Lle Criw Duw ar y maes

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lle dyle trafodaethau Diwinyddol bod?

Yn agored i bawb
8
53%
Cylch cyfunedig i aelodau
7
47%
Arall
0
Dim pleidleisiau
 
Cyfanswm pleidleisiau : 15

Lle Criw Duw ar y maes

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 20 Hyd 2005 3:48 am

Rwy'n cael anhawster efo "ethos" Criw Duw, fel y mae.

Be di pwrpas y cylch?

Rwyf am i bob aelod o'r Maes, ac eraill, deall eu bod yn bechaduriaid a chlywed am neges yr Efengyl a bod modd iddynt gael eu gwared trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist.

Rwy'n fodlon wynebu her pawb ar y Maes, nid yn unig yr un neu ddau sydd wedi ymuno a'r parth, er mwyn ateb eu gwrthwynebiadau i'r Efengyl.

Mae dadlau o blaid hawl y Cymry, fel dadlau o blaid achubiaeth yr enaid, yn rhan o'm modolaeth - pam bod y naill yn agored i bawb, ond y llall dim ond ar gael tu nol i len?

Rwy'n gweld pwrpas i barth ar wah
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Mr Gasyth » Iau 20 Hyd 2005 9:47 am

Dwi'n meddwl i Grwi Duw gael ei agor i gychwyn gan fod unrhyw drafodaeth am grefydd ar y Maes yn tueddu i fynd yn fler, yn yr un modd a'r trafodaethau gwleidyddol ar adegau. Gan fod crefydd yn fater sensitif y mae gan bobl teimladau cryf yn ei gylch agorwyd cylch preifat lle gellid cyfyngu'r aelodaeth i bobl oedd wir am drafod crefydd yn gall.

Mae gweddill dy gyfraniad yn gymysglyd (mwy o acrobatiaeth deallusol efallai :winc: )

Hen Rech Flin a ddywedodd:Rwy'n fodlon wynebu her pawb ar y Maes, nid yn unig yr un neu ddau sydd wedi ymuno a'r parth, er mwyn ateb eu gwrthwynebiadau i'r Efengyl.


Hen Rech Flin a ddywedodd:Yr unig bwrpas i "Griw Duw", fel lle cyfrin, yw fel lle i gredinwyr cyd drafod a chicio tinau eu cilydd allan o olwg angrhedinwyr. Dibwynt yw ei fodolaeth tra bod anghredinwyr yn aelodau.


Pa un yw hi i fod? Tydw i ddim yn gweld pam na alli di a rhys anghytuno o flaen Anghredinwyr ac yn wir, y drafodaeth o'r gwahaniaethau rhwng Calfiniaid a Wesleaid oedd un o'r rhai mwyaf diddorol dwi wedi weld ar y maes. Dwi'n meddwl dy fod ti (a Rhys i raddau) yn euog o feddwl jest am nad yw rhywyn yn grediniwr na all gael ei ben rownd rhai o fanylion athronyddol Crefydd. Tydi peidio bod yn Gristion ddim yn atal rhywyn rhag gallu dadansoddi a thrafod y Beibl a gweithiau crefyddol eraill, mwy na mae peidio bod yn Gomiwnydd yn atal person rhag deall The Communist Manifesto neu Das Capital.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Macsen » Iau 20 Hyd 2005 12:26 pm

Mae gan Criw Duw tua 120 aelod, a mae'n agored i unrhyw un sydd am ymuno. Os wyt ti am gyraedd y mwyaf o bobl a bo modd, dylset ti fod yn prygethu ar Stryd y Frenhines yn Nghaerdydd ar bnawn Sadwrn, neu yn Stadiwm y Mileniwm cyn gemau rygbi Cymru. Dim ond praidd fach gynnil i fath 'arebennig' o berson yw Maes-E wedi'r cwbwl.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Lle Criw Duw ar y maes

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 20 Hyd 2005 4:57 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Rwy'n gweld pwrpas i barth ar wah
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Lle Criw Duw ar y maes

Postiogan Macsen » Iau 20 Hyd 2005 5:06 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd:Dwi'n credu fod hyn yn wir - swn i'n licio gofyn ambell i beth ond ddim eisiau gwneud hynny yn rhywle lle gall anghredinwyr ymyrryd a throi'r peth i'w melin eu hunain.


Dwi'm yn credu bod neb yma yn ceisio troi dim ar unrhyw 'felin'. Nid sgorio pwyntiau yn y rhyfel epig rhwng crefydd ac anghrediniaeth yw'r nod, ond dod i ddealltwriaeth gwell o bynciau trwy ei trafod nhw. Mi allet ti greu fforwm i gristnogion yn unig, ond yr unig effaith fysai sensro lleisiau eraill all dy arwain di at dealltwriaeth pellach o dy ffydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 20 Hyd 2005 5:51 pm

Diolch am ddileu brawddeg ola'r dyfyniad :winc:

Dwi'n gwybod y byddai perig i hynny ddigwydd, ond byddai bwriad y ddau le yn wahanol - un yn trafod crefydd a Christnogaeth yn gyffredinol a'r llall yn trafod profiadau fel Cristion ac yn dysgu mwy i Gristnogion am eu ffydd. Dydi hynny ddim yn digwydd yma oherwydd mai'r prif beth yn y cylch ydi dadlau ynghylch geirwirdeb y Beibl etc. Mewn fforwm Cristnogol byddai cymaint o ddadlau, o bosib, ond hynny ynghylch materion diwinyddol o safbwyntiau gwahanol yn yr Eglwys ac nid o safbwyntiau mor wahanol ag anghredinwyr a Christnogion.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Mr Gasyth » Iau 20 Hyd 2005 6:13 pm

Dwnim am Macsen ond y rheswm dwi'n cymeryd rhan yn Criw Duw ydi achos mod i isho deall mwy am grefydd a'r sawl sy'n eu dilyn. Er nad wyf yn gediniwr, mae gennyf ddiddordeb mewn diwinyddiaeth. Er nad wyf yn deall safbwyntiau'r credinwyr, rwy'n parchu'r safbwyntiau hynny, ond mae'n ymddangos fod Cristnogion yn teimlo'n anghyffordus yn trafod eu crefydd o flaen pobl fel fi. Pam?

Mae trafod efo cristnogion yn Criw Duw wedi gwneud i mi ddeall fy angrediniaeth yn well, ac wedi ei wneud yn gadarnach. Buaswn yn hoffi meddwl bod Cristnogion yn gweld eu ffydd yn cael eu atgyfnerthu o gael anghredinwyr yn profi eu sfabwyntiau o ongl newydd. Nid drwy drafod ymysg pobl o'r un meddylfryd mae dod i ddeall pethau ond drwy gael eich safbwyntiau wedi eu procio a'u cwestiynu. Efallai mai dyma'r broblem? Siawns nad ydi'r procio a chwestiynu gen i a Macsen wedi peri i chi deimlo'r angen i redeg i ffwrdd i'ch ystafell eich hun ble nad oes cwestiynau anodd yn cael eu gofyn?!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 20 Hyd 2005 8:23 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Dwnim am Macsen ond y rheswm dwi'n cymeryd rhan yn Criw Duw ydi achos mod i isho deall mwy am grefydd a'r sawl sy'n eu dilyn. Er nad wyf yn gediniwr, mae gennyf ddiddordeb mewn diwinyddiaeth. Er nad wyf yn deall safbwyntiau'r credinwyr, rwy'n parchu'r safbwyntiau hynny, ond mae'n ymddangos fod Cristnogion yn teimlo'n anghyffordus yn trafod eu crefydd o flaen pobl fel fi. Pam?

Mae trafod efo cristnogion yn Criw Duw wedi gwneud i mi ddeall fy angrediniaeth yn well, ac wedi ei wneud yn gadarnach. Buaswn yn hoffi meddwl bod Cristnogion yn gweld eu ffydd yn cael eu atgyfnerthu o gael anghredinwyr yn profi eu sfabwyntiau o ongl newydd. Nid drwy drafod ymysg pobl o'r un meddylfryd mae dod i ddeall pethau ond drwy gael eich safbwyntiau wedi eu procio a'u cwestiynu. Efallai mai dyma'r broblem? Siawns nad ydi'r procio a chwestiynu gen i a Macsen wedi peri i chi deimlo'r angen i redeg i ffwrdd i'ch ystafell eich hun ble nad oes cwestiynau anodd yn cael eu gofyn?!


cytunaf - maen beth da bod mewn ymryson a rhywyn sy'n credu yn wahanol a chi.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 21 Hyd 2005 4:50 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Mae gweddill dy gyfraniad yn gymysglyd (mwy o acrobatiaeth deallusol efallai :winc: )

Nid oes dim yn y cyfraniad gwreiddoiol sydd yn ddryslyd, yn gymysglyd nac yn dangos fy nawn dafyddelistomosaidd.

Yn syml; wrth drafod pethau megis "A oes modd i bechadur dod i adnabod Iesu Grist?" mi fydda'n well gennyf wynebu storm holl ddefnyddwyr y Maes.

(Parthed Sylwadau Macsen yr wyf wedi pregethu ar strydoedd Caerdydd, Aberystwyth, Abermaw, Abertawe, Caerfyrddin, Aberteifi, Wrecsam, Llandudno a nifer o drefydd eraill Cymru).

Weithiau mae angen trafod pethau efo cyd Gristionogion. Sut mae ymateb i wefan Pat Buchanan, wrth i'r Cristion "ffiaidd" dweud pethau nad ydynt yn dderbyniol i Gristion o Gymro?

Be di'r ffordd gorau i ymateb i broblem anodd o ran dysgeidiaeth? - Gan gadw'r broblem yng nghylch credinwyr fel na all eraill defnyddio fy "ansicrwydd" fel arf yn fy erbyn ym mhen y rhawg.

Ac ati ...

Mae ambell i beth sydd angen ei gyhoeddi i'r Byd a'r Betws - ond weithiau mae angen rhyw gornel bach tawel o'r Betws lle nad yw'r Byd yn ymyrryd!

Prin bod angen Ddoethuriaeth Arglwydd i ddeall ddilisrwydd y gwahanol anghenion!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai

cron