Nifer aelodau

Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored.

Cymedrolwr: Rhys Llwyd

Rheolau’r seiat
Cyfle i bawb drafod pob ffydd a Chrefydd dan haul yn gwbwl agored. Pwyswch yma i weld canllawiau mwy manwl. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Nifer aelodau

Postiogan dawncyfarwydd » Sad 22 Hyd 2005 11:30 pm

Am i Rhys ofyn mor neis i sian, dyma graff yn dangos y gostyngiad yn nifer aelodau Capel Maes-y-neuadd, Trefor o 1976-2004.
Delwedd
BLWYDDYN NIFER
1976 156
1977 154
1978 148
1979 152
1980 153
1981 151
1982 148
1983 145
1984 144
1985 143
1986 145
1987 143
1988 140
1989 142
1990 136
1991 136
1992 136
1993 136
1994 127
1995 122
1996 120
1996 117
1997 107
1998 103
1999 95
2000 95
2001 94
2002 92
2003 89
2004 89


Yr unig golledion, ar y cyfan, ydi marwolaethau, ac er ei bod hi'n gynulleidfa dda o gymharu
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Macsen » Sad 22 Hyd 2005 11:39 pm

Sut mae Capel yn rhedeg heb weinidog? Ydi hi mwy fel seminar nag darlith ar y Sul?

Fysai'n ddiddorol gweld graffiau tebyg i rhain am y wlad gyfan. Mae'n ymddangos o'r graff yna bod y mileniwm wedi arafu'r nifer a oedd yn gadael y capel...
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mali » Sad 22 Hyd 2005 11:59 pm

Nid anisgwyl oedd gweld y graff. Diddorol fasa gwybod faint o ieuenctid sydd 'na yn cymeryd lle y rhai sydd wedi symud/marw.
Anodd meddwl am gapel heb weinidog rhywsut. 'Roedd gennym weinidog gwerth chweil yn ein Capel adref ....un a oedd wedi bod yno ers bron i 40 mlynedd , ac yn fawr ei barch efo'r aelodau... h
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 23 Hyd 2005 10:23 am

Macsen a ddywedodd:Sut mae Capel yn rhedeg heb weinidog? Ydi hi mwy fel seminar nag darlith ar y Sul?
Na, ddim o gwbwl. Mae 'na bregethwr bob Sul bron iawn, ac os nad oes yna un mi fydd aelodau o'r gynulleidfa yn cymryd rhan.
Mantais cael gweinidog - oni bai am waith bugeiliol a phethau felly - ydi y bysan ni'n cael rhyw fath o ddilyniant yn y pregethau ac un agwedd bendant, lle mae gynnon ni rwan bobol
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 23 Hyd 2005 2:48 pm

Mali a ddywedodd:Oes 'na brinder gweinidogion felly ?


Oes, prinder enfawr. Edrych ar y stats isod, Methodistiad Calfinaidd yn ddychrlynllyd o drist:

Eglwys yng Nghymru
Eglwysi: 1495
Gweinidogion: 629 (+100 rhan amser)

Eglwys Bresbyteraidd Cymru (MC)
Eglwysi: 765
Gweinidogion: 70 (+19 rhan amser)

Undeb Annibynnwyr Cymraeg
Eglwysi: 484
Gweinidogion: 116 (+103 a chyfrifoldebai llai a 38 o rai lleyg)

Man debyg fod na ardaloedd yn Ne Cymry gan y Meth. Cal. sydd ac 1 gweinidog yng Ngofal 25 eglwys!

Dawnycyfarwydd - pwy sy'n dod i bwllheli?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mali » Sul 23 Hyd 2005 9:11 pm

Diolch Rhys.
MC oeddwn i adref ....ti'n iawn , mae'r ffigyrau yn dorcalonus. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 23 Hyd 2005 9:37 pm

Mali a ddywedodd:Diolch Rhys.
MC oeddwn i adref ....ti'n iawn , mae'r ffigyrau yn dorcalonus. :(


O ran diddordeb wyt ti'n mynychu capel/eglwys allan yng Nghanada? Os wyt ti pa fath o un?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mali » Sul 23 Hyd 2005 10:18 pm

Ydw , dwi'n mynd yn reolaidd i'r Eglwys Anglicanaidd ....cymun a gwasanaeth syml sydd yn dilyn y llyfr Gweddi Gyffredin.
Ac mi fyddai'n dweud Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg .
Dim ond tua dwsin fydd yn mynychu'r gwasanaeth am wyth y bore , ond mae'r eglwys yn weddol llawn am ddeg .

Canu gwael ....dim gystal ac yn y capeli adref !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 27 Hyd 2005 4:34 pm

Mali a ddywedodd:...Ac mi fyddai'n dweud Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg


:D cwl

oes yna eglwysi anghydffurfiol yna o gwbl?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mali » Sul 20 Tach 2005 6:04 pm

Helo Rhys,
Mae'n ddrwg gen i am gymeryd gymaint o amser i ateb dy gwestiwn...gwell hwyr na hwyrach , ac ar ddydd Sul hefyd !
Dyma restr allan o'r 'Worship Directory' sydd gennym yma yn Nyffryn Comox:

Pentecostal a
Catholic ........y ddwy eglwys dan eu sang ar ddydd Sul a'r eglwys Pentecostal yn enwedig yn boblogaidd iawn efo'r ifanc.
Baha'i
Evangelical
Baptist
Presbyterian
Lutheran
Unity
Abundant Life
Alliance
Church of Christ
Unitarian
Gospel Assembly
Fellowship Baptist
Faith Lutheran
Foursquare Church
Aaron House Christian Fellowship
Community Church
United Church
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Ffydd a Chrefydd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai