Beibl yn deud i'r gwrthwyneb, sydd ddim yn gwneud synnwyr o gwbwl. Cloerdyllau di-ri.


Dwi wedi blino braidd, felly dyma gwpwl o lincs yn trafod y mater:
Why did God create us with sin in the world?
The Glory of God in the Problem of Evil
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Macsen » Sad 15 Hyd 2005 11:10 pm

Mae'r atebion yna'n hollol ddychrynllyd.

If this is true, then it might just be that God had to create the universe so that the fall would be included in His plan for the very purpose of demonstrating and manifesting His perfect character: Love! To demonstrate the very greatest part of His nature of love, He would have to die for someone else. This could not be done if there was no one to die for and no reason to die for them. There could be no reason to die if there were no need for an atonement. There would be no need for an atonement if there were no sin. If there was no fall, there would be no sin.


Beth fysai'n cyfateb i hyn? Fi yn torri dy goes di fel bod modd i mi dy nyrsio yn ol i iechyd wedyn?

God allowed evil because the temporary presence of evil in the universe would result in the greatest glory to His name.


I ddweud y gwir, mi fysai fel fi'n torri dy goes di tra'n smalio bod yn rywun arall (y Diafol) ac yna dy nysrio nol i iechyd a cymryd y clod am bopeth.

Dychrynllyd. Ai dyma'r bod holl-bwerus wrth llyw y fydolaeth? Byswn i'm yn cymryd siwrnai car gyda fo, rhag iddo chwalu'r car mewn i wal dim ond i ddangos ei fod o'n medru edrych ar fy ol mewn stad llystyfiannol.

Cofiwch y bydd y mwyafrif o'r ddynoliaeth, y rhai sy'n mynd i uffern, yno am byth bythoedd. Felly hyd yn oed drwy arddangos ei gariad mae Duw wedi damnio y mwyafrif i dragwyddoldeb o artaith.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 16 Hyd 2005 1:05 pm

Swn i'n dadlau fod y ddelwedd yn rhywbeth tebycach i'r hyn sydd na yn Angels and Demons - pa fath o dad fyddai yn cuddio mab rhag pob peth drwg? Mae Duw yn Eden fel tad sy'n gadael i'w fab fynd ar feic heb stabilisers am y tro cynta; mae o'n gwybod fod perig i'r hogyn ddisgyn ond fedar o ddim gadal y stabilisers yno am byth, hynny ydi mae o'n caniat
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Macsen » Sul 16 Hyd 2005 1:31 pm

Rydw i wedi clywed y ddadl yma o'r blaen a mae hi'n anghywir. Fel mae'r erthyglau wnest ti ei dyfynu yn ei dweud, roedd Duw yn gwybod beth oedd am ddigwydd o'r cychwyn cyntaf. Roedd o'n gwybod bod dyn yn mynd i ddisgyn mewn i bechod a bysai rhaid ei achub. Roedd o'n gwybod y bysai ei fab yn disgyn oddi ar y beic a torri ei goes.

Mae'n eironig mai cristnogion sy'n anghofio gallu hollbwerus Duw pan yn dadlau ar y pwynt yma. Duw sy'n creu'r rheolau, Duw sy'n creu da a drwg, does dim rhaid i Duw wneud un peth er mwyn profi peth arall. Nid yw'n gaeth i ddim. Mae dy ddamcaniaeth yn dibynnu ar y ffaith fod Duw fel dyn; nid yw'n gwybod be fysai'n digwydd i'w fab petai fo'n mynd ar ei feic heb stabilisers. Ond mae Duw yn gwybod popeth, yntydi? Os wyt ti'n gyrru dy blentyn i ffwrdd ar feic yn gwbod ei fod o am dorri' goes, waeth i ti dorri'r goes dy hun ddim (ond bysai hynny ddim yn gwneud lles i ddelwedd dy fab ohona ti, na fysai? Bysai'n anhebyg i dy addoli am filoedd o flynyddoedd beth bynnag.).

Mae dy ddamcaniaeth uchod yn awgrymu bod Duw yn meddwl bod pechod yn beth llesol i'r ddynoliaeth. Ydi Duw felly yn gwbwl dda? A fysai'n llesol i Duw petai o'n pechu? Oes da mewn pechod?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 17 Hyd 2005 12:48 pm

Dydy Duw heb ddewis datgan inni yn yr ysgrythurau pam ei fod wedi caniat
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Macsen » Llun 17 Hyd 2005 4:00 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Dydy Duw heb ddewis datgan inni yn yr ysgrythurau pam ei fod wedi caniat
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mr Gasyth » Llun 17 Hyd 2005 5:39 pm

Macsen a ddywedodd:Ond mae'r Beibl yn dysgu fod Duw yn casau pechod, ag mai y Diafol ddaeth a pechod i mewn i'r byd. Mae hyn yn ymddangos i mi fel gwrthddywediad eithaf sylfaenol yn y Beibl. Nid yw'r Cristion yn honni fod Duw yn berffaith yn unig, ond ei fod O'n berffaith dda.


Mae yna wrth-ddywediad arall ynghlwm wrth hyn hefyd, sef fod y Beibl yn honi fod Duw yn holl-alluog. Byddai Duw holl-alluog sy'n casau pechod yn cael gwared ar bechod a'r Diafol a'i greodd.

Cytno Macsen mai cyfres o ddamhegion wedi ei hysgrifennu gan bobl oedd yn rhannu fwy neu lai yr un credodau ond heb unioni eu safbwyntiau cyn eu rhoi lawr ar bapur yw'r Beibl. Mae'n amhosib y byddai Duw holl-alluog, holl-wybodus a holl-bwerus wedi ysgrifennu'r fath flerwch llawn gwrth-ddywediadau petai am i bobl ei ddilyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 17 Hyd 2005 5:43 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Mae yna wrth-ddywediad arall ynghlwm wrth hyn hefyd, sef fod y Beibl yn honi fod Duw yn holl-alluog. Byddai Duw holl-alluog sy'n casau pechod yn cael gwared ar bechod a'r Diafol a'i greodd.
...drwy farwolaeth Iesu Grist.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 17 Hyd 2005 6:34 pm

Macsen a ddywedodd:Yr unig ateb sy'n weddill i Gristnogion yw fod y Beibl yn anwiredd, neu'n ddameg, sy'n darlunio Duw fel un peth, 'da', tra ei fod o wir yn greadur llawer mwy cymleth. Digon teg, a digon posib.


"Yr unig ateb", myn uffar' - be ydy hwn dyfyniad allan o'r Efengyl yn
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Macsen » Llun 17 Hyd 2005 7:10 pm

Ac unwaith eto mae fy nhrafodaeth gyda cristnogion yn mynd yn yr un hen gyfeiriad. Ei brwdfrydedd cynnar i drafod yn gyflym droi'n "dalia di mlaen i ofyn cwestiynnau anodd a bydd dy enaid yn rhostio'n uffer machan i," neu amrywiad ar y themau 'na.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae'r ddau yn gwybod gymaint am natur duw fel eu bod yn gwybod bod dim modd iddo fod yn Dduw da os ydyw yn goddef bodolaeth pechod.


Petai ti'n fodlon darllen a clywed y dadleuon cyn pwtio fi a Mr Gasyth oddi ar gwch y melltith mewn i afonydd tanllyd Annwn byset ti'n gweld for yr uchod yn rwtsh. Fel y dywedais i, os bo Duw yn bodoli mae'n debyg ei fod yn dduw cymhleth tu hwnt i'n gallu i'w ddeall. Ond nid yw'r Duw yr ydym ni'n cael cip arno yn y Beibl (pegwn yr mynydd i
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai